Mae'r Cyngor angen cau ffyrdd ar ddau ddydd Sul ar y naill ochr i Bont Droed Castle Inn yn Nhrefforest, er mwyn helpu i ymchwilio i opsiynau yn y dyfodol ar gyfer y strwythur a gafodd ei ddifrodi. Bydd y cyntaf yn dechrau yn Stryd yr Afon y penwythnos yma.
Mae'r bont droed restredig wedi aros ar gau yn sgil difrod strwythurol difrifol yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Fe achosodd y storm y glaw trymaf a'r llifoedd afonydd uchaf yn Rhondda Cynon Taf a'r llifogydd mwyaf difrifol ers y 1970au. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau cyllid, a llunio a chynnal atgyweiriadau yn dilyn y difrod enfawr a gafodd ei achosi i'r seilwaith.
Bydd gwaith sydd ar y gweill yn Stryd yr Afon ar 16 Mai, a Heol Caerdydd ar 23 Mai, yn ymchwilio i sefyllfa gwasanaethau tanddaearol ger Pont Droed Castle Inn. Mae'r Cyngor wedi penodi Hammond (ECS) Ltd yn gontractwr sy'n gyfrifol am gyflawni'r gwaith yma ar draws y ddwy shifft dydd Sul.
A473 Stryd yr Afon - dydd Sul, 16 Mai (7am-7pm)
Bydd y cyfnod cau cyntaf yn digwydd yn agos at ble mae Pont Droed Castle Inn yn cwrdd â Stryd yr Afon, gyda gwaith yn digwydd ar draws darn 15 metr o hyd o'r ffordd yn union i'r gogledd o'r bont. Gan fod Stryd yr Afon yn ffordd unffordd, bydd rhaid cau'r hyd mwyaf llydan rhwng Stryd Fothergill a Stryd y Castell er mwyn hwyluso'r gwaith.
Mae llwybr arall ar hyd Stryd Fothergill, Broadway, Cyfnewidfa Glyn-taf, yr A470 tua'r de, Cyfnewidfa Glan-bad, yr A473 Heol Gwaelod-y-garth, yr A473 Heol Tonteg, yr A473 Cylchfan Tonteg, y B4595 Heol Tonteg, y B4595 Siop-y-Coed, y B4595 Heol Llanilltud, a'r B4595 Stryd y Parc.
Yn ystod y cyfnod cau, fydd dim modd i wasanaeth 100 Edwards Coaches o Bontypridd aros ar Broadway, Pontypridd, a'r Otley Arms. Bydd felly yn dargyfeirio ar hyd Heol y Coed a Stryd y Brenin, gan ailymuno â’i lwybr arferol yn Heol Llanilltud. Fydd teithiau sy'n dychwelyd i Bontypridd ddim yn cael eu heffeithio.
A4054 Heol Caerdydd - dydd Sul, 23 Mai (7am-7pm)
Bydd yr ail gyfnod cau yn digwydd yr ochr arall i'r afon, lle mae Pont Droed Castle Inn yn cwrdd â Heol Caerdydd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal dros ran 30metr o hyd o'r ffordd (rhwng 15 ac 16 Heol Caerdydd, tua'r gogledd-orllewin).
Mae llwybr arall ar gyfer gyrwyr o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ar hyd Heol Caerdydd, cylchfan Glan-bad, yr A470 tua'r gogledd a Chyfnewidfa Glyn-taf. Ar gyfer gyrwyr sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, mae'r llwybr yma'r un peth i raddau helaeth - gan gymryd yr A470 tua'r de yn lle tua'r gogledd.
Yn ystod y cyfnod cau, fydd dim modd i wasanaeth bws 132 Stagecoach (Maerdy i Gaerdydd) aros yn Rhydfelen, Y Ddraenen Wen na Glan-bad, a bydd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad - gan ailymuno â'i lwybr arferol yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Bydd gwasanaeth bws 112 NAT Group (Hen Ynys-y-bwl i Nantgarw) hefyd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad, ond bydd yn gwasanethu ei lwybr arferol trwy droi yn ôl trwy Tesco Nantgarw a Rhydfelen.
Bydd bws gwennol am ddim sy'n cael ei weithredu gan NAT Group yn rhedeg trwy brif arosfannau'r ffordd yn Rhydfelen, y Ddraenen Wen a Glan-bad bob awr (8.55am tan 4.55pm) gan ddechrau yng Ngerddi Glantaf (hen Ysgol Babanod Glantaf) - i gysylltu â'r gwasanaeth 132 yn Arhosfan Bysiau The Pottery yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Bydd hyn yn galluogi teithwyr i barhau i deithio i Ffynnon Taf a Chaerdydd. Bydd hefyd yn gweithredu gwasanaeth bob awr i'r cyfeiriad arall o Arhosfan Bws The Pottery (9.03am tan 5.03pm), i gwrdd â'r gwasanaeth 132 er mwyn i deithwyr barhau i deithio.
Ar gyfer cyfnodau cau'r ffyrdd yn Stryd yr Afon a Heol Caerdydd, bydd mynediad ar gael i gerddwyr ond nid ar gyfer cerbydau'r gwasanaeth brys.
Cyn bo hir, bydd preswylwyr lleol yn derbyn llythyr yn egluro'r trefniadau yma'n fanylach. Bydd y contractwr yn cynnal mesurau lliniaru sŵn - fodd bynnag, mae'n anochel y bydd lefelau sŵn yn amlwg. Bydd cyfnod cau'r ddwy ffordd yn dechrau am 7am, ond fydd y gwaith cloddio ddim yn cychwyn cyn 8am.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion lleol a defnyddwyr ffyrdd ymlaen llaw am eu cydweithrediad wrth i'r gwaith aflonyddgar yma gael ei gynnal. Mae'r gwaith wedi'i drefnu dros ddau ddydd Sul er mwyn lleihau aflonyddwch cymaint â phosibl.
Wedi ei bostio ar 14/05/21