Bydd camau nesaf gwaith gosod pont droed newydd Stryd y Nant, ger Gorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda, yn dechrau ym mis Awst. Bydd angen cau maes parcio'r orsaf dros dro a chael gwared â'r ramp sy'n arwain at fynedfa'r orsaf dros dro.
Mae'r bont bresennol wedi cyrraedd diwedd ei hoes, ac mae angen gosod pont droed newydd yn ei lle i gynnal y mynediad i gerddwyr o Ystrad i Heol Nant-y-gwyddon. Mae'r cynllun sylweddol yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Dechreuodd Alun Griffiths (Contractors) Ltd y gwaith cyntaf ar y safle eleni, gan glirio'r llystyfiant ym mis Ionawr, 2022.
Mae'r prosiect yn heriol gan fod rhaid i'r gwaith fynd rhagddo tra bod yr orsaf yn weithredol o ddydd i ddydd, ac mae'r afon yn agos i safle'r gwaith. Dros y misoedd diwethaf mae cynnydd da wedi'i wneud. Ym mis Mawrth, cafodd safle ar gyfer y peiriannau/offer ei sefydlu yn Ystad Ddiwydiannol Gelli ac mae gwaith dros nos wedi cael ei gynnal ers mis Ebrill. Mae nifer o sylfeini'r bont droed newydd wedi'u cwblhau (i'w gweld yn y llun) yn ogystal â'r gwaith draenio a gafodd ei gynnal wrth gadw'r bont ar agor.
Bydd cam nesaf y gwaith yn dechrau ym mis Awst 2022 lle y bydd y contractwr yn cael gwared â rhan o'r bont droed. Bydd hyn yn cynnwys ystod o fesurau gweithredol, sydd wedi'u trefnu gan Trafnidiaeth Cymru a chontractwr y Cyngor er mwyn sicrhau cynnydd:
- Cau maes parcio'r orsaf dros dro er mwyn gosod craen yno (o 1 Awst) Mae angen y craen, sy'n pwyso 500 tunnell, er mwyn cael gwared â ramp y bont sy'n arwain at y platfform tua'r gogledd. Bydd angen cau'r maes parcio am gyfnod o tua phedwar mis. Bydd arwyddion o'r llwybr amgen i gerddwyr i'w gweld ger y maes parcio.
- Cael gwared â ramp y bont sy'n arwain at y platfform tua'r gogledd (8 Awst). Bydd pont droed yr orsaf (grisiau) yn parhau i fod ar agor er mwyn sicrhau bod gan gerddwyr fynediad i'r ddau blatfform. Bydd modd cael mynediad i'r caeau chwarae drwy ddilyn arwyddion clir y llwybr amgen.
Nodwch y bydd y gwaith, sy'n dechrau ar 8 Awst, yn cael gwared â'r unig ramp a mynediad heb risiau i'r platfform tua'r gogledd am gyfnod dros dro (ar gyfer trenau sy'n mynd tua chyfeiriad Tonpentre). Mae llwybr amgen hirach ar hyd y llwybr troed yn y caeau chwarae, ond mae'n bosibl nad yw'r llwybr yma yn addas ar gyfer pawb - er enghraifft, unigolion sy'n defnyddio cadair olwyn.
O ganlyniad i hyn, mae'r contractwr wedi trefnu bws gwennol am ddim ar gyfer unigolion nad oes modd iddyn nhw ddefnyddio'r grisiau yng Ngorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda. Dylai'r unigolion yma aros ar y trên hyd nes eu bod nhw'n cyrraedd gorsaf Tonpentre, lle y bydd y bws gwennol yn mynd â nhw'n ôl i Orsaf Reilffordd Ystrad Rhondda. Bydd y manylion i gyd, gan gynnwys amserlenni bysiau, ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
Pe hoffech chi dderbyn rhagor o wybodaeth am y trefniadau trafnidiaeth yma, ffoniwch linell gymorth Trafnidiaeth Cymru ar 0333 3211 202neu 07790 952507 os ydych chi'n defnyddio WhatsApp. Fel arall, e-bostiwch swyddog cyswllt Alun Griffiths (Contractors) Ltd ar gyfer cynllun Stryd y Nant: georgie.davies@alungriffiths.co.uk.
Mae gwaith gosod pont droed newydd yng Ngorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda yn un o nifer o gynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2022/23, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £5.65 miliwn ar gyfer strwythurau. Mae rhaglenni blaenoriaeth eraill yn cynnwys atgyweirio Pont Imperial yn ardal Porth, gosod pont droed newydd Rheilffordd Llanharan, Cantilifer Nant Cwm-parc yn Nhreorci, a chryfhau Pont y Stiwt.
Wedi ei bostio ar 28/07/22