Mae disgyblion un ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi mwynhau brecwast gyda gwestai arbennig - yr actor o Gymru, Michael Sheen.
Ymunodd seren y sgrin a'r llwyfan â disgyblion Ysgol Gymuned Tonyrefail dros alwad Zoom yn ystod cyfarfod dros frecwast.
Mae Michael Sheen wedi wedi bod mewn nifer o gynyrchiadau llwyfan gan gynnwys 'Romeo and Juliet', 'Amadeus', a 'Caligula' ac wedi'i enwebu am dair gwobr Olivier am ei berfformiadau. Mae ei waith mewn ffilmiau a rhaglenni teledu'n cynnwys 'The Deal' (2003), 'The Queen' (2006), 'Fantabulosa!' (2006), 'Frost/Nixon' (2008), 'The Damned United' (2009) a 'The Special Relationship' (2010).
Roedd Mr Sheen yn awyddus i ymuno â'r disgyblion yn Ysgol Gymuned Tonyrefail i siarad am eu gwaith gyda Bardd Plant Cymru, Eloise Williams.
Ganed Eloise Williams yng Nghaerdydd a chafodd ei magu yn Llantrisant. Mae hi bellach yn byw yn Saundersfoot, Sir Benfro. Mynychodd hi Ysgol Gynradd Coed yr Esgob ac Ysgol Gyfun y Pant, cyn mynd i astudio Drama yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Actio yn 'Guildford School of Acting', ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe. Buodd hi'n gweithio yn diwtor actio ac yn ymarferydd creadigol am dros ddegawd cyn dod yn llenor i blant.
Meddai Gaynor Davies – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Dyma ddiwrnod bydd disgyblion Ysgol Gymuned Tonyrefail yn ei gofio am weddill eu bywydau. Michael Sheen yw un o sêr y sgrin a'r llwyfan mwyaf llwyddiannus Cymru ac mae'n adnabyddus ledled y byd."Hoffen ni ddiolch iddo am roi o'i amser ac ysbrydoli disgyblion Ysgol Gymuned Tonyrefail."
Trafodon nhw bwysigrwydd yr iaith Gymraeg, y gwahaniaethau rhwng Hollywood a Chymru a'r diwydiant ffilm a theledu yng Nghymru.
Meddai Heather Nicholas, pennaeth Ysgol Gymuned Tonyrefail: "Mae pawb yn yr ysgol yn ddiolchgar iawn i Michael Sheen am roi o'i amser a siarad gyda'r disgyblion am eu gwaith gyda Bardd Plant Cymru."Roedd e'n gwrando'n astud arnyn nhw ac yn ateb eu cwestiynau mewn modd ystyrlon ac ysbrydoledig. Dywedodd wrth y disgyblion bod gennym ni i gyd ein stori ein hunain a phwysleisiodd bwysigrwydd rhannu ein straeon."
Wedi ei bostio ar 19/05/22