Mae'r ymgynghoriad nawr ar gael i chi ddweud eich dweud ar gynigion pwysig i gynyddu ailgylchu trwy newid i gasgliadau bagiau du/biniau olwynion bob tair wythnos.
Byddai casgliadau cewynnau, gwastraff bwyd a bagiau clir yn parhau i gael eu casglu'n wythnosol. Dylai'r gwastraff yma fod bron i 80% o holl wastraff wythnosol aelwydydd.
Mae heriau o'n blaenau ni ar gyfer HOLL wasanaethau'r Cyngor oherwydd effaith economaidd barhaus COVID-19, Brexit, y gwrthdaro yn Wcráin a'r argyfwng costau byw. Rydyn ni hefyd yn wynebu chwyddiant dros 10% a rhagolygon y bydd costau ynni yn treblu y flwyddyn nesaf.
Does dim modd i ni fforddio dirwyon posibl gan Lywodraeth Cymru os fyddwn ni ddim yn bodloni eu targed ailgylchu o 70% erbyn 2024 i 2025 a chefnogi ymdrechion Cymru i ddod yn sero net erbyn 2030.
Y gyfradd ailgylchu ar gyfer Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd yw 67.48%. Rhaid i ni weithredu nawr neu wynebu dirwyon sylweddol o £140,000 am bob 1% y byddwn ni'n methu'r targed. A hithau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at doriadau i wasanaethau neu gallai effeithio'n fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon.
Amlinellodd swyddogion y Cyngor nifer o gynigion allweddol i'r Cabinet yr wythnos diwethaf a fyddai'n helpu i ni fodloni'r targed, sef 70%. Yn dilyn y cyfarfod, cytunodd y Cabinet i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus am BUM wythnos i gael barn trigolion ar y cynigion sydd wedi'u hawgrymu:
- Bod POB cartref ledled Rhondda Cynon Taf yn newid i gasgliadau bagiau du/biniau olwynion bob tair wythnos. Byddai symud i gasgliadau bob tair wythnos yn cael ei gefnogi trwy barhau â'r cyfyngiadau gwastraff presennol o un bag du yr wythnos fesul cartref (dau bob pythefnos ar hyn o bryd) a symud i dri bag du neu fin olwyn caeedig bob tair wythnos
- Treialu bagiau ailgylchu y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casglu deunydd ailgylchu cymysg sych. Byddai hyn yn gynllun peilot mewn ardaloedd penodol
Bydd y cynigion yma'n ein helpu ni i wneud y canlynol:
- Parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu llawn BOB WYTHNOS i gyd-fynd â'r newidiadau yma. Bydd hynny'n cynnwys casglu cewynnau, gwastraff bwyd, ailgylchu sych a gwastraff gwyrdd (yn dymhorol) – dylai'r rhain gyfrif am bron i 80% o wastraff wythnosol y cartref
- Arbed £0.8 miliwn o gyllid hanfodol trwy dorri costau gweithredu a lleihau ein hôl troed carbon cyffredinol gwerth tua 100 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn
- Byddai unrhyw arbedion yn cael eu dargyfeirio i ddiogelu gwasanaethau allweddol, megis gofal cymdeithasol ac addysg
Mae bron i draean o Gynghorau Cymru eisoes yn cynnal casgliadau bob tair wythnos yn llwyddiannus, gyda rhagor yn debygol o ddilyn yng ngoleuni'r sefyllfa anodd y mae pob Cyngor yn ei hwynebu nawr.
Mae'r ymgynghoriad yn cael ei gynnal o ddydd Llun 5 Rhagfyr hyd at ddydd Gwener 9 Ionawr 2023. Mae modd i chi gymryd rhan ar-lein drwy ymweld â (INSERT), drwy e-bostio (INSERT) neu drwy anfon eich barn i (INSERT).
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant:
"Rydyn ni wedi gwneud gwaith llwyddiannus iawn dros y ddegawd ddiwethaf o ran ailgylchu, diolch i'n trigolion ni sy'n ailgylchu a'n staff ymroddedig.
