Skip to main content

Cysylltu cymunedau trwy brosiect Altered Images

Connecting with communities

A hoffech chi ddatblygu sgiliau newydd a dysgu rhagor am ein treftadaeth trwy gyfres o gyrsiau ac achlysuron?

Rhaglen tair blynedd yw prosiect Altered Images sy'n ceisio cysylltu ein cymunedau trwy astudio treftadaeth a hanes lleol a chanolbwyntio ar sut mae'r cymunedau hynny wedi newid â threigl amser.

Y Cyngor sy'n gyfrifol am y prosiect yma wedi iddo dderbyn £250,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y prosiect yn addas i bobl o bob oed a gallu - y cyfan y bydd ei angen arnoch chi yw angerdd am eich milltir sgwâr a hanes lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Mae archwilio ein gorffennol yn hollbwysig ar gyfer ein dyfodol ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld ffrwyth llafur pawb sydd ynghlwm â phrosiect Altered Images.

"Bydd ymchwilio i'r holl gofebion a henebion ledled y Fwrdeistref Sirol a chadw cofnod o'r holl ddarganfyddiadau yn golygu bod gennym ni gofnod gwerthfawr o'n treftadaeth a'r ffyrdd mae ein trefi, pentrefi a chymunedau wedi newid dros amser."

Prif ddiben y prosiect Altered Images yw ymchwilio i gofebion a henebion yn Rhondda Cynon Taf a chadw cofnod ohonyn nhw, yn ogystal â rhannu straeon difyr ac atgofion am ein cymdogaethau.

Bydd y sawl sy'n ymwneud â'r prosiect yn bwrw ati i greu archif ddigidol i storio'r holl wybodaeth am ein treftadaeth fel bod modd i genedlaethau'r dyfodol ei chyrchu a'i mwynhau.

Diben y prosiect yw dysgu sut mae’r ffordd rydyn ni’n ystyried y gorffennol yn newid â threigl amser, a sut mae deall y gorffennol yn herio ein rhagdybiaethau ynglŷn ag o ble rydyn ni'n dod a sut ddatblygodd ein cymunedau.

Yn ddiweddar cynhaliodd y prosiect Altered Images ddau ddiwrnod hyfforddi Hanes Llafar fel bod modd i gymunedau ddysgu sgiliau cyfweld a sut i ddefnyddio offer recordio proffesiynol er mwyn paratoi ar gyfer y gwaith o greu'r archif ddigidol.

Fis diwethaf cynhaliwyd achlysur 'Mapio Atgofion' yn Llyfrgell Aberdâr er mwyn rhoi cyfle i drigolion lleol rannu eu hatgofion a straeon arbennig am y dref ac i fwrw golwg ar sut mae hi wedi newid dros y blynyddoedd.

Rydyn ni nawr yn cynnal cwrs ffotograffiaeth ddigidol AM DDIM mewn partneriaeth â gwasanaeth Addysg i Oedolion RhCT. Bydd y cwrs yn dechrau ar 11 Awst ac yn digwydd bob dydd Iau (10am - 1pm) am 5 wythnos. Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn Lido Cenedlaethol Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd.

Bydd y cwrs yn ymdrin â sgiliau a thechnegau ffotograffiaeth ddigidol syml gan ddefnyddio eich ffonau clyfar neu gamerâu digidol i dynnu lluniau o dirweddau hanesyddol, gan gynnwys cofebion a henebion. Bydd y gwaith yn cael ei lanlwytho i archif ddigidol y prosiect.

Cadwch le ar y cwrs trwy ddefnyddio'r ddolen

Wedi ei bostio ar 12/08/2022