Skip to main content

Mae Cyngor RhCT yn Hyderus o ran Cynhalwyr

CUK_cc_kitemark_level1_active

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ennill y meincnod 'Hyderus o ran Cynhalwyr' ('Carer Confident') gan Carers UK, i gydnabod ei ymrwymiad parhaus i gefnogi ei aelodau staff sydd â chyfrifoldebau fel cynhalwyr di-dâl. 

Mae'r Cyngor nawr yn gyflogwr 'Hyderus o ran Cynhalwyr' yn y categori 'Gweithredol' ac mae'n falch iawn o barhau â'i waith yn cynnig cymorth i weithwyr y Cyngor sy'n gynhalwyr sy'n gweithio. 

Mae'r cynllun meincnodi 'Hyderus o ran Cynhalwyr' yn cael ei redeg gan Gyflogwyr i Gynhalwyr Carers UK, i gydnabod cyflogwyr sy'n cynnal gweithle cefnogol a chynhwysol i staff sydd neu fydd yn gynhalwyr. 

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rydw i'n falch iawn bod y Cyngor wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel cyflogwr 'Hyderus o ran Cynhalwyr' am yr holl waith y mae'n ei wneud i gynnal rhwydwaith cymorth ar gyfer ei gynhalwyr sy'n gweithio ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. 

"Mae gyda ni lawer o gynhalwyr ledled Rhondda Cynon Taf sy'n gwneud gwaith anhygoel mewn rôl cynnal tra ar yr un pryd yn cydbwyso'u bywydau prysur eu hunain. Mae'r cynhalwyr yma'n cyflawni eu dyletswyddau oherwydd eu cariad a thosturi at eraill a bydd y Cyngor yn parhau i roi cymorth iddyn nhw mewn unrhyw ffordd y mae modd iddo."

 Y mis diwethaf, daeth llawer o gynhalwyr i Achlysur Dathlu Diwrnod Hawliau Cynhalwyr y Cyngor yng Nghanolfan Hamdden Llantrisant. Cafodd yr achlysur ei drefnu gan Gynllun Cynnal y Cynhalwyr y Cyngor i gydnabod y cyfraniad gwerthfawr y mae ein cynhalwyr di-dâl yn ei wneud i'n cymunedau ni ac i roi'r wybodaeth, y gefnogaeth a'r cyngor sydd eu hangen arnyn nhw. 

Daeth cynrychiolaeth o nifer o wasanaethau lleol, gan gynnwys ASD Rainbows, Age Connects Morgannwg, Gofalwyr Cymru, Challenging Behaviour Support, Cyngor ar Bopeth, Gofal a Thrwsio Cwm Taf, Cynon Valley PALS, Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf, Interlink, Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, elusen Ray of Light, Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth RhCT, Camau'r Cymoedd, Vision Products, SNAP Cymru, Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Cynhalwyr Ifainc (Gweithredu dros Blant), Cynhalwyr sy'n Oedolion Ifainc a Gwasanaethau Hamdden.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i gefnogi ei weithwyr i ofalu am rywun ar y cyd â'u swyddi nhw. Mae'r Cyngor wedi ymaelodi â Chyflogwyr i Ofalwyr.

Mae amcangyfrifiad bod tua 500,000 o gynhalwyr di-dâl yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae gan Gymru'r gyfran uchaf o gynhalwyr di-dâl yn y DU, gyda llawer ohonyn nhw'n cynnal mwy na 50 awr o ofal yr wythnos. Yn RhCT rydyn ni'n cydnabod y cyfraniad sylweddol y maen nhw'n ei wneud, ac yn ymdrechu i roi cymorth o ansawdd uchel i'r cynhalwyr yma sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth i fywydau'r bobl y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. 

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i gynhalwyr di-dâl yn RhCT, ewch i: 

Cymorth i Gynhalwyr yn RhCT  

Gostyngiad Hamdden Cynhalwyr RhCT 

neu'r manylion cyswllt yma: 

Cynllun Cynnal y Cynhalwyr RhCT

Cyfeiriad e-bost: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 281463 

Wedi ei bostio ar 06/12/22