Skip to main content

Rhybudd Tywydd Melyn – Amodau Rhewllyd

Gritter-47

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am rew a fydd yn effeithio ar rannau o Rondda Cynon Taf o hanner nos tan 6pm ddydd Iau, 8 Rhagfyr. Gofal piau hi os ydych chi'n gyrru yn y tywydd yma, a chofiwch yrru yn ôl amodau'r gaeaf. 

Bydd y tywydd yn cael ei fonitro’n agos a bydd criwiau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor yn trin prif rwydwaith y fwrdeistref sirol, llwybrau uchel a meysydd parcio i baratoi ar gyfer yr amodau rhewllyd, a thra bod y rhybudd tywydd ar waith. 

Mae'r criwiau hefyd wedi gwirio cyflenwad y biniau graeanu ymlaen llaw mewn lleoliadau ledled y fwrdeistref sirol ac mae staff ychwanegol hefyd ar gael i gymryd camau rhagweithiol ac ymateb i unrhyw faterion, pe baen nhw'n codi. 

Mae'r Cyngor yn annog pawb i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma. Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf. 

Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch Wasanaeth Brys y Cyngor y Tu Hwnt i Oriau ar 01443 425011.

Wedi ei bostio ar 07/12/2022