Skip to main content

Realiti Rhithwir yn dod â Llawenydd i Bobl â Dementia

PlayFrame VR Session

Cafodd sesiwn Realiti Rhithwir (VR) ar gyfer pobl â dementia ei gynnal yn Amgueddfa Pontypridd, diolch i ymdrech gydweithredol gan Gyngor Tref Pontypridd, Sied Dynion Pontypridd, PlayFrame a Chyngor Cyngor Rhondda Cynon Taf, gan roi'r cyfle i bobl ail-fyw atgofion gwerthfawr.

Roedd yr achlysur wedi cyflwyno'r prosiect 'Inside-Outside' arloesol, wedi'i arwain gan PlayFrame, sy'n defnyddio technoleg VR modern i gyfoethogi bywydau pobl sy'n byw â dementia. Trwy alluogi defnyddwyr i ailymweld ag atgofion gwerthfawr ac archwilio amgylcheddau newydd o'u cadair, mae'r prosiect yn trawsnewid sut mae gofal yn cael ei ddarparu mewn lleoliad preswyl.

Cafodd y cynllun ei lansio yn wreiddiol yng Nghaerffili ym Mai 2024, gyda chymorth Grant y Loteri Genedlaethol. Mae'r fenter wedi cael effaith ystyrlon mewn cartrefi gofal lleol yn barod. Erbyn hyn, gyda chymorth grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Garfan Datblygiad Cymunedol y Cyngor, mae Sied Dynion Pontypridd yn gweithio i ddod â'r profiad pŵerus yma i bobl hŷn ledled Rhondda Cynon Taf.

Yn ystod y sesiwn, cafodd trigolion lleol y cyfle i roi cynnig ar y penset VR a chael profi sut mae technoleg ymdrochol yn cefnogi'r cof, lles a chysylltedd cymdeithasol.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Hyrwyddwr Pobl Hŷn:  "Dyma enghraifft wych o sut mae modd i dechnoleg gael ei ddefnyddio i wella ansawdd bywyd ar gyfer y rheiny sy'n byw â dementia. Rwy'n falch o weld y gymuned yn dod at ei gilydd yn ystod y sesiwn blasu er mwyn archwilio defnydd VR mewn cartrefi gofal.

"Rwy'n gyffrous i weld sut mae'r prosiect yma'n parhau i dyfu dros y misoedd nesaf."

Dechreuodd y prosiect yn wreiddiol yn ystod Pandemig COVID-19, pan ddaeth yn amlwg yn gynyddol bod trigolion mewn cartrefi gofal yn fwy ynysig nac erioed o'r blaen. Trwy greu fideos 360 gradd wedi'u teilwra o'r ardal leol a'u hintegreiddio nhw â phensetiau VR, roedd modd i drigolion archwilio byd rhithwir nad oedd modd cael mynediad ato fel arall.

Mae'r prosiect bellach yn cynnwys sawl fideo ymdrochol i unigolion eu harchwilio, gan gynnwys lleoliadau megis Ynys y Barri, Parc y Rhath, Parc Cwm Darran, Parc Margam, ac ymarferion Côr Meibion Caerffili.

I ddysgu rhagor am brosiect 'Inside-Outside', ewch i: www.playframe.co.uk/playframe/projects

Wedi ei bostio ar 23/07/2025