Skip to main content

CERFLUN O'R AWDURES A'R EICON FFEMINISTAIDD CYMRAEG, ELAINE MORGAN

Elaine BAFTA

Mae cerflun i anrhydeddu’r awdures arloesol, y ddamcaniaethwraig esblygiadol a’r ffeminydd arloesol Elaine Morgan yn cael ei ddadorchuddio yn Aberpennar, De Cymru yn dilyn ymgyrch gan y grŵp Monumental Welsh Women.  

Dyma fydd yr ail gerflun erioed o ddynes wedi’i henwi a oedd yn berson go iawn i gael ei godi mewn man cyhoeddus awyr agored yng Nghymru, ar ôl i Gofeb Betty Campbell gael ei dadorchuddio yng Nghaerdydd gan Monumental Welsh Women ym mis Medi 2021.

Bwriad Monumental Welsh Women yw codi 5 cerflun i anrhydeddu 5 Cymraes mewn 5 lleoliad gwahanol o amgylch Cymru mewn 5 mlynedd.

Bydd cerflun Elaine Morgan, sy'n gofeb barhaol efydd o'r ferch enwog o Gymoedd y De, yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig ar ddydd Gwener 18 Mawrth 2022, yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf. 

Mae wedi’i ddylunio a’i greu gan y cerflunydd enwog Emma Rodgers, sy’n adnabyddus am ddal gweithred neu symudiad yn ogystal â thynerwch yn ei cherfluniau. Mae gwaith Rodgers yn cyfleu pŵer a grym bywydol eu testunau. 

Cafodd y cerflun ei gomisiynu yn dilyn yr ymgyrch 'Hidden Heroines' a gafodd ei threfnu gan Monumental Welsh Women a'i darlledu ar BBC Cymru. Y merched eraill ar y rhestr fer oedd Margaret Haig Thomas (Arglwyddes Rhondda), Elizabeth Andrews, Sarah Jane Rees (Cranogwen) a Betty Campbell – y fenyw gyntaf ar y rhestr i gael ei hanrhydeddu â cherflun.

Roedd Elaine Morgan yn fenyw amryddawn iawn a newidiodd y byd o'i desg yn Aberpennar, heb fyth droi'i chefn ar ei gwreiddiau yn y Cymoedd. Roedd Elaine Morgan yn rhagori ym myd y celfyddydau a'r byd gwyddonol, ac roedd hi'n un o ysgrifenwyr gorau'r byd teledu, yn eicon ffeministaidd ac yn ddamcaniaethwraig esblygol arloesol. Mewn gyrfa o dros 30 o flynyddoedd, enillodd lu o wobrau a sgriptio rhai o'r dramâu mwyaf poblogaidd yn hanes byd teledu, gan gynnwys 'How Green Was My Valley' a 'The Life and Times of Lloyd George'.

Cafodd ei geni i deulu glofaol tlawd yn Nhrehopcyn, ac enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen. Wedi iddi gyrraedd, ar ôl clywed ei hacen Cymoedd, roedd pawb yn tybio mai gwneud cais am swydd glanhawr oedd hi. Ond daeth Elaine Morgan yn fyfyriwr disglair, gan gadeirio cymdeithasau gwleidyddol a hogi'i medrau llenyddol.

Ar ôl graddio bu'n dysgu am dair blynedd gyda Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Erbyn y 1950au, roedd gŵr a thri mab gyda hi.  Dechreuodd Elaine Morgan ysgrifennu dramâu i gael deupen llinyn ynghyd.

Hi oedd un o'r merched cyntaf i wneud argraff yn y byd teledu, a oedd yn cael ei ystyried yn ddiwydiant mwy addas ar gyfer dynion ar y pryd. Cafodd ei sgriptiau teledu cyntaf eu cymeradwyo cyn iddi berchen ar set deledu hyd yn oed.  

Yn y 1970au, trodd Elaine Morgan ei sylw at wyddoniaeth, gan ymgymryd â maes arall a oedd yn cael ei ystyried yn fwy addas ar gyfer dynion, gyda'i damcaniaeth newydd o esblygiad dynol.

Yn ei llyfr The Descent of Woman (1972), dadleuodd y dylai esblygiad dynol ehangu ei ffocws y tu hwnt i’r heliwr gwrywaidd – roedd benywod yn rhan yr un mor hanfodol o’r stori. Cyrhaeddodd The Descent of Woman y brig mewn sawl gwlad yn syth. Mae Elaine Morgan yn cael ei dathlu yn America fel arwres ffeministaidd, ac fe ddaeth ei llyfr yn destun allweddol yn y mudiad Rhyddid Menywod. 

Cyhoeddodd Elaine Morgan sawl llyfr arall ar esblygiad – gan gynnwys The Aquatic Ape (1982), a ddaliodd sylw dros y byd unwaith eto; The Scars of Evolution (1990); The Descent of the Child (1994); The Aquatic Ape Hypothesis (1997) a The Naked Darwinist (2008).

Roedd Elaine Morgan yn llais hanfodol ymhell i mewn i'w henaint, a gwyliodd dros filiwn o bobl y 'Ted Talk' ar theori esblygiadol iddi gyflwyno pan oedd hi'n 89 oed.  Parhaodd Elaine Morgan i ysgrifennu ei cholofn arobryn yn y Western Mail, 'The Pensioner', yn ei 90au.

