Skip to main content

Ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn rhannu arferion dysgu digidol

Digital Leaders 2025

Daeth ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf at ei gilydd ddydd Llun 7 Mehefin a dydd Iau 10 Mehefin i arddangos a dathlu dysgu digidol. Mae'r ysgolion wedi bod yn cydweithio i ddatblygu ymarferion arloesol i gefnogi datblygiad sgiliau digidol o fewn y Cwricwlwm i Gymru, a chyflwynwyd Gwobr Arweinwyr Digidol sy’n Ddisgyblion Rhondda Cynon Taf, sef uchafbwynt rhaglen y maen nhw wedi cymryd rhan ynddi i wella arweinyddiaeth ddigidol o fewn ysgolion. Mae'r cynllun yn rhan o Strategaeth Ddigidol Rhondda Cynon Taf ar gyfer ysgolion, a gaiff ei hariannu gan HWB Llywodraeth Cymru.

Mae dysgu digidol wedi dod yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol ac mae Carfan Ddigidol ar gyfer Ysgolion Rhondda Cynon Taf wedi datblygu Rhwydwaith Arweinwyr Digidol i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd yn eu taith i ddysgu digidol effeithiol. Mae rhaglen Technoleg Addysg Hwb Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £100 miliwn er mwyn helpu i drawsnewid isadeiledd digidol a darparu mynediad at ddyfeisiau digidol ar draws pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Deilliodd yr achlysur Arddangosfa Ddigidol Rhondda Cynon Taf, a gafodd ei gynnal ar 7 Gorffennaf yng Ngholeg y Cymoedd, o lwyddiant achlysur y llynedd. Yn ystod yr achlysur diwrnod o hyd yma, cyflwynodd ysgolion ystod o brosiectau yn hyrwyddo dysgu digidol ar draws y cwricwlwm a chydweithio rhwng ysgolion.

Gwahoddwyd holl ysgolion Rhondda Cynon Taf i fynychu yn ogystal â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, carfan Gwella Ysgolion Rhondda Cynon Taf, y garfan Gwella Digidol a TGCh, Consortiwm Canolbarth y De a Technocamps. Cafodd yr ysgolion gyfle i wrando ar ystod o siaradwyr gwadd a dewis o blith ystod o weithdai yn tynnu sylw at arfer effeithiol mewn dysgu digidol, gan gynnwys:

Cryfhau Cydweithio Digidol ar draws clwstwr Aberdâr – wedi'i gyflwyno gan Michelle Lloyd, Ysgol Gynradd Llwydcoed

Lleisiau Canol Cwm Rhondda: prosiect cydweithio digidol sy'n canolbwyntio ar orffennol, presennol a dyfodol y gymuned o fewn Clwstwr Ysgol Nantgwyn

Wedi'i gyflwyno gan Kayley Bartlett a Danielle Hipkiss, Ysgol Gynradd Cwm Clydach

Arweinyddiaeth Ddigidol Disgyblion: Cefnogi'r Gymuned i gadw'n ddiogel ar-lein

Ceryn Morgan, Ysgol Gynradd Trehopcyn

Datblygu Dysgu Digidol Effeithiol o fewn Clwstwr Treorci

Wedi'i gyflwyno gan Owen Wrangham, Ysgol Gynradd Penyrenglyn a Neil Arthur, Ysgol Gynradd y Parc

Addysg Adeiladaeth gyda 'Minecraft Education Edition'

Wedi'i gyflwyno gan Ddosbarth Mr Lucas (Blwyddyn 4/5), Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn ac yn cynnwys gwaith disgyblion Blwyddyn 4/5 Ysgol Gynradd y Cymer

Dylunio ar gyfer Dysgu – Cydweithrediad Argraffu 3D: cydweithrediad rhwng Ysgol Gymuned y Porth a Phrifysgol De Cymru

Wedi'i gyflwyno gan Owen Jones, Ysgol Gymuned y Porth

Creu Ystafelloedd Dianc i wella Dysgu ar sail Ymholiadau

Wedi'i gyflwyno gan Kate Lewis, Ysgol Gynradd Treorci

Roedd yna hefyd ystod o weithdai yn canolbwyntio ar seiberddiogelwch a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ddiogel i gefnogi dysgu ac addysgu, wedi'i gyflwyno gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Hwb, Consortiwm Canolbarth y De a Charfan Cydnerthedd Digidol Llywodraeth Cymru.

