Skip to main content

Cyhoeddi Enillydd y Gystadleuaeth Ailgylchu

Aeth Cwningen y Pasg ar ymweliad arbennig i Drefforest y mis yma i goroni tair ysgol a ddaeth i'r brig yn yr Her Ailgylchu Wyau Pasg. 

Ar ôl misoedd o dyrchu trwy'r holl blastig, cardfwrdd a ffoil rydyn ni wedi dod o hyd i'r enillwyr! Mae tair ysgol haeddiannol iawn wedi mynd tu hwnt i'r gofyn i ailgylchu holl wastraff wyau Pasg. 

Aeth y dair ysgol ati i gasglu dros 109kg o wastraff a chipio gwobrau'r Her Ailgylchu Wyau Pasg.  

Llwyddodd Ysgol Gynradd Pen-rhys i gipio'r wobr gyntaf wedi i'r disgyblion gasglu dros 46kg o ddeunyddiau i'w hailgylchu!  

Roedd Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt ac Ysgol Gynradd y Rhigos yn dynn wrth eu sodlau. 

Y sialens, a gafodd ei chyflwyno ym mis Ebrill, oedd casglu po fwyaf o ddeunyddiau i'w hailgylchu o wastraff wyau Pasg â phosibl a dod â nhw i'r ysgol. Yna, cafodd yr holl eitemau eu casglu a'u cyfrif yn unol â'r nifer o ddisgyblion yn yr ysgol, er mwyn dod o hyd i'r enillydd. 

Gwnaeth cyfanswm o 37 o ysgolion gymryd rhan yn y sialens. Cafodd dros dunnell o eitemau eu casglu er mwyn eu hailgylchu - cyfwerth â phwysau cyfartalog 340 o fagiau ysgol (3kg). 

Enillodd y dair ysgol wobrau ariannol am eu hymdrechion. Derbyniodd Ysgol Gynradd Pen-rhys £300, aeth £100 i Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt a £50 i Ysgol Gynradd y Rhigos. 

Derbyniodd y dair ysgol eu gwobrau mewn achlysur arbennig, a chawson nhw gyfle i weld faint o wastraff a gafodd ei gasglu gan bob un o'r 37 o ysgolion. Roedd yr holl eitemau'n llenwi ystafell, sy'n dangos pa mor bwysig yw ailgylchu hyd yn oed un peth yr un.    

Meddai'rCynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Llongyfarchiadau mawr i ddisgyblion y 37 o ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf a gymerodd ran yn y gystadleuaeth.  

"Casglon nhw nifer heb ei debyg o'r blaen, sy wedi arwain at ailgylchu tunnell o wastraff ac osgoi ei anfon i'r safle tirlenwi. 

"Mae'r disgyblion wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ailgylchu ac yn deall pam mae mor bwysig.  

"Dylai ailgylchu fod yn rhan annatod o'n bywydau bellach, yn enwedig ar gyfer ein trigolion iau. Mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau ein bod ni’n lleihau faint rydyn ni'n ei daflu, ac ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint ag y gallwn ni.   

Rhaid i bawb ailgylchu a dangos eu bod yn caru a pharchu ein hardal - gyda'n gilydd, gallwn ni wneud gwahaniaeth, yn union fel mae'r disgyblion ysgol yma wedi dangos." 

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu, e-bostiwch Ailgylchu@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425001. 

Wedi ei bostio ar 10/08/22