Trowch ddalen newydd ac ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd y gwanwyn yma.
Ar ôl gaeaf oer a gwlyb, mae'n bosibl bod trigolion Rhondda Cynon Taf yn gobeithio cael bach o heulwen i helpu eu gerddi i flodeuo.
Bydd llawer o drigolion yn dechrau mynd i'w gerddi am y tro cyntaf ers misoedd a rhoi bach o sylw iddyn nhw – ond beth fyddwch chi'n ei wneud â thoriadau'r llwyni, toriadau'r lawnt a'r darnau o blanhigion?
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn atgoffa ei drigolion y bydd Carfan Gofal y Strydoedd yn dod i gasglu'ch holl wastraff gwyrdd wrth ochr y ffordd yn rhan o'r gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu wythnosol dros yr haf. Bydd y gwasanaeth yn ailddechrau ddydd Llun 15 Mawrth.
Mae modd i drigolion ailgylchu'r holl wastraff o'u gerddi, gan gynnwys toriadau, llwyni, blodau a brigau. Y cyfan y mae angen i drigolion ei wneud yw rhoi'r gwastraff gwyrdd yn y bagiau ailgylchu clir arferol a'u gadael nhw wrth ochr y ffordd ar eu diwrnod casglu arferol.
Peidiwch â rhoi pridd yn eich gwastraff gwyrdd oherwydd nad oes modd i ni ei ailgylchu yn rhan o'n cynllun casglu gwastraff gwyrdd wrth ochr y ffordd ar hyn o bryd. Cadwch eich gwastraff gwyrdd ar wahân i'r gwastraff ailgylchu arferol oherwydd bod gwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu a'i ailgylchu ar wahân.
Er ei fod yn cael ei gasglu ar yr un diwrnod â gwastraff bwyd ac ailgylchu sych, caiff gwastraff o'r ardd ei gasglu gan gerbyd gwahanol – ond efallai ar adeg wahanol o'r dydd. Yn ystod cyfnodau prysur, mae'n bosibl y bydd oedi o ran casglu. Rhowch eich gwastraff yn y man casglu arferol a byddwn ni'n ei gasglu cyn gynted â phosibl.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:
“Mae rhagor o drigolion Rhondda Cynon Taf yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu wythnosol wrth ochr y ffordd. Mae'n wych bod cynifer o'n trigolion ni'n frwdfrydig ynglŷn â'n hamgylchedd.
“Rwy’n annog ein holl drigolion nad ydyn nhw'n ailgylchu ar hyn o bryd i newid eu harferion ac ymuno â’ch cymdogion a ffrindiau trwy ymdrechu i ailgylchu gwastraff o'r ardd hefyd.”
Nodwch: Does dim modd i'r Cyngor gasglu celfi patio na siediau sy'n hen neu sydd wedi'u difrodi. Serch hynny, mae modd mynd â'r rhain, ynghyd â gwastraff arall o'r ardd gan gynnwys pridd, i un o'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Bydd y canolfannau ar agor rhwng 8am a 7.30pm (oriau agor tymor y gwanwyn/yr haf) o 29 Mawrth. Ar hyn o bryd, maen nhw ar agor rhwng 8am a 5.30pm (oriau agor tymor y gaeaf) tan y dyddiad uchod.
Am ragor o wybodaeth am wastraff gwyrdd, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGarddio. I gael rhagor o wybodaeth am y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, ewch i www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu.
Wedi ei bostio ar 10/03/21