Skip to main content

Perchennog Ci Anghyfrifol yn Wynebu Achos Llys!

Mae perchennog ci sydd wedi ymddwyn yn anghyfrifol dro ar ôl tro wedi cael dirwy o dros £440 yn y llys, a hynny am fethu â glanhau ar ôl ei gi.

Caniataodd y dyn o Ynys-y-bwl i'w gi grwydro'r strydoedd ar ei ben ei hun, heb ystyried ei weithredoedd. Wrth iddo grwydro'r strydoedd, baeddodd y ci ar lain laswelltog gyhoeddus a doedd ei berchennog ddim yno i godi'r baw a chael gwared ag e.

Yn rhan o Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) y Cyngor, a gafodd ei gyflwyno yn Hydref 2017, mae'n rhaid i bob perchennog ci yn Rhondda Cynon Taf lanhau ar ôl ei gi ar unwaith a chael gwared arno'n iawn - sydd bron yn amhosibl os ydych chi'n caniatáu eich ci i grwydro ar ei ben ei hunan. Bydd methu â chadw at unrhyw un o'r camau gweithredu yn y PSPO yn golygu bod y perchennog yn cael DIRWY o £100 yn awtomatig.

Dydy DIRWYON ddim yn ddieithr i'r dyn dan sylw - cafodd BEDWAR Hysbysiad Cosb Benodedig cyn hyn am fethu â chadw at y PSPO a chaniatáu i'w gi faeddu yn gyhoeddus a pheidio â'i lanhau. Pan ddarganfu Swyddog Gorfodi'r Cyngor fod y perchennog yma wedi anwybyddu'r rheolau unwaith eto a heb ystyried iechyd y cyhoedd yn ei gymuned, doedd dim opsiwn arall ond ei anfon yn syth i'r llys!

Cafodd y dyn ei anfon adref o’r llys gyda dirwy o dros £440 (Dirwy o £80, Costau £330, Gordal Dioddefwr £34) — y tro yma fe gostiodd ei ddiystyriaeth digywilydd o'r gyfraith mwy iddo nag yr oedd wedi ei ddisgwyl. 

Mae'r neges gan y Cyngor yn glir – os bydd perchennog ci anghyfrifol yn cael ei ddal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu a bydd y perchennog yn cael Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100 ac/neu yn wynebu achos llys.

Pryder allweddol arall y mae'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn ceisio mynd i'r afael ag ef yw baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd, ond gallai hefyd achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau.

Mae rhai perchnogion cŵn anghyfrifol yn penderfynu peidio â thalu’r Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 cychwynnol neu'n anwybyddu'r rheolau dro ar ôl tro fel y troseddwr diweddaraf yma, ac yn wynebu achos llys posibl. Mae hyn yn golygu taith gerdded gostus iawn, fel y mae’r troseddwr yma wedi’i ddarganfod. Mae'n bosibl y caiff eu manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfryngau cymdeithasol hefyd.

Yn ddiweddar cymerodd y Cyngor gamau drwy stensilio DWY neges syml mewn lleoliadau allweddol ar draws Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys ysgolion lleol a chanolfannau cymunedol. Mae'r negeseuon yn syml – 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU' – ac maen nhw'n rhan o'r ymgyrch gyffredinol i fynd i'r afael â'r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi'n rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol ac wedi buddsoddi degau o filoedd o bunnoedd mewn gwella cyfleusterau ar draws RhCT. Mae dros 1,500 o finiau baw cŵn coch yn RhCT mewn mannau allweddol/llwybrau cerdded cŵn hysbys, ac rydyn ni wedi archebu rhagor, felly does dim esgus peidio â rhoi'r baw 'Yn y bag, Yn y bin'!”

"Mae’r euogfarn ddiweddaraf unwaith eto yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baw cŵn. Os caiff perchennog anghyfrifol ei ddal yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, byddwn ni'n gweithredu ac yn cyflwyno dirwy o £100. Os byddan nhw’n anwybyddu’r rheolau’n dro ar ôl tro fe fyddan nhw’n wynebu achos llys, dirwy fawr a chofnod troseddol, fel mae’r dyn yma bellach wedi darganfod.

“Mae’r mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma. 

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (Mehefin 2021 i May 2022) mae'r Cyngor wedi rhoi mwy na 945 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rheiny sydd wedi'u dal yn taflu sbwriel, tipio'n anghyfreithlon, torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac yn methu â rheoli eu gwastraff yn Rhondda Cynon Taf.  Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Wedi ei bostio ar 22/06/22