Skip to main content

Parcio AM DDIM dros gyfnod y Nadolig yn Aberdâr a Phontypridd am y nawfed flwyddyn

FREE festive parking returns in 2022 WELSH

Bydd menter barcio AM DDIM y Cyngor yn Aberdâr a Phontypridd dros y Nadolig yn parhau eto yn 2022, o 10am bob dydd ym mis Rhagfyr. Y bwriad yw annog trigolion i siopa'n lleol a chefnogi ein masnachwyr ar y stryd fawr dros y Nadolig.

Am y nawfed flwyddyn yn olynol, fydd dim angen talu i barcio mewn meysydd parcio sy'n eiddo i'r Cyngor yn y ddwy dref trwy gydol mis Rhagfyr – o ddydd Iau 1 Rhagfyr, i ddydd Sadwrn 31 Rhagfyr (gan gynnwys y diwrnodau yma). Mae cyfnod prysur y Nadolig yn hwb i ganol ein trefi ni, ac rydyn ni'n annog ymwelwyr i ymuno yn y dathliadau ac edrych ar yr hyn sydd gan ein masnachwyr gwych ni i'w gynnig.

Yn Aberdâr, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Stryd Las, y Llyfrgell, Stryd y Dug, Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a'r Ynys. Ym Mhontypridd, bydd modd parcio am ddim ym meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, Iard y Nwyddau (dim ond y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Dôl-y-felin, Heol Berw a Heol Sardis.

Cofiwch fod meysydd parcio'r Llyfrgell, y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr a chewch chi ddim parcio am fwy na phedair awr yno. Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am fod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd parcio am ddim eto ym mhob un o'n meysydd parcio ni ym mis Rhagfyr o 10am bob dydd wrth i ni gefnogi ein busnesau canol tref a'r fenter siopa'n lleol am y nawfed flwyddyn.

“Bydd cyfnod y Nadolig eleni hefyd y cyntaf ers 2019 heb unrhyw gyfyngiadau COVID-19 ffurfiol. Mae hyn yn cynnig cyfle gwych i roi rhywbeth yn ôl i fasnachwyr lleol, gan ystyried eu haberth yn ystod cyfnod y pandemig.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio ar drigolion ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf ar hyn o bryd, ac yn gobeithio y bydd y cynnig o barcio'n lleol am ddim, ynghyd â'r teithiau byrrach o'u cymharu â theithio y tu hwnt i'r fwrdeistref sirol, yn helpu rhywfaint gyda'r heriau sy'n ein hwynebu ni ar hyn o bryd.”

Wedi ei bostio ar 09/12/2022