Skip to main content

'Llofnodi'r dur' i nodi carreg filltir gwaith adeiladu ar safleoedd ysgolion

Cllr Lewis visits pupils in Beddau and Rhydyfelin

Mae Aelod Cabinet y Cyngor ar faterion Addysg wedi ymweld â staff a disgyblion yn Rhydfelen a Beddau, ac wedi gweld y cynnydd rhagorol sy’n cael ei wneud tuag at adeiladu cyfleusterau newydd i ysgolion mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Cafodd y Cynghorydd Rhys Lewis groeso cynnes gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Gyfun Bryncelynnog yn ystod y ddau ymweliad safle ddydd Mawrth, 15 Tachwedd. Bydd ysgolion yn Rhydfelen a Beddau yn elwa ar gyfleusterau newydd cyn bo hir diolch i fuddsoddiad ar y cyd trwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Dechreuodd y contractwr ar gyfer y ddau brosiect, ISG, ar y gwaith yn ystod gwyliau'r haf.

Mae adeiladu ffrâm ddur ar gyfer pob adeilad ysgol newydd yn garreg filltir bwysig yn y broses adeiladu, a chwblhawyd y cam yma'n ddiweddar yn y ddau ddatblygiad. Estynnodd ISG wahoddiad i ddisgyblion, staff a’r Cynghorydd Lewis i weld y cynnydd, a manteisiwyd ar y cyfle i lofnodi ffrâm ddur i nodi’r garreg filltir. Mae crynodeb o'r prosiectau, a’r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, i’w weld isod:

Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen

Mae ysgol newydd ar gyfer yr 21ain ganrif yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Heol y Celyn i groesawu disgyblion cyfrwng Cymraeg yr ysgol, a’r rhai sy’n mynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ar hyn o bryd, yn 2024. Bydd yn cynnwys ardal gemau aml-ddefnydd newydd, cae chwarae, maes parcio i staff a man gollwng ar gyfer bysiau.

Dechreuodd y gwaith ym mis Gorffennaf 2022 ac mae’n mynd rhagddo yn ôl yr amserlen ar hyn o bryd. Ynghyd â gosod y ffrâm ddur ar gyfer y prif adeilad, mae'r contractwr wedi cwblhau'r gwaith o arllwys concrit i'r llawr cyntaf a’r grisiau concrit wedi’u castio ymlaen llaw. Mae'r ardal gemau aml-ddefnydd hefyd yn cael ei pharatoi. Mae'r gwaith nesaf ar y safle yn cynnwys gosod to, paentio'r gwaith dur, arllwys concrit ar y llawr gwaelod a gosod tanc gwanhau ar gyfer y system ddraenio.

Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Beddau

Bydd bloc chweched dosbarth newydd sbon yn cael ei adeiladu, ynghyd â chyfleusterau chwaraeon newydd ac ystafelloedd dosbarth gwell ar gyfer yr 21ain ganrif ar gyfer disgyblion Cyfnodau Allweddol 3, 4 a 5. Bydd dau floc addysgu hŷn yn cael eu dymchwel a bydd maes parcio a llwybrau mynediad newydd yn cael eu hadeiladu. Mae'r prosiect cyfan ar y trywydd iawn i’w gwblhau yn ystod 2023.

Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Awst 2022 ac mae’n mynd rhagddo yn ôl yr amserlen ar hyn o bryd er mwyn croesawu disgyblion y chweched dosbarth, gan gynnwys y rheiny o Ysgolion Uwchradd Pontypridd a’r Ddraenen-wen, ym mis Medi 2023. Mae’r ffrâm ddur wedi’i hadeiladu ar gyfer adeilad y chweched dosbarth a’r gampfa ar wahân, tra bod hen dŷ’r gofalwr wedi’i ddymchwel. Bydd y gwaith o adeiladu'r grisiau a'r deciau metel ar y ddau adeilad yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, a bydd y gwaith o arllwys concrit i bob un o'r lloriau yn dilyn.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Mae’r buddsoddiadau mewn ysgolion yn Rhydfelen a Beddau yn rhan o’r cyllid ehangach gwerth £72 miliwn y cytunwyd arno gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru, i ddarparu cyfleusterau addysg newydd sbon ar draws ardal ehangach Pontypridd. Bydd pedwar prif brosiect wedi'u cwblhau erbyn 2024, gan gynnwys ysgolion 3-16 newydd yng Nghilfynydd a'r Ddraenen-wen.

“Roeddwn i'n falch iawn o gwrdd â staff a disgyblion Ysgol Gynradd Heol y Celyn, Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton, ac Ysgol Gyfun Bryncelynnog ddydd Mawrth, a gweld sut mae'r gwaith adeiladu yn mynd rhagddo. Roedd y disgyblion yn llawn cyffro i weld sut mae’r cyfleusterau newydd yn datblygu. Er mwyn nodi carreg filltir allweddol yn ystod y cyfnod adeiladu, rhoddodd y contractwr gyfle i’r grŵp lofnodi ffrâm ddur un o’r adeiladau newydd.

“Mae’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi parhau â momentwm cadarnhaol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, i ddisodli cyfleusterau ysgol hŷn ag amgylcheddau dysgu newydd rydyn ni'n gallu bod yn falch ohonyn nhw. Mae’n wych gweld sut mae disgyblion yn mwynhau’r prosiectau diweddaraf yn Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun bob dydd.

“Mae pob un o’n prosiectau newydd yn anelu at gael eu gweithredu'n garbon sero-net yn rhan o’n nodau ac amcanion i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Bydd yr ysgol newydd yn Rhydfelen hefyd yn gwella ac ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhontypridd, sy’n cydymffurfio â’r deilliannau sydd wedi'u nodi yn ein Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

“Bydd y cynnydd cyffrous sy’n cael ei wneud ar y safleoedd yn Rhydfelen a Beddau yn parhau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â'r prosiectau i'w gweld yn symud ymlaen tuag at gael eu cwblhau. Hoffwn ddiolch i ddisgyblion, staff a’n contractwyr am eu croeso cynnes iawn ddydd Mawrth.”

Wedi ei bostio ar 18/11/22