Mae'r Cabinet wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar y cymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i bobl ifainc drwy fuddsoddiad diweddar mewn gwasanaethau ieuenctid - a chytunodd yr Aelodau i'r Cyngor ddyblu nifer y cerbydau clwb ieuenctid cymunedol y mae'n berchen arnyn nhw.
Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mercher, 22 Mehefin, trafododd yr Aelodau adroddiad gan swyddog a oedd yn tynnu sylw at ddatblygiad y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ers i gyllid gan y Cyngor gwerth £200,000 gael ei ddyrannu ar ddiwedd 2019/20. Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio sut y defnyddiodd y gwasanaeth y cyllid yma i addasu o fis Mawrth 2020, mewn ymateb i bandemig Covid-19.
Yn fwy diweddar, mae £75,000 ychwanegol wedi'i fuddsoddi i gefnogi’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ymhellach o ran ei waith cymunedol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn dau gerbyd clwb ieuenctid symudol, sydd wedi'u croesawu'n fawr gan bobl ifainc lleol.
Nododd yr adroddiad mai bwriad y cyllid cychwynnol o £200,000 oedd darparu capasiti ychwanegol ar gyfer cymorth yn y gymuned gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, gan gynnwys ymestyn oriau cyswllt gwaith ieuenctid a dod o hyd i ddulliau eraill o ymgysylltu mewn ardaloedd heb ganolfan ieuenctid. Fodd bynnag, pan ddaeth y cyfyngiadau symud cenedlaethol i rym ym mis Mawrth 2020, cafodd yr holl waith wyneb yn wyneb ei atal ac roedd angen adolygiad brys o ran sut i ddarparu'r gwasanaeth.
Mae’r adroddiad yn nodi bod y buddsoddiad cyfun o £275,000 wedi bod yn amhrisiadwy wrth drawsnewid y gwasanaeth yn un hybrid cynhwysfawr yn ystod y pandemig, ac mae’n disgrifio’r meysydd darparu gwasanaeth a gafodd eu hariannu'n uniongyrchol gan y buddsoddiad:
- Gwaith ieuenctid ar y stryd – newidiodd y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ei gynnig yn y gymuned yn gyfan gwbl i 'waith ieuenctid ar y stryd' o fis Hydref 2020, er mwyn darparu cymorth y gellir ymddiried ynddo wrth ymateb i anghenion pobl ifainc. Ar hyn o bryd mae hyd at bedwar tîm yn gweithio pum noson yr wythnos mewn ardaloedd allweddol yn Rhondda Cynon Taf.
- Datblygu darpariaeth gymunedol – yn ystod y sesiynau stryd, mae staff wedi bod yn sefydlu perthnasoedd newydd gyda busnesau lleol er mwyn trafod yr hyn y gallan nhw ei gynnig i bobl ifainc yn eu hardal.
- Cerbydau ieuenctid symudol – cafodd cyllid craidd a chyllid grant eu defnyddio i fuddsoddi mewn dau gerbyd pwrpasol, gan ddarparu hwb mewn ardaloedd sydd heb leoliad clwb ieuenctid. Mae’r hybiau’n cynnig lleoliad ar gyfer gweithgareddau a gwaith ieuenctid ar y stryd, ac mae modd eu defnyddio pan fydd angen ymateb ar unwaith.
- Mannau diogel RhCT – sefydlu rhwydwaith o sefydliadau sy'n cefnogi menter 'man diogel', sef lleoliad sy'n canolbwyntio ar bobl ifainc sy'n rhoi man mynediad agored i bobl ifainc. Mae’r rhwydwaith yn rhoi cymorth i sefydliadau unigol drwy gynnig cyngor, arweiniad a chyfleoedd hyfforddi, ac mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid hefyd yn darparu ei fannau diogel ei hun.
- Datblygu gweithlu – buddsoddi yn natblygiad gweithwyr ieuenctid cymwys yn y dyfodol, yng nghanol prinder cenedlaethol. Mae gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid ymrwymiad cadarn i wella sgiliau gweithlu'r Cyngor a sefydliadau partner, gan gynnig cymwysterau allweddol yn y maes yma.
- Prentisiaid – cafodd dau brentis gwaith ieuenctid eu penodi ym mis Ionawr 2021 i weithio ym mhob un o feysydd y gwasanaeth wrth ennill cymwysterau allweddol.
Mae adroddiad y Cabinet hefyd yn rhestru nifer o feysydd gwaith y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid sydd wedi elwa'n anuniongyrchol o'r cyllid. Mae’r rhain yn amrywio o gymorth o ran lles ac iechyd meddwl i gymorth yn yr ysgol, sesiynau ar ôl ysgol, darpariaeth gwyliau, clybiau ieuenctid, mynd i’r afael â digartrefedd ieuenctid, a’r cynnig ieuenctid rhithwir.
Ar ôl trafod yr adroddiad, cytunodd Aelodau'r Cabinet i'r Cyngor brynu dau gerbyd ieuenctid symudol arall – gydag un i'w sicrhau drwy gyllid grant allanol Strydoedd Mwy Diogel, a'r llall gan ddefnyddio cyllid y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae’r Cabinet wedi derbyn diweddariad cynhwysfawr ar y cymorth presennol mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ei gynnig i bobl ifanc ar draws y Fwrdeistref Sirol, a sut mae’r cyllid ychwanegol gwerth £275,000 a dderbyniwyd gan y Cyngor ers 2019/20 wedi helpu i gefnogi ei waith amhrisiadwy yn y gymuned ymhellach, yn enwedig yn ystod y pandemig.
“Fel holl wasanaethau’r Cyngor, cynhaliodd y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid adolygiad sylweddol a brys o’i flaenoriaethau pan ddaeth y cyfyngiadau symud i rym, wrth iddyn nhw gyflwyno heriau newydd i bobl ifainc o ran eu hiechyd, eu lles a’u bywyd teuluol. Mae gwaith caled ac arbenigedd y staff wedi helpu i lunio'r gwasanaeth i fod yn gymysgedd cynhwysfawr o wasanaethau cyffredinol a rhai wedi'u targedu, i helpu pobl ifainc yn ystod yr adegau digynsail hynny. Mae'r perthnasoedd gwaith agos a gafodd eu ffurfio gyda phobl ifainc wedi helpu’r gwasanaeth i addasu i’w gynnig hybrid cynhwysfawr presennol.
“Dangosodd y diweddariad i’r Cabinet ddydd Mercher gynnig amhrisiadwy’r gwasanaeth, gan ganolbwyntio ar waith ieuenctid ar y stryd, datblygu perthnasoedd â sefydliadau, sefydlu hybiau lleol a ‘mannau diogel’, a buddsoddi yn ei weithlu ar gyfer y dyfodol. Drwy'r model yma, cafodd dros 1,600 o bobl ifainc gymorth ar sail un wrth un yn 2021/22, cafodd 700 o raglenni gweithgaredd eu cyflwyno, a mynychodd 6,100 o bobl ifainc sesiwn gyda'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid yn ystod y flwyddyn.
“Ar ôl trafod y diweddariad a ddarparwyd gan swyddogion, cytunodd y Cabinet hefyd i gefnogi prynu dau gerbyd hwb symudol ychwanegol i wella cyrhaeddiad y gwasanaeth ymhellach mewn ardaloedd sydd heb gyfleuster ieuenctid parhaol. Mae’r bobl ifainc wedi croesawu'r cerbydau presennol yn fawr, a bydd y Cyngor nawr yn bwrw ymlaen â chamau i sicrhau’r cerbydau newydd cyn gynted ag sy'n bosibl.”
Wedi ei bostio ar 24/06/2022