Skip to main content

Gwelliannau i'r llwybrau troed ger safle seindorf Parc Coffa Ynysangharad

Ynysangharad Park bandstand - Copy

Mae gwaith i ailosod y llwybrau troed sy'n arwain at y safle seindorf ym Mharc Coffa Ynysangharad yn dechrau'r wythnos yma, a hynny’n rhan o brosiect ehangach Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn y parc.

Mae gwaith y prosiect, sy'n anelu at adnewyddu nodweddion treftadaeth y parc Rhestredig Gradd II yn nhref Pontypridd, wedi bod yn mynd rhagddo trwy gydol 2022. Mae'r prosiect yma'n bosibl diolch i fuddsoddiad gwerth £1.9 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyfraniadau gan y Cyngor a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae'r prosiect yn cynnwys adnewyddu'r safle seindorf a'r ardd isel, canolfan hyfforddiant/gweithgareddau newydd, paneli dehongli ac achlysuron i hyrwyddo treftadaeth leol. Mae GKR Maintenance & Building Co, contractwr y Cyngor, wedi bod yn gweithio yn y parc drwy gydol y flwyddyn. Mae crynodeb o'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn i'w weld ar waelod y diweddariad yma.

Yn ystod yr wythnos sy'n dechrau dydd Llun 24 Hydref, bydd y contractwr yn dechrau codi ac ailosod y llwybrau cerrig sy'n arwain at y safle seindorf. Dylai ymwelwyr y parc fod yn effro i'r ffaith y bydd ffens yn cael ei chodi o amgylch rhannau o'r llwybrau yma, un ar y tro, wrth i'r prosiect fynd rhagddo, i sicrhau cynnydd diogel.

Nodwch – dechreuwyd gwaith adeiladu ar y safle seindorf yn ystod yr haf. Mae'r safle seindorf yn parhau i fod ar gau wrth i'r gwaith adnewyddu barhau.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae Parc Coffa Ynysangharad yn atyniad arbennig yng nghanol tref Pontypridd ac mae trigolion lleol ac ymwelwyr o bell wrth eu boddau yno. Nod y buddsoddiad parhaus hwn o £1.9 miliwn yw tynnu sylw pellach at nodweddion treftadaeth gwych y parc a’i statws rhestredig, wrth ddarparu cyfleoedd i’r cyhoedd ddysgu ac ymgysylltu.

“Mae Cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn dilyn buddsoddiad ar wahân o £1.199 miliwn gan Barc Rhanbarthol y Cymoedd y llynedd – a gafodd ei ddefnyddio i adnewyddu llwybrau troed, gwella’r goleuadau LED a chyflwyno cyfleuster Changing Places yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Bydd buddsoddiad gwerth dros £3 miliwn wedi cael ei wario i wella'r parc o ganlyniad i ddau fuddsoddiad ar wahân – sy'n adlewyrchu ei bwysigrwydd fel gofod agored gwyrdd ac atyniad rhanbarthol.

“Bydd gwaith yn dechrau'r wythnos yma i wella'r llwybrau troed o amgylch y safle seindorf, sydd hefyd yn cael ei adnewyddu. Bydd angen i’r contractwyr godi ffens o amgylch rhannau o'r llwybrau wrth wneud gwelliannau i'r llwybr troed, a hynny i sicrhau diogelwch y cyhoedd a'r gweithlu. Hoffwn i ddiolch i holl ymwelwyr y parc am eu cydweithrediad tra bod y prosiect allweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn mynd rhagddo.”

Mae diweddariad ar yr holl brosiectau sy'n elwa o'r buddsoddiad £1.9 miliwn wedi'i gynnwys isod:

Adnewyddu ardal y safle seindorf a'r ardd isel

  • Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 4 Gorffennaf, 2022, ac mae'r gwaith yn parhau. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd achlysur cymunedol gyda cherddoriaeth yn cael ei drefnu i ddathlu.
  • Bydd y prosiect i adnewyddu'r ardd isel yn dechrau yn fuan – bydd y Cyngor yn rhannu gwybodaeth â thrigolion unwaith y bydd dyddiad cychwyn wedi'i gadarnhau.

Canolfan hyfforddiant/gweithgareddau newydd

  • Bydd gwaith adeiladu Calon Taf yn cael ei gwblhau yn ystod misoedd cyntaf 2023.

Paneli dehongli

  • Mae'r paneli dehongli newydd yn y camau olaf o ran dylunio ar hyn o bryd.

Achlysuron a gweithgareddau sy'n hyrwyddo treftadaeth

  • Mae Calon Taf wedi bod yn lleoliad perfformiadau a diwrnodau hwyl i'r teulu yn y safle seindorf, gweithgareddau ioga a theithiau tywys hanesyddol. Mae gweithdai crefft hefyd wedi cael eu cynnal yn y Pafiliwn Bowls a'r ardal parth gwyllt.

Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau Calon Taf ym Mharc Coffa Ynysangharad yn y dyfodol, e-bostiwch CalonTaf@rctcbc.gov.uk.

Wedi ei bostio ar 26/10/22