Mae angen cau'r A4059 ddydd Sul rhwng Tresalem a Threcynon, er mwyn gosod craen ar y briffordd. Mae hyn yn rhan o waith i ategwaith y Bont Dramiau Haearn. Bydd y ffordd ar gau am y tro cyntaf y penwythnos yma (18 Medi).
Ym mis Awst, rhoddodd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am gynllun i atgyweirio'r Heneb Gofrestredig, a oedd mewn cyflwr gwael. Cafodd yr Heneb ddifrod pellach yn ystod Storm Dennis. Rhoddodd 'Cadw' ganiatâd i adfer y bont oddi ar y safle, ond gwnaeth contractwr arbenigol ganfod bod cyflwr y bont yn llawer gwaeth na'r disgwyl. Mae cynllun atgyweirio newydd yn cael ei gynllunio.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd y contractwr yn cymryd y cyfle i gynnal gwaith sefydlogi i'r bont ger Tresalem. Efallai bydd trigolion yn sylwi bod y gwaith yn ailddechrau o ddydd Mercher, 14 Medi.
Er mwyn galluogi rhai agweddau o'r gwaith, bydd angen cau rhan o'r ffordd gyfagos â'r A4059. Mae'r rhain wedi’u trefnu ar ddyddiau Sul olynol (9am-5pm) er mwyn aflonyddu cyn lleied â phosibl. Bydd y ffordd ar gau am y tro cyntaf ddydd Sul, 18 Medi, er mwyn dechrau'r gwaith o amddiffyn rhag sgwrio ac i osod blociau cerrig newydd.
Bydd yr A4059 ffordd osgoi Aberdâr rhwng cylchfan Stryd Harriet (Trecynon) a chylchfan Stryd Wellington (Tresalem) ar gau i'r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith. Bydd llwybr arall ar gael ar hyd ffordd osgoi'r A4059, Cylchfan Heol y Depo, yr A4233, Cylchfan Y Gadlys, Heol Gadlys, y B4275, Ffordd y Fynwent, Ffordd Hirwaun, Cylchfan Pen-y-waun a'r A4059.
Fydd dim mynediad yn cael ei gynnal ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys, ond bydd mynediad i gerddwyr yn parhau (gan gynnwys y llwybr Taith Cynon cyfagos) trwy gydol y gwaith.
Mae disgwyl y bydd y ffordd ar gau ar ddyddiau Sul yn ystod mis Medi a Hydref. Bydd arwyddion rhybudd i'w gweld saith diwrnod cyn i'r ffordd gau yn y dyfodol, yn ogystal â’r newyddion diweddaraf ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, er mwyn hysbysu trigolion a modurwyr.
Wedi ei bostio ar 15/09/22