Mae dyn o Ferthyr Tudful wedi cael ei erlyn yn llwyddiannus gan Adran Safonau Masnach Cyngor Rhondda Cynon Taf am weithredu busnes twyllodrus ac am fwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn ei feddiant.
Plediodd y dyn 32 oed, sy'n berchen ar siop yng nghanol tref Aberdâr, yn euog i 14 o droseddau gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful. Roedd y troseddau'n ymwneud â gwerthu a bwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn ei feddiant, sef cynhyrchion tybaco ffug a nwyddau peryglus, ac am redeg busnes twyllodrus.
Dygwyd cyhuddiadau llwyddiannus yn erbyn y diffynnydd gan Adran Safonau Masnach y Cyngor yn dilyn ymchwiliad o ganlyniad i wybodaeth a ddaeth i law.
Fe wnaeth swyddogion ymgymryd â phryniannau prawf yn y siop ar 28 Ionawr a 4 Mai, 2021, ac atafaelwyd cynhyrchion tybaco ffug o'r safle ar 5 Chwefror a 25 Mai, 2021, yn dilyn cwynion bod modd prynu cynhyrchion tybaco anghyfreithlon o'r safle.
Yn dilyn yr achos Llys, dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith eto, mae'r Cyngor wedi llwyddo i erlyn perchennog busnes yn Rhondda Cynon Taf mewn perthynas â gwerthu nwyddau ffug.
“Mae'r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd a'r cwmnïau rhyngwladol diffuant hynny sydd ag enw da yn fyd-eang am werthu nwyddau o safon mewn busnesau cyfrifol.
“Wrth weithio ar yr wybodaeth a ddaeth i law, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach ymchwiliad trylwyr ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniad llwyddiannus yma. Roedd gwerthu'r nwyddau ffug yma'n niweidiol i ddefnyddwyr, ac i'r masnachwyr gonest hefyd.
“Mae gan ddefnyddwyr hefyd hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiad.”
Cafodd y dyn, y mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â’i enwi, ddirwy o £360, gorchymyn i dalu £600 o gostau llys a gordal dioddefwr ychwanegol o £36.
Wedi ei bostio ar 22/04/22