Mae tri o bobl wedi derbyn dirwyon sy'n dod i gyfanswm o bron i £4,000 am dipio'n anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf!
Mae'r achosion diweddaraf yma'n amlygu dull dim goddefgarwch y Cyngor o fynd i'r afael â sbwriel, tipio'n anghyfreithlon a pherchnogion cŵn anghyfrifol. Bydd y Cyngor yn defnyddio pob pŵer sydd ar gael iddo i ddal y rheiny sy'n gyfrifol am anharddu ei drefi a chefn gwlad.
Mae'r tri pherson yma wedi ymddangos mewn llys am fethu â rheoli eu gwastraff yn unol ag Adran 34 Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Dyma ddisgrifiad o dipio'n anghyfreithlon yn Adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn iaith wreiddiol y ddeddfwriaeth: “Anyone who produces, imports, keeps, stores, transports, treats or disposes of waste must take all reasonable steps to ensure that waste is managed properly”. Bydd unrhyw un sy'n methu â glynu at y ddeddf yma'n wynebu dirwy fawr!
Roedd DAU o'r troseddwyr yma'n absennol o'r llys pan gafodd yr achos ei brofi. Derbyniodd y troseddwr cyntaf ddirwy gwerth £1760, gyda £624.41 o gostau a £176 o ordal dioddefwyr sy'n dod i gyfanswm o £2,560.41!
Derbyniodd yr ail droseddwr ddirwy gwerth £440, gyda £624.41 o gostau a £176 o ordal dioddefwyr sy'n dod i gyfanswm o £1,108.41.
Plediodd y troseddwr olaf yn euog a dysgodd ei wers - os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared ar eich gwastraff, mae’n rhaid i chi sicrhau bod gennych chi gofnod sy'n dangos eich bod chi wedi gofyn a oes gyda nhw drwydded i wneud hynny. Os nad oes gennych chi gofnod o hyn, arnoch chi mae'r dyletswydd gofal. Derbyniodd y dyn yma ddirwy gwerth £40, gyda £254 o gostau a £34 o ordal dioddefwyr sy'n dod i gyfanswm o £328.
Dyma atgoffa trigolion fod dyletswydd gofal arnyn nhw i gael gwared ar eu gwastraff yn briodol, ac i sicrhau bod eitemau'n cael eu gwaredu'n gywir. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, gallai beri mwy o drafferth na gorfod teithio ychydig filltiroedd ychwanegol i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned agosaf!
Mae gan y Cyngor wasanaeth diderfyn wythnosol, sy'n casglu sbwriel sych, gwastraff bwyd a chewynnau i'w hailgylchu o ymyl y ffordd. Yn ogystal â hynny, mae gan y Cyngor nifer o ganolfannau ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, felly does dim esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig tipio'r eitemau hynny y mae modd eu casglu o ymyl y ffordd neu eu hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
“Fyddwn ni ddim yn goddef tipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.
"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion.
"Mae cael gwared ar dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y byddai modd eu gwario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.
“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu yn y canolfannau ailgylchu yn y gymuned neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd - heb unrhyw gost ychwanegol."
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, ailgylchu a chanolfannau ailgylchu yn y gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu fwrw golwg ar www.rctcbc.gov.uk.
Wedi ei bostio ar 30/11/22