Cafodd ei phenodi'n Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn 2009 ac yn yr un flwyddyn cafodd ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. 

Meddai Helen Molyneux, sylfaenydd y grŵp Monumental Welsh Women,  "Ein bwriad ni yw dathlu uchelgais a llwyddiant menywod trwy goffáu cyflawniadau Cymraësau ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod ein prosiect ni'n comisiynu ail gerflun, o Elaine Morgan yn ystod Mis Hanes Menywod eleni - 50 mlynedd wedi cyhoeddi 'Decent of Woman' (1972) a 40 mlynedd wedi cyhoeddi 'The Aquatic Ape' (1982). Roedd Elaine yn ddramodydd ac yn eicon benywaidd, ac rydyn ni'n falch iawn o gael anfarwoli ei chyflawniadau fel bod pawb yn ei chofio hi am genedlaethau i ddod. Roedd hi'n ysbrydoliaeth ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y cerflun ohoni hi yn ysbrydoli merched a bechgyn ifainc Aberpennar a phawb arall pan fyddan nhw'n ei weld”. 

Meddai Gareth Morgan, mab Elaine Morgan, “Rwy'n gwybod y byddai Elaine yn falch iawn o ymgyrch cerfluniau i Gewri Benywaidd Cymru. Byddai hi wrth ei bodd yn dathlu'r holl fenywod rhagorol o Gymru. 

“Mae gwaith Elaine wedi ysbrydoli menywod ledled y byd ac rwy' wedi gweld negeseuon gan fenywod o bedwar ban byd yn diolch iddi am newid eu bywydau. Roedd rhai ohonyn nhw wedi'u hysbrydoli i fentro i fyd gwyddoniaeth, ac eraill wedi dechrau ysgrifennu neu wedi gwireddu uchelgais ar ôl iddyn nhw ddarllen ei llyfrau. Roedd pob un yn dweud ei bod hi wedi newid eu canfyddiad nhw o fod yn fenywod.

“Emma Rogers sydd wedi'i chomisiynu i greu'r cerflun ac rwy'n gwybod y byddai Elaine wrth ei bodd yn gwybod taw menyw arall sy tu ôl i'r cerflun. Mae rhai'n galw Elaine yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ond a dweud y gwir rwy'n meddwl iddi gredu bod menywod yn haeddu mwy na hynny! 

"Yn 2013 es i gyda hi i seremoni ble derbyniodd hi Ryddfraint gan Gyngor Rhondda Cynon Taf. Roedd derbyn yr anrhydedd yma a'i serch at ei mamwlad yn fwy pwysig iddi na'r holl wobrau rhyngwladol y derbyniodd hi, felly diolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio'n galed er mwyn sicrhau llwyddiant yr ymgyrch yma."

Cafodd Emma Rodgers, cerflunydd Cerflun Elaine Morgan, ei dewis o restr fer o gerflunwyr benywaidd rhyngwladol o fri. Mae ei gweithiau nodedig yn cynnwys cerflun o Cilla Black yn Lerpwl.  

Meddai Emma Rodgers: “Rwy'n teimlo fraint mawr I creu un or cerfluniau a enwir menywod cyntaf yng Nghymru, ac rwy'n falch iawn ei bod yn fenyw mor ysbrydoledig. Roedd gan Elaine Morgan dim yn unig meddwl anhygoel ond cynhesrwydd ac ysbryd magwraeth”. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: "Roedd Elaine Morgan yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o bobl ac fe fydd ei gwaith yn byw'n dragwyddol er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

“Yn ogystal â bod yn llenor talentog, gweithiodd Elaine ar sawl addasiad llwyddiannus i'r teledu. Rwy'n falch iawn bod y cerflun yma'n dod i Aberpennar - tref roedd hi'n hoff iawn ohoni a'i chartref am sawl blwyddyn.

"Roedd Dr Elaine Morgan OBE yn fenyw dawel a diymhongar, a derbyniodd hi Ryddfraint y Fwrdeistref Sirol gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2013. Roedd hi'n hynod falch o gael derbyn yr anrhydedd ac rydyn ni'n falch iawn o gael ei hanrhydeddu hi gyda'r cerflun yma."

Meddai Emrys Elias, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae’n braf bod un o safleoedd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg wedi cael ei ddewis i fod yn gartref parhaol i’r gofeb o Elaine Morgan.

 “Trwy ddatblygu adeilad Tŷ Calon Lân gyda chymorth Meddygfa Glan Cynon, rydyn ni’n buddsoddi yn iechyd a lles y gymuned leol ar gyfer y presennol a’r dyfodol, ac mae’n braf gyda ni ddathlu treftadaeth yr ardal hon hefyd.

“Wrth i’n cleifion ymweld â thîm y GIG yma, rydyn ni’n gobeithio y bydd etifeddiaeth anhygoel Elaine yn eu hysbrydoli.” 

Mae’r cerflun o Elaine Morgan wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth cyllidwyr a phartneriaid Monumental Welsh Women, a rhoddion hael gan aelodau’r cyhoedd. 

Bydd seremoni dadorchuddio ar gyfer cerflun Elaine Morgan yn cael ei chynnal am 11am BST, ddydd Gwener 18 Mawrth 2022 y tu allan i Feddygfa Glan Cynon, Tŷ Calon Lân, Stryd Rhydychen, Aberpennar, RhCT.

Wedi ei bostio ar 18/03/22