Skip to main content

Llwybr Taith Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd bellach ar agor yn dilyn gwelliannau

Taff Trail realignment - Copy

Mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith sylweddol i adlinio rhan o Lwybr Taith Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd yn dilyn difrod a achoswyd gan y storm. Mae'r llwybr gwell bellach wedi ailagor i'r gymuned.

Dechreuwyd y gwaith o adlinio'r llwybr yn gynnar ym mis Chwefror. Roedd y llwybr dan ddŵr yn ystod tywydd digynsail Storm Dennis ac arweiniodd hyn at erydiad llwyr mewn rhai mannau. Yn rhan o'r cynllun a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, cynhaliwyd gwaith i wella'r llwybr 3 metr o led, ac mae bellach yn cydymffurfio â chanllawiau Teithio Llesol. Cafodd y llwybr ei ailagor i'r cyhoedd ar 18 Mawrth.

Mae llifogydd yn tueddu i effeithio ar y rhan yma o Lwybr Taith Taf yn ystod glaw trwm iawn, gan arwain at gau'r llwybr am gyfnodau sylweddol. Mae'r llwybr newydd wedi'i adeiladu ar dir uwch, sy'n golygu bod risg llifogydd yn llai.

Mae'r cynllun yn rhan o waith parhaus y Cyngor i wneud gwelliannau ar hyd Llwybr Taith Taf, ac mae'r rhan o'r llwybr sydd newydd gael ei gwella yng Nghilfynydd yn cysylltu â phont droed Nant Cae Dudwg. Doedd yr hen strwythur pren ddim yn addas i'w ddiben felly cafodd pont ddur newydd ei gosod yn ystod 2019/20. Mae'r bont, sy'n fwy diogel, bellach yn bodloni'r safonau cyfredol ar gyfer beicwyr a cherddwyr.

Mae'n bosibl y bydd y rheiny sy'n defnyddio'r llwybr, a gafodd ei ailagor ddydd Gwener, yn sylwi ar fân waith fydd i'w gwblhau dros yr wythnosau nesaf. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Mae trwsio'r difrod a achoswyd gan Storm Dennis, a stormydd eraill, yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor.  O ganlyniad i'r gwaith a gafodd ei gynnal dros y chwe wythnos ddiwethaf ar y rhan yma o Lwybr Taith Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd, mae modd i'r gymuned ddefnyddio'r llwybr a rennir unwaith eto. Mae'r llwybr hefyd wedi'i adeiladu ar dir uwch er mwyn lleihau perygl llifogydd. 

"Mae'n dilyn cynllun arwyddocaol i ailagor rhan o Lwybr i'r Gymuned yn ardal Ynys-hir a gafodd ei gwblhau ddechrau mis Mawrth, a hynny'n dilyn cynllun adfer tirlithriad oherwydd Storm Dennis. Mae gwelliannau wedi'u cynnal i nifer o leoliadau Teithio Llesol ar hyd Taith Taf ers diwedd mis Ionawr. Mae gwaith gosod wyneb newydd, draenio a gwella ffensys wedi cael ei gynnal mewn nifer o leoliadau ger Glyn-Taf, Nantgarw, Cilfynydd ac Abercynon.

"Mae'r rhan o Lwybr Taith Taf rhwng Trallwn a Chilfynydd, sydd wedi'i adlinio, bellach wedi'i diogelu ar gyfer y dyfodol, wrth i ni barhau i hyrwyddo manteision Teithio Llesol o ran iechyd, lles a'r amgylchedd yn ein cymunedau lleol.”

Wedi ei bostio ar 21/03/22