Skip to main content

Arolwg cwlferi ar domen wastraff pwll glo lleol yn Aberpennar

Cefnpennar grid - Copy

Mae'n bosib y bydd trigolion Cefnpennar yn sylwi ar weithgarwch gwaith dros y bythefnos nesaf, gan y bydd arolwg cwlferi yn digwydd ar domen wastraff leol; Llywodraeth Cymru sy'n ariannu hyn.

Mae tomen wastraff pwll glo Cefnpennar yn cael ei archwilio'n fisol yn rhan o waith arferol aelodau ymroddgar Carfan Diogelwch Tomenni Glo y Cyngor.

Yn ystod gweithgarwch diweddar mae cerrig bloc a ffensys wedi eu gosod i atal mynediad heb ei awdurdodi at y domen, ac mae gwaith draenio wedi'i wneud hefyd.

Yn ystod gwaith archwilio diweddar, daeth i'r amlwg bod gofyn cynnal arolwg mwy ei faint ar y cwlferi, er mwyn cael dealltwriaeth fanylach o'r isadeiledd draenio sydd yno nawr.

Bydd hyn yn digwydd o ddydd Gwener 25 Gorffennaf, ac mae'n debygol o gymryd pythefnos.

Mae'r Cyngor wedi penodi EDS yn gontractwr ar gyfer cynnal yr arolwg. Bydd y Cyngor yn defnyddio cyllideb o Gynllun Grantiau Diogelwch Tomenni Glo, Llywodraeth Cymru.

Mae'r cwlfer yn estyn o fewnfa ger y lôn gefn tu ôl i Deras Ton-coch, yna mae'r dŵr yn cyrraedd sianel ddraenio ger Heol y Felin. Bydd y fynedfa ar gyfer gweithwyr ger Teras Ton-Coch.

Bydd y cerrig bloc sydd yn y darluniau yn cael eu hailosod i alluogi mynediad i'r safle, a bydd ffensys dros dro yn cael eu codi i atal mynediad heb ei awdurdodi.

Ychydig iawn o amharu cyffredinol ar y gymuned rydyn ni'n ei ddisgwyl, gyda dim ond ychydig iawn o aflonyddwch pan fydd y cerrig bloc yn cael eu hail-osod a rhai newydd yn cael eu gosod yn lle hen rai.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am ei chydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 24/07/2025