Skip to main content

CADWCH DRAW O GAEAU CHWARAEON NEU DDIRWY A DDAW!

Mae dau berchennog cŵn anghyfrifol wedi derbyn dirwyon a chostau sy'n gyfanswm o dros £500 gan y llys am ganiatáu i’w cŵn grwydro ar fannau cyfyngedig a/neu gaeau chwaraeon.

Cafodd y ddau berchennog eu dal gan swyddogion gorfodi’r Cyngor yn caniatáu i’w cŵn grwydro’n rhydd yn yr ardaloedd cyfyngedig. Fe wnaeth un perchennog hefyd ganiatáu i’w chi faeddu yn yr ardal a pheidio â chodi'r baw!

Mae hyn yn falltod ffiaidd ar Rondda Cynon Taf ac fe allai hefyd gael effaith ddifrifol ar iechyd y rhai sy'n defnyddio'r ardal.

Cafodd y Gorchymyn Mannau Cyhoeddus ac Amddiffyn (PSPO) ei roi ar waith yn Rhondda Cynon Taf bum mlynedd yn ôl (Hydref 2017), ac un o'r prif faterion yw baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed ar ôl codi baw cŵn oddi ar arwyneb y cae, mae darnau ohono yn glynu at y gwair a'r pridd. Mae hyn yn ffiaidd ac yn beryglus - gallai arwain at oblygiadau iechyd difrifol a allai newid byd unrhyw un sy’n dod mewn cysylltiad â’r baw.

Mae ein neges i berchnogion anghyfrifol yn syml - 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU'. Mae'r negeseuon yma wedi cael eu paentio mewn melyn llachar ar y strydoedd, heolydd, caeau ac mewn mannau poblogaidd i gerdded cŵn.

Caniataodd y fenyw o Abercwmboi i'w chi grwydro'r ardal, lle'r oedd yn rhydd i faeddu a methodd â chodi'r baw. Derbyniodd y fenyw ddirwy o £100, costau o £120 a gordal dioddefwr o £34 – sef cyfanswm o £254.

Fe wnaeth yr ail berchennog, dyn o Donysguboriau, ganiatáu i'r ci a oedd dan ei reolaeth fynd i ardal dan gyfyngiadau ar faes hamdden Tonysguboriau. Derbyniodd y dyn ddirwy o £220, costau o £120 a gordal dioddefwr o £34 – sef cyfanswm o £374.

Mae neges y Cyngor yn glir - os bydd swyddog gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Gallai methu â thalu hyn arwain at ddwyn achos llys yn eich erbyn a dirwy lawer mwy, fel mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma wedi’i ddarganfod. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ein caeau chwaraeon! Ein cyngor ni oedd y cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran cadw cŵn dan reolaeth ac fel y gwelwch chi yn yr achos yma, mae'r gwaith caled yn parhau wrth i'r garfan orfodi ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a'u dwyn i gyfrif BOB TRO.

Mae'r Cyngor yn gofyn i glybiau chwaraeon roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi a chydweithio er diogelwch y chwaraewyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Mae ein caeau chwaraeon a’n hardaloedd dan gyfyngiadau yn achubiaeth i'n cymunedau ac yn cael eu defnyddio gan bobl o bob oed, drwy’r dydd a chyda’r nos. Dydy llawer o berchnogion cŵn ddim yn sylweddoli canlyniadau caniatáu eu cŵn i grwydro yn yr ardaloedd yma, ond mae'n bosibl y bydden nhw'n achosi niwed iechyd parhaol. Rydw i'n siŵr na fyddai llawer o'n perchnogion cŵn yn gallu byw gyda'u hunain pe bai bywyd plentyn yn cael ei newid am byth oherwydd eu ci.  

“Rydyn ni'n gwybod bod y mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ond yn anffodus, dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon. Mae’n ddolur llygad ar ein Bwrdeistref Sirol yn ogystal â'r goblygiadau iechyd difrifol i’r gymuned sy'n deillio o'r broblem ac mae’n rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddileu’r broblem yma. 

“Mae’n rhaid i lawer o glybiau chwaraeon dreulio oriau cyn eu gemau yn glanhau eu caeau er mwyn amddiffyn eu chwaraewyr, oherwydd bod perchnogion cŵn diog ddim yn dilyn y rheolau.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol sy'n llawn o berchnogion cŵn cyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os bydd pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf - yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ciamdro

Wedi ei bostio ar 30/11/2022