Mae Maethu Cymru yn annog rhieni maeth i symud i garfanau awdurdodau lleol a gweithio ‘fel un’ i roi cymorth i'n pobl ifainc ni.
Mae Maethu Cymru, sy'n dathlu ei ben-blwydd cyntaf ym mis Gorffennaf, yn rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu dielw, sy'n cynnwys y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Dros y 12 mis diwethaf mae rhieni maeth mewn awdurdodau lleol wedi dod at ei gilydd i roi cymorth hanfodol i bobl ifainc sy'n agored i niwed a’u rhieni, gyda 163 o deuluoedd maeth newydd wedi'u sefydlu.
Serch hynny, mae dal angen recriwtio tua 700 o rieni a theuluoedd maeth newydd ledled Cymru, a hynny wrth i’r wlad wynebu argyfwng costau byw parhaus.
Mae Maethu Cymru RhCT eisiau annog rhagor o bobl i ddod yn rieni maeth gyda'u hawdurdod lleol fel bod modd i blant aros yn eu hardal leol, yn agos at eu ffrindiau a'u teuluoedd ac yn eu hysgolion.
Dyma ragor o wybodaeth am fod yn riant maeth yn RhCT:
Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 84% o bobl ifainc sy'n cael eu maethu gan eu hawdurdod lleol wedi aros yn eu hardal leol y llynedd. Yn cyferbynnu â hynny, cafodd 77% o blant sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol eu symud o'u hardal leol i dderbyn gofal maeth. Cafodd bron i 6% o blant eu symud allan o Gymru'n gyfan gwbl.
Mae Maethu Cymru am gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei nod i gael gwared ar yr elfen elw o'r system ofal, gan sicrhau bod lles pobl ifainc yn parhau i fod wrth wraidd y broses a chynnig sefydlogrwydd i rieni maeth drwy garfanau awdurdod lleol hirsefydlog a phrofiadol.
Meddai'rCynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae gan ein carfanau lleol, sy'n gweithio ar y cyd ag ysgolion a gweithwyr cymdeithasol y plentyn, wybodaeth a dealltwriaeth fanwl o'r cyfleoedd neu'r heriau penodol yn ein hardaloedd lleol. Rydyn ni'n rhan o hyn am y tymor hir, am y rhesymau cywir, er lles y plant."
MeddaiPennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope: "Mae dod yn rhiant maeth gyda'ch awdurdod lleol yn helpu i gadw plant yn lleol, yn sicrhau cynhaliaeth leol i blant a'u rhieni maeth, yn cynnig sefydlogrwydd a gwybodaeth o brofiad i rieni maeth ac yn cael gwared ar yr elfen o elw o ofal plant. Yn syml, i'r rhan fwyaf o rieni maeth, dyma'r opsiwn gorau."
MeddaiAmanda Wilkes, rhiant maeth sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf: "Doeddwn i ddim wir yn gwybod y gwahaniaeth rhwng dod yn riant maeth gydag asiantaeth o'i gymharu â fy awdurdod lleol."
"Pan oeddwn i gydag asiantaeth, es i naw mis heb gael cynnig plentyn i ofalu amdano, felly roeddwn i'n teimlo'n ddiangen a dweud y gwir. Ers i ni benderfynu ymuno â Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi bod fwy neu lai'n ddi-stop ers 10 mlynedd.
"Rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth a chyngor gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a rhieni eraill yn yr ardal."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Maethu Cymru wedi recriwtio 163 o deuluoedd maeth newydd, gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol i blant wrth galon cymunedau Cymru.
Wedi ei bostio ar 02/08/22