Skip to main content

Wythnos Coetsys Cenedlaethol 2022

WME - Coach Week - April 2022-13

Mae Croeso Rhondda Cynon Taf yn Ne Cymru wedi croesawu cynrychiolwyr o Wythnos Coetsys Cenedlaethol 2022, am fod yr ardal yn un o brif gyrchfannau i grwpiau ar deithiau coetsys a bysiau.

Mae RhCT yn gartref i ddau brif atyniad ar gyfer grwpiau – Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda a Phrofiad y Bathdy Brenhinol.

Mae wedi ymuno â Distyllfa Castell Hensol gerllaw, ym Mro Morgannwg i greu’r deithlen Arian, Glo ac Iechyd Da, gan gynnig profiad diwrnod llawn – neu hirach – i drefnwyr teithiau a’u gwesteion er mwyn iddyn nhw allu mwynhau’r ardal hardd yma.

Cafodd y deithlen newydd gyffrous yma ei harddangos ar draws y DU yn ystod Wythnos Coetsys Cenedlaethol, sy'n cael ei drefnu gan y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd a'i phartneriaid i nodi adfywiad y diwydiant twristiaeth ar goetsys a bysiau.

Roedd modd i ymwelwyr fwynhau:

Arian: Mae Profiad y Bathdy Brenhinol yn atyniad unigryw! Ewch du ôl i lenni'r sefydliad 1,000 oed yma a symudodd o Lundain i Gymru dros 50 mlynedd yn ôl. Dewch i weld sut mae arian o bob rhan o'r byd yn cael ei wneud a pham mae darnau arian mor bwysig. Cewch weld medalau Olympaidd a Pharalympaidd o Gemau'r gorffennol a chewch gyfle i fathu eich darn arian eich hun! Bydd casglwyr darnau arian wrth eu bodd â'r siop anrhegion, lle mae modd i chi brynu darnau arian â bathiad cyfyngedig a darnau arian coffaol a dewis o ystod enfawr o anrhegion unigryw i'ch anwyliaid. Mae'r caffi ar y safle yn fan perffaith i ymlacio. Cewch fwyta mewn amgylchedd unigryw ac edmygu'r cerfluniau - gan gynnwys car Mini - wedi'i wneud o ddarnau arian.

Glo: Crëwyd Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda ar safle hen Lofa Lewis Merthyr. Mae llawer o weithfeydd gwreiddiol y lofa – gan gynnwys y simnai eiconig sy’n dominyddu’r dirwedd leol – yn rhan o’r atyniad. Dynion oedd yn gweithio yn y pyllau glo pan oedden nhw'n fechgyn yw eich tywyswyr, gan fynd â chi o dan y ddaear ac yn ôl mewn amser. Mae eu straeon personol yn atgyfodi chwedl ryngwladol epig y chwilio am yr “Aur Du”. Bu glo o Gwm Rhondda unwaith yn helpu i bweru’r byd, gan danio’r Chwyldro Diwydiannol ac ysbrydoli meddyliau mawr fel Isambard Kingdom Brunel. Creodd hefyd y cymunedau cynnes, clos rydyn ni'n enwog ledled y byd amdanyn nhw a’n cariad at deulu, cân, diwylliant a bwyd! Cewch fwynhau'r iard a'r arteffactau, arddangosfeydd rhyngweithiol a reid ar DRAM! y profiad rhyngweithiol. Mae bwyd a diod blasus i'w cael yng Nghaffi Bracchi. Cewch brynu deunyddiau crefft – neu ymuno â dosbarth – yn Craft of Hearts sy wedi ennill gwobrau ac mae’r siop anrhegion yn llawn anrhegion Cymreig dilys, gan gynnwys Lampau Davey.

