Mae'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynigion i gyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Rhondda Cynon Taf, ar ôl ystyried yr adborth a gafwyd mewn ymgynghoriad diweddar.
Yn dilyn y penderfyniad yma Ddydd Llun, 12 Rhagfyr, bydd y Cabinet yn argymell i'r Cyngor llawn fabwysiadu'r cynigion. Os yw hyn yn cael ei gytuno, byddai'n cyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor sydd wedi aros yn wag am fwy na blwyddyn o fis Ebrill 2023, ac o fis Ebrill 2024 ar gyfer pob ail gartref.
Ar 17 Hydref, cytunodd y Cabinet ar Strategaeth Tai Gwag newydd (2022-2025) i barhau â’r gwaith cadarnhaol sydd wedi helpu i ddod â 662 o gartrefi yn ôl i ddefnydd ers 2018 (gostyngiad o 19%). Mae cartrefi gwag yn draul ariannol ac yn adnodd sy’n cael ei wastraffu. Mae eu hymddangosiad yn aml yn hyll ac mae modd iddyn nhw ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Un o amcanion y strategaeth newydd yw defnyddio amrywiaeth o ymyriadau i helpu i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd, gan gynnwys adolygu premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Wrth gytuno ar y strategaeth newydd ym mis Hydref, cytunodd y Cabinet hefyd i ymgynghori ar y cynigion canlynol:
- Cyflwyno premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor, sef 50% ar gyfer cartrefi sydd wedi bod yn wag rhwng 1 a 2 flynedd (cynnydd o 50% o'r lefel bresennol) a 100% ar gyfer cartrefi sydd wedi bod yn wag am o leiaf dwy flynedd (cynnydd o 100% o'r lefel bresennol). Byddai hyn yn dod i rym o 1 Ebrill, 2023.
- Cyflwyno Premiwm Treth y Cyngor o 100% ar gyfer pob ail gartref (cynnydd o 100% o’r lefel bresennol). Bydd hyn yn dod i rym o 1 Ebrill, 2024.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 24 Hydref a 21 Tachwedd. Anfonodd y Cyngor lythyr at holl berchnogion eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn y Fwrdeistref Sirol (2,699 i gyd), i roi gwybod iddyn nhw sut i gymryd rhan. Mae modd i'r cyhoedd hefyd ddweud eu dweud trwy arolwg ar-lein a chyfeiriad e-bost pwrpasol.
Yn ystod yr ymgynghoriad cafwyd 311 o ymatebion gan gynnwys 242 o arolygon. Roedd cyfanswm o 42.5% o’r holl ymatebwyr yn cytuno â’r cynigion ar gyfer eiddo gwag a 38.8% ar gyfer ail gartrefi. Serch hynny, o’r ymatebwyr a nododd eu bod nhw'n breswylydd (yn hytrach na pherchennog tŷ a fyddai’n cael ei effeithio’n uniongyrchol gan y cynnig), roedd 65.3% yn cytuno â’r cynigion ar gyfer eiddo gwag hirdymor, a 60% yn cytuno â’r cynnig ail gartrefi.
Darparwyd yr adborth i'r ymgynghoriad mewn Atodiad i adroddiad Cabinet dydd Llun. Mae hwn ar gael ar wefan y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Mae’r Cabinet wedi cytuno i symud ymlaen gyda’r cynigion i gyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi. Wrth ddod i’r penderfyniad yma bu’r Aelodau’n ystyried yr adborth gan drigolion yn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. Bydd y mesurau yma’n lleihau nifer yr eiddo gwag ymhellach, gan gynyddu argaeledd tai fforddiadwy, a chael effaith gadarnhaol ar gymunedau.
“Yn ddiweddar rydyn ni wedi mabwysiadu Strategaeth Tai Gwag newydd hyd at 2025, i barhau â’r gwaith rhagweithiol sydd wedi helpu i ddod â 662 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd ers 2018. Mae hyn wedi cynnwys arwain ar Gynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu’r Cymoedd, cefnogi’r cynlluniau Troi Tai’n Gartrefi a Ceisio Cartref a Mwy, cynnal Fforwm Landlordiaid RhCT, a gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddod ag adeiladau masnachol mewn canol trefi i ddefnydd.
“Mae’r gwaith yma wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran lleihau nifer y tai gwag o 19%, ond mae nifer sylweddol yn dal i fod yn y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys 905 eiddo a fu’n wag am fwy na phedair blynedd. Mae nifer yr ail gartrefi hefyd wedi cynyddu i 346. Dyma pam y cytunodd Aelodau’r Cabinet i ymgynghori ar gynigion i gyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar eiddo sydd wedi bod yn wag ers dros flwyddyn, ac ar bob ail gartref.
“Mae'r adborth yn awgrymu bod mwyafrif yr ymatebwyr sydd ddim yn berchen ar eiddo gwag neu ail gartrefi yn cytuno â'r cynigion - tra bod perchnogion eiddo gwag ac ail gartrefi hefyd yn dangos cefnogaeth mewn rhai achosion. Daeth y Cabinet i’r casgliad mai bwrw ymlaen yw’r peth iawn i’w wneud, ar adeg pan fo pwysau tai sylweddol. Rydyn ni eisoes wedi gweld bod cyflwyno cyfradd Treth y Cyngor o 100% ar gyfer eiddo gwag ym mis Ebrill 2018 wedi cael effaith gadarnhaol, gyda pherchnogion tai a landlordiaid yn fwy tebygol o geisio’r cymorth sydd ar gael i ddod â’u heiddo yn ôl i ddefnydd.
“Er mwyn helpu i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, mae nifer o lwybrau grant yn parhau i fod ar gael i helpu perchnogion i adnewyddu tai gwag. Mae hefyd yn bwysig nodi bod eithriadau i'r cynigion i osod premiymau Treth y Cyngor - er enghraifft, lle mae eiddo wedi'i farchnata'n rhesymol i'w osod neu ei werthu. Bydd y Cabinet nawr yn argymell i’r Cyngor Llawn i’r cynigion fynd yn eu blaenau.”
Wedi ei bostio ar 19/12/2022