Skip to main content

Cynllun Mesurau Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo (Cam Dau)

Mae'r Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid allanol gwerth £218,000 i gyflawni cam nesaf y cynllun mesurau Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo (PFR) dros dro mewn perthynas â mwy na 230 eiddo preswyl pellach ledled Rhondda Cynon Taf.  

Cafodd cam cyntaf y Cynllun PFR ei gwblhau'n llwyddiannus mewn partneriaeth â Vision Products. Busnes sy'n derbyn cymorth ac sy'n rhan o'r Cyngor yw Vision Products. Mae Vision Products yn darparu ystod o gynhyrchion a gwasanaethau gan gefnogi oedolion ag anableddau i oresgyn rhwystrau o ran cyflogaeth. Maen nhw hefyd yn rhoi'r cyfleoedd iddyn nhw ennill sgiliau a chymwysterau.

Roedd cam un y cynllun wedi cynnwys gosod mesurau PFR dros dro ar 222 eiddo. Bydd y cyllid newydd yn caniatáu i'r Cyngor weithio ar y cyd â Chyfoeth Naturiol Cymru, ac eto mewn partneriaeth â Vision Products, i gyflawni'r cam nesaf - a hynny ar gyfer 233 eiddo preswyl pellach.

Cafodd y cyllid newydd ei sicrhau trwy gyfuno Cam 2 o Brosiect Ffynonellau Lleol PFR Llywodraeth Cymru (£85,000) a Chynllun Prif Afonydd CNC (£133,000). Bydd hyn yn golygu bod modd gosod rhwystrau llifogydd y mae modd eu hymestyn a mesurau dros dro eraill ar eiddo.

Ym mis Chwefror 2020, achosodd Storm Dennis ddifrod digynsail i gymunedau'r Fwrdeistref Sirol, gan effeithio ar y tu mewn i 1,476 o gartrefi neu adeiladau.   Roedd hon yn un o bedair storm a ddigwyddodd yn olynol hyd at 1 Mawrth, 2020, wrth i Rondda Cynon Taf weld llifogydd mwyaf sylweddol yr ardal ers y 1970au.

Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i sicrhau cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio hir dymor mewn perthynas â seilwaith sydd wedi'i ddifrodi, gyda dros £17 miliwn wedi'i neilltuo hyd yma i gyflawni gwaith yn gysylltiedig â mwy na 100 o gynlluniau sy'n ymwneud â'r llifogydd.  Mae uchafbwyntiau mwyaf diweddar y gwaith yma wedi golygu bod modd ailagor Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, a Phont M&S ym Mharc Ynysangharad, ar ôl cwblhau gwaith atgyweirio. Mae gwaith i ailadeiladu wal yr afon yn Heol Blaen-y-Cwm hefyd wedi ailddechrau.

Wedi ei bostio ar 05/05/2021