Iechyd da!:  Mae'r unig ddistyllfa jin yn Ne Cymru yn ddwfn yn seleri Castell Hensol, castell hardd a adeiladwyd yn y 17eg ganrif. Mae teithiau a bwydydd blasus ar y fwydlen yma! Mae’r cyfuniad o’r castell, sy’n frith o hanes, a naws modern y ddistyllfa yn cynnig profiad unigryw. Dewch i weld y broses o wneud jin ac ymweld â'r ystafell fotanegol ddiddorol. Mae’r daith hefyd yn cynnwys hanes Castell Gothig godidog Hensol ac, wrth gwrs, digon o amser i flasu rhai o’r gwirodydd blasus sydd ar gael. Mae yna siop anrhegion llawn stoc lle cewch ddewis o blith blasau fel mefus gwyllt a hibiscws neu oren gwaed neu brynu nwyddau bar copr wedi’u brandio, i fynd adref gyda chi, i gofio'r diwrnod.

 

Dywedodd Simon Gale, Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd hi'n anrhydedd i Croeso Rhondda Cynon Taf gael ei ddewis yn brif gyrchfan teithio grwpiau i fod yn rhan o Wythnos Goetsys y DU.

“Mae’r diwydiant teithiau bysus a choetsys yn mwynhau adfywiad ac mae Arian, Glo ac Iechyd Da yn dangos i weithredwyr a theithwyr ei fod yn ffordd gyfleus a chyffrous iawn i weld rhai o’r lleoedd gorau yn Ne Cymru.

“Yn ogystal â bod yn ffordd gynaliadwy a mwy ecogyfeillgar o deithio – pwy sydd ddim wrth eu bodd yn cael eu cludo mewn cysur a moethusrwydd i rai o’r atyniadau gorau – mae hefyd yn cynnig cyfle i deithwyr fwynhau profiadau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.

“Un o’r pethau sy’n fy nharo am lwyddiant y daith Arian, Glo ac Iechyd Da yw ein bod ni wedi cymryd yr hanes a’r diwylliant rydyn ni'n falch ohonyn nhw ac wedi rhoi agwedd fodern iddyn nhw.

“Mae hen byllau glo bellach yn cynnig diwrnodau allan sy wedi ennill gwobrau i bawb. Mae’r Bathdy Brenhinol hanesyddol wedi ymgartrefu yn Ne Cymru ac mae’n denu ymwelwyr o bob rhan o’r byd. Mae seleri hynafol Castell Hensol bellach yn cynnig awyrgylch llachar, modern a phrofiad blasu jin cymeradwy.”

Mae Rhondda Cynon Taf yn gyrchfan teithio gwych i grwpiau sydd hefyd yn cynnig lleoedd cyfeillgar i grwpiau letya a bwyta. Mae ganddi hefyd erwau o fannau agored a pharciau gwledig i ymwelwyr eu mwynhau ac adran bwrpasol ar ei gwefan yn cynnig gwybodaeth am deithiau, cyfleusterau ac atyniadau. Mae modd i chi ddod o hyd iddi yma: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Tourism/GroupTradeBusinessTourism/GreatForGroups.aspx

Mae modd i chi hefyd anfon e-bost at y Garfan Twristiaeth a fydd yn hapus i drafod teithlenni ychwanegol, ymweliadau gan deuluoedd a rhagor. Anfonwch e-bost at: ymholiadtwristiaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Mae’r Wythnos Coetsys Genedlaethol gyntaf erioed yn rhedeg o 1 i 8 Ebrill 2022 ac mae wedi ei threfnu gan y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, mewn partneriaeth ag arbenigwyr cyfraith y diwydiant Backhouse Jones, Transaid, sy’n newid bywydau trwy drafnidiaeth ddiogel a chynaliadwy a'r darparwr thechnoleg gynaliadwy, Irizar.

Mae’n ddathliad o ddiwydiant coetsis y DU, ei weithredwyr a’i weithlu. Mae'n gweithio i godi proffil y diwydiant ac arddangos ei rôl hanfodol fel opsiwn twristiaeth a theithio cynaliadwy – bydd un llond bws o ymwelwyr yn gallu cadw 50 o fodurwyr oddi ar y ffordd, gan leihau tagfeydd ac allyriadau.

Cyn y pandemig, amcangyfrifwyd bod 500 miliwn o siwrneiau'n cael eu gwneud ar fws bob blwyddyn a thua 23 miliwn o ymweliadau ag atyniadau a chyrchfannau twristaidd - beth am ystyried teithio ar goets ar gyfer eich gwyliau nesaf?

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Wedi ei bostio ar 20/04/22