Mae dau adroddiad Adran 19 arall wedi cael eu cyhoeddi o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, yn dilyn Storm Dennis. Mae'r adroddiadau diweddaraf yma'n trafod ardaloedd Aberdâr ac Aberaman, yn ogystal â Rhydfelen a’r Ddraenen Wen.
Mae'n rhaid i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, sef Cyngor Rhondda Cynon Taf, ddarparu adroddiad ffeithiol yn esbonio unrhyw ddigwyddiadau pwysig yn ystod y llifogydd. O dan Ddeddf 2010, bydd y Cyngor yn cyhoeddi cyfanswm o 19 adroddiad yn canolbwyntio ar gymunedau penodol yn dilyn tywydd digynsail Storm Dennis (15-16 Chwefror, 2020). Maen nhw'n dilyn ymchwiliad cychwynnol i 28 o ardaloedd gafodd eu heffeithio.
Mae'r Cyngor eisoes wedi cyhoeddi adroddiadau sy'n trafod ardaloedd Abercwmboi/Fernhill, Porth, Ffynnon Taf, Glyn-taf, Trefforest, Pontypridd, Nantgarw, Hirwaun, Treorci, Ynys-hir, Trehafod a Chwm-bach yn 2022. Yn 2021, cafodd adroddiadau a oedd yn canolbwyntio ar ardaloedd Pentre, Cilfynydd a Threherbert eu cyhoeddi, yn ogystal ag Adroddiad Trosolwg yn rhoi sylw i bob rhan o Rondda Cynon Taf. Mae modd gweld pob un o'r adroddiadau ar-lein.
Mae adroddiadau Adran 19 yn enwi'r Awdurdodau Rheoli Risg, yn nodi'r swyddogaethau y maen nhw wedi'u cyflawni ac yn amlinellu'r camau gweithredu y maen nhw'n eu cynnig ar gyfer y dyfodol. Mae'r adroddiadau wedi cael eu llywio gan archwiliadau a gwaith casglu data Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn dilyn y storm. Mae'r wybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru hefyd wedi cyfrannu at lunio'r adroddiadau.
Mae'r adroddiadau sy'n cael eu cyhoeddi ddydd Iau, 28 Gorffennaf, yn canolbwyntio ar Aberdâr ac Aberaman yng Nghwm Cynon (Ardal Ymchwilio i Lifogydd 02 RhCT), a Rhydfelen a'r Ddraenen Wen, Taf-elái (Ardal Ymchwilio i Lifogydd 15 RhCT), yn y drefn honno.
Mae modd gweld yr adroddiadau ar wefan y Cyngor
Rhydfelen a’r Ddraenen Wen (Ardal Ymchwilio i Lifogydd 15 RhCT)
Mae'r adroddiad yn nodi bod 45 eiddo preswyl a phum eiddo masnachol wedi'u heffeithio gan lifogydd. Yn ogystal â hynny, cafwyd llifogydd ar y briffordd. Nodwyd mai'r prif reswm am y llifogydd oedd dŵr ffo sylweddol oedd wedi llifo i lawr o'r llethrau serth uwchben Aberdâr ac Aberaman ac yna dros y tir. Roedd y dŵr yma wedi draenio i dir is trwy gyfres o gyrsiau dŵr – roedd nifer ohonyn nhw wedi’u gorlwytho â dŵr a malurion.
Mae adolygiad o gyflwr a chyflawniad hydrolig isadeiledd y rhwydwaith o geuffosydd yn nodi nad oedd dau rwydwaith wedi darparu lefelau digonol o ddiogelwch pan oedd y dŵr yn llifo'n rhydd a phan oedd y rhwydwaith wedi'i rwystro. Roedd y rhwydweithiau eraill yn darparu lefelau digonol o ddiogelwch pan oedd y dŵr yn llifo'n rhydd. Roedd gan geuffos Nant Gwawr ddigon o gapasiti i ymdopi â llif y dŵr, ond cafodd hyn ei effeithio gan nifer y rhwystrau a malurion yn yr afon.
