Mae pedwar cwmni bellach wedi derbyn her ailgylchu Cynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP) dros Gymru.
Dros y chwe mis nesaf bydd y cwmnïau yma'n datblygu eu dulliau eu hunain i fynd i'r afael â thua 41,000 o dunelli o wastraff AHP er mwyn gwella ar y dulliau sy'n bodoli eisoes yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i 200 miliwn o gewynnau y flwyddyn - neu tua hanner miliwn y dydd.
Diolch i bartneriaeth ‘Dyfodol Gwyrdd Glân’, gyda chymorth gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) Llywodraeth Cymru, mae busnesau o bedwar ban byd wedi cael £194,500 o gyllid i ddatblygu syniadau arloesol ar gyfer ailgylchu cewynnau ac AHP.
Mae’r bartneriaeth, a gafodd ei sefydlu ar ran Awdurdodau Lleol Cymru a Dŵr Cymru ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn gweithio tuag at ddod o hyd i atebion arloesol i drin ac ailgylchu gwastraff AHP a chegau sgrinio dŵr gwastraff yng Nghymru, a hynny mewn ffordd fforddiadwy a chynaliadwy.
Y pedwar busnes sydd wedi derbyn yr her yw:
- Nappicycle (Cymru)
- Elsinga (Yr Iseldiroedd)
- Kelland Environmental Technologies (Awstralia)
- Medisort (Lloegr)
Mae'r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol Cymru wedi bod yn casglu gwastraff AHP domestig dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Dŵr Cymru hefyd wedi bod yn ceisio cyfleoedd i ailgylchu'r gwastraff yma. Wrth ddod at ei gilydd i ddatrys y broblem felly, nod y prosiect yma bellach yw creu dull trin ac ailgylchu cynaliadwy ar gyfer Cymru gyfan.
Nod cyffredinol y prosiect yw datblygu technoleg ailgylchu o'r radd flaenaf ar gyfer gwastraff AHP a dŵr gwastraff o gegau sgrinio a fydd yn cael ei defnyddio gyntaf yma yng Nghymru.
Meddai Roger Waters, Uwch Swyddog Cyfrifol prosiect 'Dyfodol Gwyrdd Glân':
"Mae'r prosiect arloesol yma rhwng ac ar ran Llywodraeth Cymru, Dŵr Cymru a holl Awdurdodau Lleol Cymru yn mynd ati i ddatblygu a chyflwyno dull trin ac ailgylchu fforddiadwy a chynaliadwy ar gyfer gwastraff AHP yng Nghymru.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o ddatblygiadau arloesol wedi bod o ran y ffordd y mae gwastraff AHP yn cael ei drin. Prif nod y prosiect yma yw gweithio gyda busnesau er mwyn troi'r gwastraff yma'n adnodd gwerthfawr. Yn flaenorol, mater gwaredu gwastraff cadarn oedd hyn. Yn awr, yr unig ffordd o wneud hyn yw datblygu dulliau trin ac ailgylchu'r gwastraff.
"Ein gobaith ni yng Nghymru yw lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint ag y bo modd er mwyn bod yn genedl ddiwastraff sy'n gweithredu mewn economi gylchol. I wireddu hyn, mae Awdurdodau Lleol, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Dŵr Cymru, yn ceisio dulliau fforddiadwy a chynaliadwy o reoli gwastraff.”
Meddai Taliesin Maynard, Pennaeth Rhaglen Seilwaith Llywodraeth Cymru:
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi ein busnesau i ddylunio a datblygu atebion arloesol i broblemau byd-eang, sy’n helpu i hybu ein heconomi a diogelu ein cymdeithas.
“Mae’n galonogol gweld y bartneriaeth yn datblygu 'Dyfodol Gwyrdd Glân i Gymru' fel bod modd i ni gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
“Mae cyllid SBRI yn gyfle arbennig i helpu busnesau i wireddu deilliannau cynaliadwy sy’n cyfateb i anghenion Cymru. Wrth fuddsoddi yn eu syniadau a chefnogi datblygiad technolegau ailgylchu newydd, bydd Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad mewn perthynas â darparu ailgylchu o ansawdd uchel a helpu'r economi werdd drwy greu swyddi yng Nghymru.”
Meddai Tony Harrington, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd Dŵr Cymru:
“Mae Dŵr Cymru yn falch o fod yn rhan o’r her arloesi unigryw yma. Rydyn ni'n mwynhau gweithio gydag Awdurdodau Lleol Cymru a Llywodraeth Cymru i geisio technolegau ailgylchu cynaliadwy ac atebion eraill i fynd i'r afael â'r deunyddiau plastig sy’n mynd i mewn i’n systemau carthffosiaeth. Dyma obeithio, ynghyd â gwahardd plastig untro rhag cael ei fflysio i lawr y toiled - sydd yn dal i ddigwydd yn anffodus - y bydd y fenter ailgylchu yma o fudd i genedlaethau’r dyfodol ac yn rhoi Cymru ar y blaen o ran ailgylchu’r deunyddiau trafferthus yma.”
Bellach mae Cymru yn gyntaf yn y DU, yn ail yn Ewrop ac yn drydydd yn y byd ar gyfer ailgylchu gwastraff cartref. Mae Cymru'n parhau i fod yr unig wlad yn y byd i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhan o'r gyfraith, sy’n golygu bod rhaid i bob penderfyniad polisi presennol ystyried yr effaith ar genedlaethau'r dyfodol.
Wedi ei bostio ar 25/03/2022