Skip to main content

DYDY MEYSYDD CHWARAEON DDIM AR GYFER CŴN!

Mae dyn o'r Porth wedi cael ei atgoffa yn y llys nad oes HAWL gan gŵn fod ar gaeau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd y dyn a ganiataodd i’w gi redeg yn rhydd ar gae Dinas, y Porth ei ddal gan swyddog gorfodi’r Cyngor a roddodd Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 i'r dyn, ac fe fethodd y dyn â thalu’n ddiweddarach.

Neges ymgyrch ddiweddaraf y Cyngor i berchnogion cŵn yw 'pŵ-yllwch' a glanhau ar ôl i’ch ci a thrwy ddilyn rheolau Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO).

Mae heddiw’n nodi Diwrnod Rhyngwladol y cŵn, sy’n ddiwrnod i ddathlu ein ffrindiau hoffus, blewog ac i sicrhau ein bod yn gwneud y peth iawn iddyn nhw lle bynnag y bo modd – sy’n cynnwys bod yn berchennog ci cyfrifol!

Mae rhai perchnogion cŵn anghyfrifol yn penderfynu peidio â thalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 cychwynnol fel y troseddwr diweddaraf yma, ac yn wynebu achos llys posibl. Mae hyn yn golygu taith gerdded gostus iawn, fel y mae’r troseddwr yma wedi’i ddarganfod.

Yn dilyn achos llys anfonwyd y troseddwr hwn adref o'r llys gyda Dirwy o £220, gorchymyn i dalu Costau o £120 a Gordal Dioddefwr o £34 – a ddaeth i gyfanswm syfrdanol o £374!

Pryder allweddol arall y mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ceisio mynd i'r afael ag ef ers Hydref 2017 yw baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd, ond gallai hefyd achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau. Dyma'r rheswm dros WAHARDD cŵn o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor.

Mae'r neges gan y Cyngor yn glir – os bydd perchennog ci anghyfrifol yn cael ei ddal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu a bydd y perchennog yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100 ac/neu yn wynebu achos llys.

Yn ddiweddar cymerodd y Cyngor gamau drwy stensilio DWY neges syml mewn lleoliadau allweddol ar draws Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys ysgolion lleol a chanolfannau cymunedol. Mae'r negeseuon yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU' – ac maen nhw'n rhan o'r ymgyrch gyffredinol i fynd i'r afael â'r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi'n rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol ac wedi buddsoddi degau o filoedd o bunnoedd mewn gwella cyfleusterau ar draws RhCT. Mae dros 1,500 o finiau baw cŵn coch yn RhCT mewn mannau allweddol/llwybrau cerdded cŵn hysbys, ac rydyn ni wedi archebu rhagor, felly does dim esgus peidio â rhoi'r baw 'Yn y bag, Yn y bin'!”

"Mae’r euogfarn ddiweddaraf unwaith eto yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baw cŵn. Os caiff perchennog anghyfrifol ei ddal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, byddwn ni'n gweithredu ac yn cyflwyno dirwy o £100. Os byddan nhw’n anwybyddu’r rheolau’n dro ar ôl tro fe fyddan nhw’n wynebu achos llys, dirwy fawr a chofnod troseddol, fel mae’r dyn yma bellach wedi darganfod.

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon, ac mae gadael i'w cŵn grwydro caeau chwaraeon ac ati yn gallu arwain at ganlyniadau ofnadwy.  Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma. 

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Mehefin 2021 i May 2022) mae'r Cyngor wedi rhoi mwy na 945 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rheiny sydd wedi'u dal yn taflu sbwriel, tipio'n anghyfreithlon, torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac yn methu â rheoli eu gwastraff yn Rhondda Cynon Taf.  Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Wedi ei bostio ar 26/08/2022