Ymwelodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion â Chwrt yr Orsaf ym Mhontypridd i weld y cyfleusterau gwych sy’n cael eu darparu drwy fuddsoddi mewn Gofal Ychwanegol. Mae hefyd wedi sôn am ariannu pwysig i Wasanaethau Cymdeithasol a chyflog cynhalwyr (gofalwyr) yng Nghyllideb y flwyddyn nesaf.
Penodwyd y Cynghorydd Gareth Caple yn aelod o garfan y Cabinet yn ddiweddar, ac achubodd ar y cyfle i ymweld â chyfleuster newydd Cwrt yr Orsaf Ddydd Llun, 14 Mawrth. Cafodd groeso cynnes gan aelodau o’r staff, a bu ar daith o amgylch yr adeilad i weld y cyfleusterau newydd trawiadol. Bu hefyd yn cwrdd â rhai o’r trigolion sy’n elwa o’r lleoliad o’r radd flaenaf.
Buddsoddiad parhaus o £50 miliwn mewn Gofal Ychwanegol
Cwrt yr Orsaf yw'r datblygiad diweddaraf i'w gyflawni gan y Cyngor a'i bartner Linc Cymru. Mae'n rhan o ymrwymiad i ddarparu 300 o welyau Gofal Ychwanegol ar draws Rhondda Cynon Taf mewn buddsoddiad o £50 miliwn. Mae’n rhan o ymdrech ehangach y Cyngor i foderneiddio gwasanaethau preswyl i bobl hŷn.
Mae Gofal Ychwanegol yn helpu pobl hŷn i fyw bywydau mor heini ac annibynnol â phosibl, gyda chymorth ar y safle ddydd a nos er mwyn bodloni anghenion y preswylwyr. Mae pob cyfleuster yn cynnwys ystod o amwynderau ar y safle ac yn bwriadu creu cymuned o fewn pob adeilad, yn ogystal â hyrwyddo rhyngweithio ystyrlon o fewn y gymuned ehangach.
Croesawodd Cwrt yr Orsaf ei breswylydd cyntaf ym mis Hydref 2021, ar ôl i’r gwaith o adeiladu’r cyfleuster 60 gwely gael ei gwblhau ar safle hen Lys Ynadon Pontypridd. Gan elwa ar gyllid sylweddol o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru, dyma yw trydydd cyfleuster Gofal Ychwanegol Rhondda Cynon Taf, ochr yn ochr â Thŷ Heulog yn Nhonysguboriau a Maes-y-ffynnon yn Aberaman.
Mae'r Cyngor a Linc Cymru hefyd wedi ymrwymo i greu darpariaeth Gofal Ychwanegol yn y Porth, Aberpennar a Threorci yn y dyfodol. Bydd y cyfleuster nesaf yn cael ei adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Dan y Mynydd yn y Porth, wedi i'r hen adeiladau gael eu dymchwel. Cynhaliodd Linc ymgynghoriad gyda’r gymuned ym mis Awst 2021 cyn derbyn caniatâd cynllunio ym mis Rhagfyr 2021.
Cyllid ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a chyflogau gofalwyr yn y Gyllideb
Daeth ymweliad yr Aelod o'r Cabinet â Chwrt yr Orsaf yn fuan ar ôl i’r Aelodau Etholedig gytuno ar Gyllideb 2022/23 y Cyngor ddydd Mercher, 9 Mawrth. Mae’n cynnwys £15 miliwn ychwanegol a ddyrannwyd i adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor (gan gynnwys Gwasanaethau'r Gymuned) yn Rhondda Cynon Taf ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mae’r dyraniad yma'n cynnwys adnoddau ychwanegol i fynd i’r afael â galwadau cynyddol – drwy ddatblygu’r gweithlu ymhellach, cefnogi’r gwaith parhaus o ailfodelu ac integreiddio gwasanaethau, a helpu i atal plant rhag dechrau derbyn gofal.
Mae Cyllideb 2022/23 hefyd yn codi'r isafswm cyflog yn uwch na’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae'n cynyddu i £10 yr awr o 1 Ebrill 2022. Mae hyn yn berthnasol i staff y Cyngor a staff ym meysydd gofal cymdeithasol wedi'i gomisiynu.
