Yr wythnos nesaf, bydd y Cabinet yn ystyried cynigion swyddogion i symud i gasglu bagiau du bob tair wythnos. Yn rhan o'r cynigion, bydd y cyfyngiad o 1 bag du yr wythnos i bob aelwyd, sydd ar waith ar hyn o bryd, yn parhau (gan symud o gasglu 2 fag bob pythefnos i 3 bag bob tair wythnos).
Mae'r cynigion yn golygu caiff aelwydydd roi 3 bag du allan i'w casglu bob tair wythnos. Mae bron un o bob tri o Gynghorau yng Nghymru eisoes yn gweithredu'r trefniant yma o gasglu bob tair wythnos yn llwyddiannus.
Byddai casgliadau cewynnau, gwastraff bwyd a bagiau clir yn parhau i gael eu casglu'n wythnosol. Dylai'r gwastraff yma fod bron i 80% o holl wastraff wythnosol aelwydydd.
Mae Cabinet y Cyngor wedi nodi'n barod yr heriau digynsail sydd ar y gweill i wasanaethau ledled llywodraeth leol, a hynny yn sgil effaith economaidd parhaus COVID-19, Brexit, y gwrthdaro yn Wcráin a'r argyfwng costau byw, ble mae disgwyl y bydd chwyddiant digid dwbl a 355% o gynnydd ym mhrisiau ynni awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n hollbwysig bod y Cyngor yn osgoi dirwyon am beidio ag ailgylchu drwy fwrw targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru a chefnogi ymdrechion Cymru i ddod yn sero net erbyn 2030.
Mae'r gyfradd ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf yn 67.48% ar hyn o bryd. Rhaid i ni weithredu nawr i sicrhau nad yw'r Cyngor yn wynebu dirwyon sylweddol o £140,000 am bob 1% y mae'n methu â'i gyrraedd. A hithau'n gyfnod anodd fel y mae hi, gallai'r swm sylweddol yma o arian arwain at doriadau i wasanaethau neu gallai effeithio'n fawr arnyn nhw, a hynny er mwyn talu'r dirwyon.
Mae disgwyl bod modd i 8 o bob 10 bag du sy'n cael eu rhoi allan i gael eu casglu gael eu hailgylchu, ac mae'n debygol y byddai'r newid yma yn ein helpu ni gyd i feddwl am bob un peth rydyn ni'n ei daflu a ph'un a oes modd ei ailgylchu ai beidio.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Diwylliant,“Rydyn ni wedi dod yn bell iawn dros y degawd diwethaf diolch i'n trigolion sy'n ailgylchu a'n staff ymroddedig.
“Yn 2013, pan gafodd casgliadau bob pythefnos ei gyflwyno, cyfradd ailgylchu'r Fwrdeistref Sirol oedd 43.3% ac roedd yn wynebu dirwyon posibl am beidio â chyrraedd targed Llywodraeth Cymru o 52% ar gyfer 2013/14. Erbyn heddiw, cyfradd ailgylchu'r Cyngor yw 67.4%, dyna gynnydd o 24%!
“Mae hyn yn dangos bod y newidiadau a gafodd eu gwneud ar yr adeg yna, law yn llaw â'n trigolion gwych, wedi ein helpu i ragori ar y targed cyfredol (mae Llywodraeth Cymru'n gosod targedau statudol i ailgylchu o leiaf 64% o wastraff erbyn 2019-20).
“O ganlyniad i Ddatganiad yr Hydref y Canghellor, gallai'r blynyddoedd nesaf fod y rhai anoddaf yn ariannol y bydd yn rhaid i ni eu hwynebu fyth, gyda bwlch posibl o £47m yn y gyllideb y flwyddyn nesaf, a fydd yn cynyddu'n sylweddol erbyn 2025/26. Byddai'r newidiadau arfaethedig yn arbed cyllid hanfodol i'r Cyngor ac yn helpu i ddiogelu gwasanaethau eraill, wrth barhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu wythnosol llawn a sicrhau ein bod yn cwrdd â thargedau Llywodraeth Cymru ac yn lleihau ein hôl troed carbon cyffredinol.
“OND, rhaid i ni nawr ystyried ein sefyllfa i sicrhau ein bod ni'n cyrraedd y targed nesaf, sef 70%, erbyn 2024/25 a ddim yn wynebu dirwyon sylweddol mewn cyfnod sydd eisoes yn anodd yn ariannol. Bydda i a fy nghydweithwyr yn y Cabinet a swyddogion y Cyngor yn trafod y newidiadau arfaethedig sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad mewn ymgais i osgoi'r dirwyon yma, sicrhau ein bod yn cwrdd â'r targedau, diogelu gwasanaethau allweddol, a chyrraedd y targed o fod yn sero net erbyn 2030.”
Byddai'r newid arfaethedig i'r trefniadau gweld cynnydd yn y swm a gaiff ei ailgylchu a fyddai’n cyfateb i 2,600 tunnell a chynnydd o 1.9% yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol y Cyngor (yn seiliedig ar ffigurau 2021), (yn cynyddu o 67.48% i 69.38% ). Yn ogystal â hyn, byddai'r Cyngor yn ceisio arbed tua £800,000 mewn costau rhedeg a lleihau ei ôl troed carbon cyffredinol o tua 100TCO2e y flwyddyn. Byddai unrhyw arbedion yn cael eu dargyfeirio i ddiogelu gwasanaethau allweddol eraill, fel gofal cymdeithasol neu addysg.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn dilyn cyfarfod y Cabinet ddydd Mercher, 23 Tachwedd. Mae modd dod o hyd i adroddiadau ar-lein yn https://rctcbc.moderngov.co.uk/ieListMeetings.aspx?CommitteeId=132&LLL=0
Wedi ei bostio ar 23/11/2022