Cafodd achlysur Arweinwyr Digidol sy’n Ddisgyblion Rhondda Cynon Taf ei gynnal ar 10 Gorffennaf ym Mhrifysgol De Cymru. Daeth disgyblion sy'n arweinwyr digidol o dros 30 o ysgolion ynghyd i rannu sut maen nhw wedi bod yn cefnogi arweinyddiaeth ddigidol yn eu hysgolion a'u cymunedau. Yn ogystal â rhannu eu dysgu, cymerodd disgyblion sy'n arweinwyr digidol ran mewn her ystafell ddianc cyn derbyn eu gwobr am gymryd rhan yn rhaglen eleni.

Cafodd Gwobr Arweinwyr Digidol sy'n Ddisgyblion Rhondda Cynon Taf ei gyflwyno gan Tim Britton, Pennaeth Cyflawniad yn Rhondda Cynon Taf – Sector Cynradd. Cafodd y wobr ei dyfarnu am gyflawni ystod o gerrig milltir yn ystod rhaglen Arweinwyr Digidol sy’n Ddisgyblion Rhondda Cynon Taf.  Eleni hefyd oedd y flwyddyn gyntaf i gael gwobr Llysgennad Digidol Rhondda Cynon Taf, gan adeiladu ar yr arfer da a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Cafodd ysgolion a gymerodd ran gyfle i weithio gyda'r gymuned i gefnogi menter ledled Rhondda Cynon Taf i gadw pobl yn ddiogel ar-lein trwy nodi gwybodaeth anghywir a chamwybodaeth.

Yr ysgolion a dderbyniodd y wobr eleni oedd:

Gwobr Arweinwyr Digidol sy’n Ddisgyblion Rhondda Cynon Taf

Ysgol Iau Tonpentre

Ysgol Gynradd Llwydcoed

Ysgol Gynradd y Cymer

Ysgol Gynradd Meisgyn

Ysgol Gynradd Mihangel Sant Eglwys

Ysgol Gynradd Cwm-bach

Ysgol Gynradd Penrhiwceiber

Ysgol Gynradd Oaklands

Ysgol Gynradd Ynys-boeth

Canolfan Addysg Tai

Ysgol Gynradd Gymuned Abercynon

Ysgol Gynradd Tref Aberdâr Yr Eglwys Yng Nghymru

Ysgol Gynradd Penyrenglyn

Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn

Ysgol Gynradd y Gelli

Ysgol Gynradd Cwmaman

Ysgol Gynradd Ynys-hir

Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith

Ysgol Gynradd Maes-y-bryn

Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi

Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen

Ysgol Gynradd Tonysguboriau

Ysgol Gynradd Llwynypïa

Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy

Ysgol Gynradd Parc y Darren

Ysgol Gynradd y Parc

 

Gwobr Llysgennad Disgyblion Rhondda Cynon Taf

Ysgol Gynradd Brynnau

Ysgol Gatholig Seintiau Gabriel a Raphael

Ysgol Gynradd Trehopcyn

Ysgol Gynradd Treorci

 

Meddai James Protheroe, Swyddog Arweiniol Rhondda Cynon Taf ar gyfer Dysgu Digidol mewn Ysgolion: "O helpu eraill i aros yn ddiogel ar-lein neu ddatblygu sgiliau digidol, i gyfathrebu â rhieni a'r gymuned leol, mae'r disgyblion yma'n chwarae rhan bwysig wrth arwain dysgu digidol yn eu hysgolion.

"Mae'r achlysur arddangos dysgu yn parhau fel dathliad blynyddol o ddysgu digidol ledled Rhondda Cynon Taf, i rannu gwybodaeth bellach ac arferion gorau mewn dysgu digidol."

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Dyna ddiwrnod gwirioneddol lwyddiannus i ysgolion Rhondda Cynon Taf rannu arferion gorau a dysgu am ddyfodol dysgu digidol. Roedd HWB Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn wych wrth gefnogi'r cynllun yma ac addysgu'r ysgolion am ddiogelwch ar-lein, wrth hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael i athrawon sy'n integreiddio dysgu digidol i'r cwricwlwm.

"Rydw i'n falch iawn o'r disgyblion sy'n arweinwyr digidol ac yn awyddus i weld y dyfodol y rhaglen a sut mae'n datblygu dysgu yn y dyfodol o fewn ysgolion Rhondda Cynon Taf, gan baratoi'r disgyblion ar gyfer y dyfodol."

Wedi ei bostio ar 22/07/2025