Ar ben hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror y bydd tua 53,000 o weithwyr gofal ledled Cymru yn cael bonws o £1,000 o fis Ebrill 2022. Bydd hyn yn cael ei roi i weithwyr gofal cartref a gofal cartref cofrestredig.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion: “Hoffwn ddiolch i staff a thrigolion Cwrt yr Orsaf am eu croeso cynnes iawn ddydd Llun. Roedd yn wych ymweld â chyfleusterau modern y datblygiad Gofal Ychwanegol yma, a phrofi’r amgylchedd llachar a lliwgar. Mae gwir ymdeimlad o gymuned yno i’w fwynhau. Daw hyn i gyd gyda’r sicrwydd bod cymorth ar gael ddydd a nos ar gyfer anghenion asesedig unigol pob preswylydd, diolch i ymroddiad y staff.
“Rydyn ni'n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i fuddsoddi £50 miliwn, mewn partneriaeth â Linc Cymru, i ddarparu 300 o welyau Gofal Ychwanegol ar draws pum datblygiad newydd yn Rhondda Cynon Taf. Maes-y-ffynnon yn Aberaman oedd y cyntaf i agor ei ddrysau i drigolion ar anterth y pandemig yn haf 2020. Mae chyfleusterau newydd ar gyfer Porth, Aberpennar a Threorci hefyd wedi’u cynllunio ar gyfer y dyfodol.
“Bydd y cynllun ar gyfer Porth ar hen safle Cartref Gofal Dan y Mynydd, lle cafodd yr adeiladau eu dymchwel yn 2021 i sicrhau bod y tir yn barod i gael ei ddatblygu. Cynhaliodd Linc Cymru ymgynghoriad gyda’r gymuned ym mis Awst er mwyn i drigolion gael rhagor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y cynlluniau ac yn dilyn hynny aeth ati i gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio. Cafodd y cais ei drafod a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ym mis Rhagfyr.
“Braf iawn hefyd oedd gweld ymrwymiad gwirioneddol i Wasanaethau Cymdeithasol yng Nghyllideb gytunedig y Cyngor ar gyfer 2022/23. Mae £15 miliwn ychwanegol wedi ei glustnodi ar gyfer y gwasanaeth y flwyddyn nesaf, tra bydd cyflog cynhalwyr yn codi uwchlaw’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae'r rhain yn ymrwymiadau pwysig i gydnabod ymroddiad ac ymrwymiad staff, ac i annog rhagor o bobl i'r alwedigaeth.
“Mae’r Cyngor wedi bod yn gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol ers blynyddoedd lawer. Ym mis Rhagfyr 2021 ymestynwyd yr ymrwymiad yma i gynnwys yr holl staff gofal cymdeithasol sy'n cael eu cyflogi gan ein darparwyr gwasanaethau a gomisiynwyd. Mae’n wych y bydd ein staff Cyngor yn ogystal â’r staff gofal cymdeithasol hynny a gomisiynwyd yn elwa o’r codiad cyflog o fis Ebrill 2022, wrth i’r Cyngor fuddsoddi ymhellach yn y gwasanaeth blaenoriaethol yma.”
Meddai Hazel Davies, Rheolwr Gwasanaeth Darpariaeth Gofal Ychwanegol Linc yn Rhondda Cynon Taf,: “Rydyn ni wrth ein boddau bod y Cynghorydd Caple wedi ymuno â ni heddiw yng Nghwrt yr Orsaf.
“Ers agor ym mis Hydref 2021, rydyn ni wedi mwynhau gweld ein preswylwyr yn creu cymuned fywiog a chyfeillgar. Mae ein cynllun yma ym Mhontypridd yn cynnig cartrefi o ansawdd uchel sy’n rhoi cyfle i breswylwyr fyw’n annibynnol, gan wybod bod cymorth wrth law os ydyn nhw ei angen.
“Mae ein partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf yn dangos ei ymrwymiad i gynnig cartrefi sy’n diwallu anghenion pobl leol.”
Wedi ei bostio ar 16/03/22