Nodwyd hefyd mai prif ffynhonnell y llifogydd oedd yr Afon Cynon, a oedd wedi gorlifo ac wedi arwain at lifogydd yn Stryd Wellington, Trecynon, yn ogystal â'r cwrs dŵr cyffredin oedd wedi gorlifo y tu ôl i Stryd Caerloyw. Cyfrannodd lefelau uchel a digynsail yr afonydd at ddifrifoldeb y gorlifo yn y lleoliad yma – roedd mesurydd Gorsaf CNC (Aberdâr) wedi nodi bod lefel yr afon wedi cyrraedd uchafbwynt o 2.125-metr.
Cafodd llifogydd dŵr wyneb sy'n gysylltiedig â dŵr ffo o ochr y bryn, yn ogystal â rhwydwaith draenio priffyrdd wedi'i orlwytho, hefyd eu nodi'n ffynonellau llifogydd mewn perthynas â sawl eiddo yn Aberdâr ac Aberaman.
Mae'r Cyngor, ac yntau'n gweithredu fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yr Awdurdod Draenio Tir a'r Awdurdod Priffyrdd, wedi cyflawni 16 cam gweithredu ac wedi cynnig 11 cam gweithredu pellach. Mae'r Cyngor wedi cyflawni gwaith clirio sylweddol mewn perthynas â'r strwythurau a nodwyd yn ffynonellau llifogydd, wedi cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau mewn perthynas â 921 metr o'r cwrs dŵr cyffredin, ac wedi arwain ar waith datblygu Ystafell Reoli Ganolog i ddarparu ymateb cynhwysfawr yn ystod llifogydd yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnal gwaith uwchraddio sylweddol mewn perthynas â strwythurau ceuffosydd a rhwydweithiau cyrsiau dŵr cyffredin i leihau'r perygl o rwystrau, ac wedi gosod dyfeisiau monitro telemetreg o bell ar strwythurau allweddol.
Mae CNC, ac yntau'n gweithredu fel yr Awdurdod Rheoli Risg ar gyfer llifogydd prif afonydd, wedi cynnal gwaith dadansoddi ôl-ddigwyddiad i ddeall mecanwaith llifogydd yr Afon Cynon yn Aberdâr, ac wedi comisiynu Prosiect Modelu Llifogydd Cwm Cynon i asesu dichonoldeb opsiynau rheoli perygl llifogydd posibl. Mae hefyd wedi datblygu cynllun gweithredu i fynd i'r afael â meysydd i'w gwella, gan gynnwys ehangu ei Wasanaeth Rhybuddio am Lifogydd, cyflawniad y gwasanaeth yma, a'r ffordd y mae'r gwasanaeth yn ymateb er mwyn rheoli digwyddiadau.
Rhydfelen a’r Ddraenen Wen (Ardal Ymchwilio i Lifogydd 15 RhCT)
Mae'r adroddiad yn nodi bod 28 eiddo preswyl a phum eiddo masnachol wedi'u heffeithio gan lifogydd. Yn ogystal â hynny, cafwyd llifogydd ar y briffordd. Nodwyd mai'r prif reswm am y llifogydd oedd dŵr ffo sylweddol oedd wedi llifo i lawr o'r llethrau serth uwchben Rhydfelen, gan ddraenio i dir is trwy gyfres o gyrsiau dŵr – roedd nifer ohonyn nhw wedi’u gorlwytho â dŵr a malurion.
Cafodd tair cilfach ceuffos, oedd wedi'u gorlenwi â malurion, eu nodi'n brif ffynhonnell llifogydd. Roedd hyn hefyd wedi effeithio ar gapasiti'r cilfachau o safbwynt hydrolig. Roedd cwrs dŵr cyffredin Nant Lonydd hefyd yn un o brif ffynonellau'r llifogydd ar ôl iddo orlifo mewn sawl lleoliad. Roedd lefelau uchel yr Afon Taf hefyd wedi effeithio'n fawr ar y cwrs dŵr. Mae mapiau CNC yn nodi nad oes unrhyw amddiffynfeydd ffurfiol rhag llifogydd ar waith yn y lleoliad yma ar hyn o bryd.
