Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus ledled Rhondda Cynon Taf yn ymuno yn nathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines ac mae angen eich help chi arnyn nhw.
Ar 6 Chwefror 2022, Ei Mawrhydi y Frenhines oedd y Frenhines Brydeinig gyntaf i ddathlu Jiwbilî Platinwm, gan nodi 70 mlynedd o wasanaeth i bobl y Deyrnas Unedig, y teyrnasoedd a'r Gymanwlad.
Bydd Gŵyl y Banc hirach ym Mehefin yn rhoi cyfle i gymunedau a thrigolion Rhondda Cynon Taf ymuno ag eraill ledled y Deyrnas Unedig a'r Gymanwlad i ddathlu'r garreg filltir hanesyddol yma.
Bydd Llyfrgelloedd RhCT yn cynnal arddangosfa arbennig ar gyfer y Jiwbilî Platinwm yn llawn lluniau ac erthyglau am Goroni’r Frenhines yn Abaty Westminster ar 2 Mehefin 1952, a'i hymweliadau brenhinol â Rhondda Cynon Taf. Bydd yr arddangosfa yma'n cael ei chludo i lyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol. Rhagor o fanylion i ddilyn...
Lleoliadau ac oriau agor llyfrgelloedd yn Rhondda Cynon Taf
Bydd Llyfrgelloedd RhCT yn arddangos llyfrau am y Frenhines a'r Teulu Brenhinol i nodi'r achlysur yma.
Bydd partïon stryd yn digwydd ledled Rhondda Cynon Taf a bydd Theatr y Parc a'r Dâr a Theatr y Colisëwm, ynghyd ag atyniadau cyhoeddus eraill yn cael eu goleuo trwy gydol y dathliadau.
Mae baneri'r Jiwbilî Platinwm hefyd yn cael eu gosod ar adeiladau dinesig ledled Rhondda Cynon Taf yn Llys Cadwyn Pontypridd; Rock Grounds, Aberdâr; a Swyddfeydd y Cyngor yng Nghwm Clydach.
Diolch i Archif RhCT, bydd Llyfrgelloedd y Fwrdeistref Sirol hefyd yn darparu lluniau a chefnogaeth i sefydliadau sy'n bwriadu cynnal arddangosfeydd eu hunain.
Rydyn ni'n gofyn am gymorth gan y cyhoedd i adeiladu ar Archif gynhwysfawr RhCT i genedlaethau'r dyfodol trwy fynd â lluniau sy'n ymwneud â theyrnasiad y Frenhines i lyfrgelloedd yn y Fwrdeistref Sirol - Llys Cadwyn ym Mhontypridd, Llyfrgell Aberdâr a Llyfrgell Treorci.
Hoffai aelodau staff y llyfrgell weld eich lluniau o achlysuron brenhinol ar ffilmiau 8mm a 'Super 8' er mwyn eu trosi nhw i ffurf ddigidol. Bydd y lluniau yma'n cael eu dychwelyd atoch chi'n ddiogel a byddwch chi hefyd yn derbyn fersiwn digidol.
Oes gennych chi unrhyw luniau o'r Frenhines, ymweliadau brenhinol â'r Fwrdeistref Sirol, neu bartïon stryd y Jiwbilî Arian/Aur? Ewch â nhw i'r llyfrgelloedd penodedig a bydd y staff yn sganio, digideiddio a storio'r lluniau yn Archifau RhCT er mwyn i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Bydd y lluniau gwreiddiol yn cael eu dychwelyd i'w perchnogion.
Bydd ffaglau Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn cael eu cynnau mewn lleoliadau amrywiol ledled y DU ddydd Iau, 2 Mehefin, i nodi'r garreg filltir yma. Bydd ffaglau hefyd yn cael eu cynnau mewn lleoliadau ledled Rhondda Cynon Taf a bydd ffagl swyddogol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Rock Grounds, Aberdâr, CF44 7AE.
Bydd rhywbeth at ddant pawb yn Llyfrgelloedd RhCT yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines. Bydd modd i breswylwyr iau y Fwrdeistref Sirol ymuno yn yr hwyl hefyd trwy gymryd rhan mewn sesiynau Lego arbennig i ddathlu'r achlysur. Bydd y sesiynau yma'n digwydd yn Llys Cadwyn, Pontypridd (ddydd Llun, 23 Mai am 4.00pm); Llyfrgell Aberdâr (ddydd Mawrth, 24 Mai am 4.00pm); a Llyfrgell Treorci (ddydd Mercher, 1 Mehefin am 2.30pm).
Bydd sesiynau dweud stori a chelf a chrefft Jiwbilî Platinwm y Frenhines i blant bach hefyd yn digwydd yn Llys Cadwyn, Llyfrgell Aberdâr a Llyfrgell Treorci ddydd Mawrth, 31 Mai a dydd Mercher, 1 Mehefin. Bydd pecynnau celf a chrefft i fynd â nhw gartref ar gael ym mhob llyfrgell yn RhCT.
Mae cyfres o lwybrau cerdded y Jiwbilî Platinwm hefyd ar draws Rhondda Cynon Taf ym Mharc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr; Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd a'r dref gyfagos; a chanol tref Tonypandy.
Llwybrau Cerdded Jiwbilî Platinwm y Frenhines
Wedi ei bostio ar 18/05/2022