Skip to main content

Strategaeth Cyngor RhCT - Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd

Glyncornel-June-2021-07

Mae'r Cabinet yn ystyried strategaeth Goed, Coetiroedd a Gwrychoedd newydd cyn cychwyn ar broses ymgynghori sy'n para wyth wythnos gyda thrigolion a rhanddeiliaid eraill.

Bydd y strategaeth newydd yn ffurfio rhan o ymrwymiad y Cyngor i'r strategaeth newid hinsawdd er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n planed ni a darparu sylfaen i'w uchelgais o gyflawni'r rhaglen plannu coed fwyaf yn RhCT y genhedlaeth yma.

Mae'r Cyngor yn nodi pwysigrwydd coed, llystyfiant a phridd yn y gwaith o storio carbon. Bydd y Strategaeth Goed yn darparu fframwaith cadarn ar gyfer holl benderfyniadau a gweithgarwch sy'n gysylltiedig â choed ledled y Fwrdeistref Sirol dros y degawd nesaf.

Meddai'rCynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Hinsawdd a Gwasanaethau Corfforaethol: "Mae angen Strategaeth Goed i sicrhau ein bod ni'n gwerthfawrogi, yn hyrwyddo ac yn diogelu'r coetiroedd sydd gyda ni yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n bwysig i gofio bod coetir yn ffurfio traean o'n Bwrdeistref Sirol.

"Rydyn ni’n deall pwysigrwydd ein cynefinoedd coetir lled-naturiol ac yn enwedig ein coetir hynafol. Mae'n bwysig hefyd sicrhau bod strategaeth yn ei lle sy'n nodi pwysigrwydd diogelu cynefinoedd lled-naturiol a phridd heb ei droi rhag plannu coed amhriodol.

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd ac i storio carbon drwy ddefnyddio dulliau naturiol, megis y rheiny sy'n ymwneud â choed, mawnogydd, glaswelltir corsiog a chynefinoedd naturiol eraill ledled y Fwrdeistref Sirol i wella ansawdd aer a lleihau effaith nwyon tŷ gwydr.

Mae gofalu am y coed, coetiroedd a gwrychoedd sydd yn Rhondda Cynon Taf yn hanfodol i sicrhau bod trigolion a byd natur Rhondda Cynon Taf yn parhau i fod yn iach wrth symud i'r dyfodol. Gall coed gwella ansawdd amgylcheddol ein hardaloedd trefol, gan sicrhau manteision corfforol, cymdeithasol ac economaidd yn ogystal â lleihau newid yn yr hinsawdd, gwella rheoli dŵr yn dilyn stormydd, gwella ansawdd aer, bioamrywiaeth ac amwynder gweledol.

Sefydlodd Cyngor Rhondda Cynon Taf Grŵp Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn 2019 er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Fwrdeistref Sirol yn ardal goediog iawn, gyda mwy o goed na nifer o lefydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae'n debyg mai ni ydy'r unig Awdurdod Lleol sydd â phoblogaeth mor fawr o bobl a choed.

Mae coetir yn gorchuddio tua traean o Rondda Cynon Taf, gyda thraean arall yn ardaloedd trefol. Mae tua 241,873 o bobl yn byw yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r coed, coetiroedd a gwrychoedd yn rhan annatod o'r natur leol sy'n cynnig bwyd a lloches i nifer o bryfed, anifeiliaid, adar a phlanhigion.

Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y coed, coetiroedd a bywyd gwyllt a'r ffordd y mae'n cael ei reoli. Mae coed yn hanfodol i'r Cyngor a thrigolion Rhondda Cynon Taf, o'r manteision i'r dirwedd sydd wedi'i hen sefydlu, i wella ansawdd aer lleol, effeithio ar y gylchred ddŵr a darparu cysgod naturiol.

Mae'n bwysig diogelu cynefinoedd eraill hefyd, a bydd diogelu y rhain o fudd i drigolion, yr hinsawdd a'r byd natur. Bydd Strategaeth Goed yn rhoi nod cyffredin i holl wasanaethau'r Cyngor mewn perthynas â gweithgarwch coed, y mwyaf o'i fath ers degawdau, ac yn darparu fframwaith i ystyried pa ofynion sefydliadol ac adnoddau sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau presennol o ran yr hinsawdd.

Wedi ei bostio ar 23/06/22