Skip to main content

Y newyddion diweddaraf am gynnydd y cynllun atgyweirio Pont Dramiau Haearn

Iron Tram Bridge, Robertstown

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun atgyweirio i'r Bont Dramiau Haearn ger Tresalem, sy'n digwydd oddi ar y safle.

Cafodd y bont, sy'n Heneb Restredig, ei thynnu i lawr y llynedd er mwyn ei hadfer yn ofalus oddi ar y safle. Roedd y bont eisoes mewn cyflwr gwael cyn cael ei difrodi'n sylweddol gan Storm Dennis ym mis Chwefror 2020. Rhoddodd Cadw ganiatâd Heneb Gofrestredig i'r Cyngor gynnal y gwaith atgyweirio gan ystyried pwysigrwydd diwylliannol a hanesyddol y bont.

Ar ôl tynnu'r bont o'r safle ym mis Hydref 2021, roedd y rhaglen waith yn amlinellu y byddai’r strwythur yn cael ei ddychwelyd a’i ailosod eleni, gan ailgyflwyno Hawl Tramwy Cyhoeddus dros y bont yn ystod haf 2022.

Serch hynny, mae'r Cyngor wedi cadarnhau bod y gwaith wedi'i ohirio ar ôl i'r contractwr arbenigol ganfod bod cyflwr y bont yn llawer gwaeth nag yr oedd yn tybio'n flaenorol. Gyda chymeradwyaeth Cadw, mae gwahanol elfennau'r bont wedi cael eu profi'n helaeth ac mae cynllun gwaith newydd yn cael ei ddylunio ar hyn o bryd.

Bydd hyn yn darparu'r ateb gorau ar gyfer trawstiau'r bont sydd wedi dirywio, a bydd pwysigrwydd diwylliannol a threftadaeth y strwythur yn cael ystyriaeth allweddol hefyd. Bydd ymgynghori pellach wrth i'r cynllun gwaith newydd yma fynd rhagddo.

Yn y cyfamser, bydd contractwr penodedig y Cyngor (Walters Ltd) yn dychwelyd i'r safle yn gynnar ym mis Medi 2022 i gwblhau gwaith atgyweirio i atal ategweithiau'r strwythur rhag erydu. Mae'r Cyngor yn gweithio tuag at gynnig pont droed dros dro er mwyn ailagor yr Hawl Tramwy Cyhoeddus tra bydd y cynllun newydd yn cael ei ddatblygu. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gynnydd y gwaith yma. Diolch i drigolion am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 19/08/2022