Mae'r Cyngor, ac yntau'n gweithredu fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yr Awdurdod Draenio Tir a'r Awdurdod Priffyrdd, wedi cyflawni 15 cam gweithredu ac wedi cynnig 9 cam gweithredu pellach. Mae'r Cyngor wedi cyflawni gwaith clirio sylweddol mewn perthynas â'r strwythurau a nodwyd yn ffynonellau llifogydd, ac wedi cynnal gwaith arolygu, jetio a glanhau mewn perthynas â 1,539 metr o'r rhwydwaith cwrs dŵr cyffredin, ac wedi arwain ar waith datblygu Ystafell Reoli Ganolog i ddarparu ymateb cynhwysfawr yn ystod llifogydd yn y dyfodol.
Mae'r Cyngor hefyd wedi cynnal gwaith atgyweirio i wal gynnal yr afon ar dir heb ei gofrestru y tu ôl i Gilgant y Ddraenen Wen, a ddifrodwyd yn ystod Storm Dennis. Mae hefyd yn gweithio ar y cyd â CNC i reoli’r perygl llifogydd sy'n cael ei achosi gan y ffordd mae'r Afon Taf yn dylanwadu ar gwrs dŵr Nant Lonydd.
Mae'r ddau adroddiad yn dod i'r casgliad mai digwyddiad eithafol oedd Storm Dennis, ac mae'n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Maen nhw’n nodi hefyd bod yr holl Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn modd boddhaol wrth ymateb i'r llifogydd. Mae mesurau pellach wedi cael eu cynnig i wella'r parodrwydd a'r ymateb yn y dyfodol
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae’r adroddiadau Adran 19 diweddaraf yn ymdrin ag ardaloedd Aberdâr, Aberaman, Rhydfelen a’r Ddraenen Wen – ac yn dilyn yr adroddiadau a gyhoeddwyd ym mis Mehefin ar gyfer cymunedau Abercwmboi, Fernhill a'r Porth. Mae 17 o'r 19 adroddiad yn dilyn Storm Dennis bellach wedi'u cyhoeddi. Cafodd yr adroddiad cyntaf ei gyhoeddi yn ystod yr haf yn 2021.
“Diben yr adroddiadau yw nodi beth ddigwyddodd yn ein cymunedau yn ystod Storm Dennis, gan nodi'r Awdurdodau Rheoli Risg, eu gweithredoedd hyd yn hyn a'r hyn y maen nhw'n ei gynnig ar gyfer y dyfodol. Mae’r adroddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan sefydliadau allweddol a thystiolaeth llygad-dystion. Mae’n bwysig nodi nad yw llunio'r adroddiadau yma wedi'n hatal ni rhag cynnal gwaith ymarferol pwysig yn ein cymunedau. Rydyn ni'n parhau i wneud cynnydd da mewn perthynas â'n rhaglen gyfalaf garlam sy'n cynnwys dros 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd.
"Mae dros £6.4 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â Storm Dennis fydd yn cael ei gynnal yn 2022/23. Mae hyn ar ben y £3.9 miliwn sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd ar draws rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach. Mae £440,000 hefyd wedi'i glustnodi i ddatblygu 10 cynllun Ffyrdd Cydnerth pellach drwy gydol y flwyddyn yma.
“Mae modd i'r cyhoedd fwrw golwg ar bob un o'r Adroddiadau Adran 19 sydd wedi'u cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Mae’r rhain yn cynnwys y ddau adroddiad diweddaraf sy'n ymwneud ag ardaloedd Aberdâr ac Aberaman, a Rhydfelen a’r Ddraenen Wen.”
Wedi ei bostio ar 28/07/2022