Bydd un o Hebryngwyr Croesfan Ysgol y Cyngor yn ymddeol yn fuan wedi 38 mlynedd o sicrhau bod plant yn cyrraedd Ysgol Pont-y-gwaith yn ddiogel.
Dechreuodd Christine Leach, sydd wedi'i geni a'i magu ym Mhont-y-gwaith, yn ei rôl yn 1984 ac fe fydd hi'n gorffen ddydd Gwener, 27 Mai. Mae ei hymrwymiad i ddiogelwch ar y ffyrdd wedi sicrhau bod cenedlaethau o blant ym Mhont-y-gwaith wedi cyrraedd yr ysgol yn ddiogel bob dydd.
Mae Christine, 73 oed, yn un o tua 50 o swyddogion sydd wedi'u cyflogi gan y Cyngor i gynorthwyo plant a cherddwyr eraill i groesi ffyrdd prysur. Ar hyn o bryd mae Christine yn gweithio yn y bore a'r prynhawn, ac roedd hi'n arfer gweithio amser cinio hefyd.
Mae hi'n edrych ymlaen at ei hymddeoliad, ond yn dweud y bydd hi'n gweld eisiau'r rôl sydd wedi bod yn rhan o'i bywyd beunyddiol ers bron 40 mlynedd.
Meddai Christine: "Mae'r amser wedi dod i ymddeol, er fy mod i'n dal i fwynhau fy swydd. Rwy'n falch iawn o fy nghyflawniad a minnau'n gwneud y swydd cyn hired. Rydw i wedi gweld cenedlaethau o deuluoedd dros y degawdau diwethaf - mae rhai o'r rhieni'n dweud wrth eu plant 'Roedd Mrs Leach yn fenyw lolipop pan roeddwn i yn yr ysgol'.
"Rwy'n cofio fy niwrnod cyntaf. Ymgeisiodd dri pherson am y swydd, ac roeddwn i'n lwcus iawn o gael fy mhenodi. Roeddwn i'n cael to newydd ar y tŷ ar y pryd, ac roedd angen arian arna i i dalu'r adeiladwyr, felly penderfynais i wneud cais. Doedd dim syniad gen i y byddwn i'n parhau yn y swydd am bron i 40 mlynedd.
"Rwy'n bwriadu treulio fy amser hamdden yn fy rhandir, a rhoi cynnig ar wnïo, pobi, a gofalu am fy wyres.”
Meddai Gaynor Davies – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Hoffwn i longyfarch Christine am ei 38 mlynedd o wasanaeth i'w chymuned leol, ac am helpu pobl ifainc Pont-y-gwaith i gyrraedd a gadael yr ysgol yn ddiogel bob dydd. Law neu hindda, mae Christine wedi bod wrth ymyl y ffordd yn barod i helpu.
"Mae Christine wedi dysgu miloedd o blant am bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd ac rwy'n sicr y bydd pawb yn Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith yn gweld ei heisiau hi. Hoffen ni i gyd ddymuno ymddeoliad hapus iddi."
Mae Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfan Ysgol yn darparu'r gwasanaeth allweddol o sicrhau diogelwch oedolion a phlant ar eu ffordd i'r ysgol ac yn ôl adref. Mae'r gwasanaeth yma'n rhan ymroddgar o Garfan Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor, a hoffai pawb yn y garfan ddymuno ymddeoliad hapus i Christine.
Wedi ei bostio ar 18/05/2022