"Hoffwn i bwysleisio y byddwn ni'n parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu llawn BOB WYTHNOS. Os ydych chi eisoes yn ailgylchu, sy'n wir am dri ym mhob pedwar person yn Rhondda Cynon Taf, mae'r newidiadau yma'n annhebygol o wneud gwahaniaeth mawr i'ch cartref chi ond byddan nhw'n golygu ein bod ni'n osgoi dirwyon yn y dyfodol, yn sicrhau ein bod ni'n bodloni'r targedau gyda'n gilydd, yn diogelu gwasanaethau hanfodol, ac yn cyrraedd y nod i ddod yn 'sero net' erbyn 2030.
"Yn 2013, pan gafodd casgliadau bob pythefnos eu cyflwyno, roedd gyda ni gyfradd ailgylchu o 43.3%. Ar y pryd, roedden ni'n wynebu dirwyon posibl am beidio â bodloni targed Llywodraeth Cymru o 52% ar gyfer 2013 i 2014. Erbyn hyn, mae gyda ni gyfradd ailgylchu o 67.48%, sef cynnydd o 24%!
"Mae hyn yn dangos bod y newidiadau a gafodd eu rhoi ar waith ar yr adeg yna, law yn llaw ag ymroddiad ein trigolion gwych, wedi ein helpu ni i ragori ar darged cyfredol Llywodraeth Cymru, sef ailgylchu o leiaf 64% o wastraff erbyn 2019 i 2020.
"Byddai'r newidiadau arfaethedig yn arbed cyllid hanfodol ac yn helpu i ddiogelu gwasanaethau, tra'n sicrhau ein bod ni'n bodloni targedau Llywodraeth Cymru ac yn lleihau ein hôl troed carbon cyffredinol.
"Gyda'n gilydd, mae angen i ni fodloni'r targed nesaf o 70% erbyn 2024 i 2025 ac osgoi dirwyon sylweddol ar adeg sydd eisoes yn anodd yn ariannol. Rydw i'n annog trigolion i godi eu llais a dweud eu dweud ar y newidiadau arfaethedig."
Mae amcangyfrif y bydd y newid arfaethedig i gasgliadau bob tair wythnos yn sicrhau cynnydd mewn ailgylchu sy'n cyfateb i 2,600 tunnell. Byddai hynny'n cyfateb i gynnydd o 1.9% yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol y Cyngor o 67.48% i 69.38% (yn seiliedig ar ffigurau 2021).
Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein ewch i (INSERT), anfon e-bost neu ysgrifennu at xxxx. Bydd yr ymgynghoriad yma'n cau am 5pm ddydd Gwener 9 Ionawr 2023.
Nodiadau
- Fe nododd arolwg WRAP Cymru gyfan fod yr ardaloedd hynny sydd â chasgliadau bob tair neu bedair wythnos a chyfyngiadau gwastraff cyffredinol llym yn fwy tebygol o ailgylchu mwy o eitemau a defnyddio eu gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol
- Amlygodd dadansoddiad diweddar o fagiau du ymyl y ffordd gan WRAP o Rondda Cynon Taf fod ein gwastraff bagiau du yn cynnwys 39% o eitemau gwastraff bwyd a allai fod wedi cael eu hailgylchu! Mae hyn yn llawer uwch na ffigwr Cymru, sydd yn 25%. Drwy dynnu'r gwastraff bwyd yma allan o'r bagiau du a'i roi yn y bin gwastraff bwyd, mae modd i ni sicrhau ein bod ni'n cwrdd â'r targedau sydd wedi'u gosod
- Mae cofnodion yn dangos bod y Cyngor wedi prynu 30.2 miliwn o fagiau defnydd untro yn ystod 2021/22 oedd yn costio £877,000 (amcangyfrif y gost ar gyfer 2022/23 yw £867,000). Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth Gwastraff Gwyrdd bellach yn defnyddio sach Werdd y mae modd ei hailddefnyddio ac yn arbed tua 3 miliwn o fagiau'r flwyddyn
- Byddai'r cynigion sydd wedi'u gosod yma'n golygu dros £1.6 miliwn yn cael ei ddargyfeirio i ddiogelu gwasanaethau eraill, a allai fod yn destun newidiadau fel arall
- Mae disgwyl bod modd i wyth ym mhob deg bag du sy'n cael eu rhoi allan i gael eu casglu gael eu hailgylchu, ac mae'n debygol y byddai'r newid yma yn ein helpu ni gyd i feddwl am bob un peth rydyn ni'n ei daflu a ph'un a oes modd ei ailgylchu ai beidio
Wedi ei bostio ar 06/12/2022