Mae’r Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wedi ymweld ag ysgolion yng Nghwmdâr, Ffynnon Taf a Beddau. Bydd yr ysgolion yma'n cael cyfleusterau newydd sbon o ganlyniad i'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd sy'n mynd rhagddo mewn ysgolion yn Rhondda Cynon Taf.
Yn ddiweddar cafodd y Cynghorydd Jill Bonetto ei phenodi'n Aelod o Gabinet y Cyngor, a dydd Mawrth 22 Mawrth, aeth i ymweld ag Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Bryn Celynnog. Yn fuan, bydd yr ysgolion yma'n elwa ar y buddsoddiad ehangach gwerth £252 miliwn sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae'r buddsoddiad yma ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Bydd Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr yn elwa ar werth £3.84 miliwn o welliannau i ddarparu cyfleusterau modern, yn ogystal ag ychwanegu 48 o leoedd cyfrwng Cymraeg yno, sef cynnydd o 10% yn ei chapasiti. Bydd hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad gwerth £960,000, drwy Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, i sefydlu cyfleuster gofal plant gyda 30 o lefydd ar safle'r ysgol. Mae gwaith y contractwr penodedig Andrew Scott Ltd ar y safle yn parhau i fynd rhagddo yn ôl yr amserlen, a hynny tuag at sicrhau bod y cyfleusterau newydd yn barod erbyn mis Medi 2022.
Mae'r cynigion ar gyfer Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn cynnwys codi adeilad newydd sbon i'r Chweched Dosbarth, cyfleusterau chwaraeon newydd, a chyfleusterau gwell ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 a 4 o 2023 ymlaen. Bydd cyfleoedd hefyd i'r gymuned ddefnyddio'r cyfleusterau newydd yma. Ddydd Mawrth, manteisiodd y Cynghorydd Bonetto ar y cyfle i ymweld â'r ysgol a thrafod y cynlluniau cyffrous gyda'r Pennaeth Debra Baldock. Cafodd y datblygiad, wedyn, ganiatâd cynllunio ddydd Iau, 24 Mawrth.
Roedd y Cynghorydd Bonetto hefyd wedi ymweld ag Ysgol Gynradd Ffynnon Taf. Bydd yr ysgol yma'n elwa ar estyniad pedair ystafell ddosbarth a neuadd. Yn ddiweddar, roedd gwaith adnewyddu ac ailfodelu yno er mwyn creu lle i ddarpariaeth gofal plant a chanolfan i'r gymuned ar y safle. Mae’r prosiect yn cael ei wireddu gan ddefnyddio cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, ac mae'r Cyngor hefyd wedi cyfrannu ar wahân.
Mae cyfanswm y buddsoddiad gwerth £3 miliwn hefyd yn unigryw, gan y bydd y prosiect yn defnyddio unig ffynnon thermol naturiol Cymru yn ffynhonnell gwres carbon isel ar gyfer systemau gwresogi’r bloc ysgol newydd. Mae'r gwaith ar y safle'n mynd rhagddo yn ôl yr amserlen ac mae disgwyl i'r prosiect fod yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2022.
Buddsoddiad ar gyfer ysgolion lleol sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd
Mae holl brosiectau'r Cyngor sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd gwerth £252 miliwn. Mae'r cyllid yma'n dod oddi wrth Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
Ochr yn ochr â phrosiect Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, mae gwaith yn parhau ar y safle i adeiladu bloc addysgu newydd yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun. Bydd hyn yn cynyddu nifer y disgyblion, gan ateb galw cynyddol am ragor o leoedd. Bydd y prosiect buddsoddi yma, gwerth £12.1 miliwn, yn cael ei gwblhau yn 2022. Bydd yn cael gwared ar y llety dros dro, yn ogystal â darparu neuadd chwaraeon newydd ynghyd â chyfleusterau ychwanegol i'r gymuned.
Ym mis Mawrth 2022, derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Bydd y rhain yn cael eu hariannu gan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef cyllid refeniw sy'n dod oddi wrth Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Bydd pob ysgol yn cael adeilad newydd ar ei safle presennol a bydd gwelliannau i'r priffyrdd gerllaw yn cael eu llywio gan asesiadau Llwybrau Mwy Diogel Yn Y Gymuned.
Ledled Pontypridd Fwyaf, mae buddsoddiad mewn prosiectau gwerth mwy na £60 miliwn yn mynd rhagddo i fod yn barod erbyn 2024. Mae hyn yn cynnwys ysgolion newydd sbon ar safleoedd presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen. Yn ogystal â hyn, mae cynnig i adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen, ochr yn ochr â buddsoddiad mewn cyfleusterau newydd i'r Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog.
Yn olaf, ar ôl eu cyhoeddi ym mis Hydref 2021, mae'r Cyngor yn datblygu prosiectau Band B eraill gan ddefnyddio cyllid ychwanegol gwerth £85 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynigion yn sicrhau buddsoddiad yn Ysgol Llanhari, Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn, Ysgol Gynradd Tonysguboriau ac Ysgol Gynradd Pen-rhys, ynghyd ag ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer cymuned Glyn-coch ac ysgol arbennig newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Roedd yn bleser gen i ymweld â thair o’n hysgolion yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn elwa ar gam nesaf ein buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd. Byddan nhw'n dilyn yn ôl troed llu o gyfleusterau gwych sydd wedi'u darparu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf ar gyfer Tonyrefail, Glynrhedynog, Tonypandy, Cwmaman, Treorci, Porth, Pont-y-clun a Hirwaun.
“Wrth ymweld â safleoedd gwaith Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, roedd yn amlwg bod cynnydd tuag at gyflawni’r ddau brosiect erbyn yr haf yma'n mynd yn ei flaen yn ôl yr amserlen. Ym mis Medi bydd y staff a'r disgyblion yn elwa ar hyn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Nod y gwaith yng Nghwmdâr, a’r prosiect sy'n mynd rhagddo yn Ysgol Gyfun Rhydywaun ym Mhen-y-waun, yw creu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ychwanegol mewn ardal lle mae'r galw amdani yn amlwg. Bydd hyn yn cydymffurfio ag un o ddeilliannau allweddol Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg diwygiedig y Cyngor.
“Mae pob un o’n prosiectau buddsoddi mewn ysgolion yn cael eu dylunio gyda’r nod o fod yn Garbon Sero-Net, a hynny'n rhan o'n hymrwymiadau allweddol i fynd i'r afael â her Newid yn yr Hinsawdd wrth ganolbwyntio ar godi adeiladau ecogyfeillgar. Mae’r prosiect yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yn arbennig o gyffrous yn hyn o beth. Bydd yn defnyddio ynni sy'n dod yn naturiol o ffynnon thermol Ffynnon Taf i gynhesu rhan newydd yr ysgol. Does dim modd ail-greu hyn yn unman arall yng Nghymru.
“Rwy’n edrych ymlaen at y cynnydd pellach mewn perthynas â'n prosiectau Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, sydd â buddsoddiad gwerth £252 miliwn. Braf hefyd oedd ymweld ag Ysgol Gyfun Bryn Celynnog ddydd Mawrth, sef un o’r ysgolion fydd yn elwa ar fuddsoddiad yn y dyfodol. Diolch i’r ysgol am y croeso cynnes iawn.
“Rwyf hefyd yn falch iawn fod ein hysgolion wedi’u hariannu’n llawn unwaith eto ar ôl i ni gytuno'n ddiweddar ar Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2022/23. Bydd cyllid ychwanegol gwerth £11.2 miliwn ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf, sef cynnydd o 6.8% ers 2021/2022.”
Wedi ei bostio ar 25/03/2022