Unwaith eto, mae gan Rondda Cynon Taf rai o'r parciau gorau yng Nghymru - mae'n swyddogol! Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni, sy'n dynodi parc neu fan gwyrdd o safon arbennig.
Bydd Baneri Gwyrdd yn hedfan ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr; Parc Ffynnon Taf a Pharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd i gydnabod eu cyfleusterau gwych i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, a'u hymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych.
Mae Cadwch Gymru'n Daclus hefyd wedi cyflwyno Gwobrau Cymunedol y Faner Werdd i Bwll Butchers, Ynys-y-bwl; Gardd Dawel Capel Blaen-cwm; Pwll Gerddi Lee, Penrhiwceiber; Parc Gwledig Cwm Clydach; Canolfan Awyr Agored Daerwynno, Llanwynno; Eithin; ac Eglwys y Santes Winifred, Penrhiwceiber.
Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Unwaith eto mae ein parciau a'n mannau gwyrdd gwych wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yng Ngwobrau flynyddol y Faner Werdd.
“Mae ein parciau lleol bob amser wedi bod yn warchodfeydd hyfryd yn ein cymunedau sy'n cael eu defnyddio a'u gwerthfawrogi gan bobl o bob oed, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd rydyn ni i gyd wedi'i ddioddef dros y blynyddoedd diwethaf.
"Ond mae'n parciau a'n mannau gwyrdd yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth ein cysylltu ni â’r byd natur - maen nhw ar gael drwy'r flwyddyn i ni i gyd ymweld â nhw a’u mwynhau. Mae'r Faner Werdd a’r Wobr Gymunedol yn dynodi parc neu fan gwyrdd o safon ac rydw i wrth fy modd ein bod ni unwaith eto eleni yn hedfan y Faner Werdd mewn tri o'n parciau yn Rhondda Cynon Taf.
Mae cyfanswm o 265 o barciau a mannau gwyrdd ledled y wlad wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, gan gynnwys parciau gwledig a gerddi ffurfiol, rhandiroedd, coetiroedd a mynwentydd.
Mae'r elusen amgylcheddol, Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru yn gyfrifol am gynllun Gwobrau'r Faner Werdd yng Nghymru.
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae Gwobr ryngwladol y Faner Werdd yn dynodi parc neu fan gwyrdd o’r safon amgylcheddol uchaf bosibl, sy’n cael ei gynnal a'i gadw'n hyfryd ac sydd â chyfleusterau gwych ar gyfer ymwelwyr.
Gwirfoddolodd arbenigwyr ar fannau gwyrdd annibynnol yn gynnar yn yr hydref i farnu safleoedd ymgeiswyr yn erbyn meini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol, a rhan i'r gymuned ei chwarae.
Meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru: "Mae'r safon sydd ei hangen i dderbyn statws y Faner Werdd yn uchel iawn felly rwyf am longyfarch yr holl safleoedd sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth am ddarparu cyfleusterau ardderchog, sydd ar gael drwy'r flwyddyn i bobl leol ac ymwelwyr â'r ardal.
"Mae'n wych gweld bod mwy na thraean o safleoedd cymunedol sydd wedi derbyn gwobr y Faner Werdd y DU yma yng Nghymru - yn enwedig gan fod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi amlygu pwysigrwydd natur a mannau gwyrdd er ein lles meddyliol a chorfforol."
Meddai Lucy Prisk, Cydlynydd Gwobr y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus: "Mae'r blynyddoedd diwethaf wir wedi dangos i ni pa mor bwysig yw cael parciau a mannau gwyrdd o safon uchel ar gyfer ein cymunedau. Mae mwy o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn i longyfarch gwaith caled y staff a'r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio'n ddiflino i gynnal a chadw'r safonau arbennig sydd gan y parciau a mannau gwyrdd yma."
Mae modd gweld rhestr lawn o enillwyr gwobrau ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus https://www.keepwalestidy.cymru/cy
Wedi ei bostio ar 10/08/2022