Mae adroddiad sy'n cynnwys y dulliau modelu ariannol diweddaraf wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet ac wedi amlygu y bydd heriau sylweddol wrth bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2023/24 - yn enwedig os na fydd Llywodraeth y DU yn darparu cyllid ychwanegol.
Mae adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ar ddydd Llun, 26 Medi wedi rhannu'r newyddion diweddaraf ynglŷn â Chynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor â'r Aelodau. Caiff y cynllun yma'i gyflwyno cyn y gwaith sy'n cael ei gynnal i bennu cyllideb ar gyfer 2023/24. Bydd swm y cyllid y mae Llywodraeth y DU yn ei ddarparu i Lywodraeth Cymru yn effeithio'n fawr ar gyllideb y Cyngor. Mae disgwyl y bydd y swm yma'n cael ei gyhoeddi yn hwyrach yn yr Hydref, 2022, yn rhan o'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro, a bydd hyn yn pennu lefelau cyllid ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru.
Nododd yr adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun y bydd gwasanaethau ym mhob rhan o fyd llywodraeth leol yn wynebu heriau sylweddol yn sgil effaith economaidd barhaus pandemig Covid-19, Brexit, y gwrthdaro yn Wcráin a’r argyfwng ynghylch Costau Byw. Mae'r sefyllfa yma'n arwain at gynnydd o ran galw a chostau ar gyfer nifer o wasanaethau'r Cyngor, yn enwedig ym meysydd Gofal Cymdeithasol ac mae'r Cyngor yn cydnabod bod angen helpu trigolion a busnesau cymaint â phosibl - wrth i gymunedau adfer yn dilyn y pandemig yn ogystal â mynd i'r afael ag effaith y cynnydd mewn costau ynni a chostau bywyd bob dydd.
Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor wedi defnyddio nifer o ragdybiaethau modelu ariannol a fydd yn destun adolygiad parhaus a diwygio yn rhan o'r gwaith paratoi manwl er mwyn pennu cyllideb 2023/24. Mae’r rhagdybiaethau’n cynnwys lefelau cyllid dangosol Cymru gyfan ar gyfer awdurdodau lleol, mae'r rhain eisoes wedi cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru. Ar sail y lefelau cyllid dangosol yma, £36.475miliwn fyddai'r bwlch yn y gyllideb y flwyddyn nesaf yn ôl gwaith modelu'r Cyngor. Bydd hyn yn cynyddu i £77.797miliwn fesul blwyddyn erbyn 2025/26.
Nododd yr adroddiad fod angen i Lywodraeth y DU roi sicrwydd ar unwaith i fyd Llywodraeth Leol y bydd cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i fynd i’r afael â’r lefelau adnoddau dangosol yn y dyfodol a gyhoeddwyd yn rhan o'i Hadolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn 2021. Dydy'r adolygiad yma ddim yn ystyried y pwysau chwyddiannol a'r pwysau y mae gwasanaethau yn eu hwynebu ym mhob agwedd ar lywodraeth leol. Yn sgil absenoldeb y sicrwydd yma hyd yn hyn, mae'n rhaid i'r Cyngor fynd ati i adolygu pob opsiwn sydd ar gael er mwyn lleihau gwariant a chynhyrchu incwm er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni'i ddyletswydd statudol i ddarparu cyllideb gytbwys. Mae'n anochel y bydd hyn yn cynnwys ystyried toriadau ar gyfer gwasanaethau a swyddi.
Mae'r rhaglen waith sy'n ceisio nodi opsiynau i wneud arbedion cyllidebol er mwyn lleihau'r bwlch yn y gyllideb yn trafod cyfleoedd pellach ar gyfer arbedion effeithlonrwydd, cyflawni rhaglen Trawsnewid y Gwasanaethau Cymdeithasol, adolygu holl ofynion y gyllideb sylfaenol a gofynion gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau o ran newid yn yr hinsawdd; a pharhau i ganolbwyntio ar egwyddorion Digidoleiddio, Masnacheiddiwch, Ymyrraeth Gynnar ac Atal, Annibyniaeth, a bod yn Sefydliad Effeithiol ac Effeithlon.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun yn agored iawn am yr heriau ariannol sylweddol y byddwn ni'n eu hwynebu wrth bennu Cyllideb y flwyddyn nesaf. Cafodd y gyllideb bresennol ei chyflawni gan fuddsoddi'n sylweddol mewn gwasanaethau hanfodol - ond mae'n glir iawn ein bod ni bellach mewn sefyllfa wahanol iawn a hynny dim ond flwyddyn yn ddiweddarach, gan gynnwys pwysau ariannol yr argyfwng Costau Byw sy'n effeithio ar bob aelwyd, busnes a sefydliad ledled y wlad.
“Bydd Setliad Llywodraeth Cymru yn pennu i ba raddau y bydd ein gwasanaethau yn cael eu heffeithio. Mae pob 1% o newid yn y cyllid yn cynrychioli tua £4.4miliwn i'r Cyngor ac rydw i'n gobeithio y bydd Cyllideb Ganolog Llywodraeth y DU yn yr Hydref yn adlewyrchu'r cynnydd mewn Costau Byw a'r pwysau cysylltiedig. Gan nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu unrhyw gymorth ariannol i awdurdodau lleol, y gwirionedd yw bod angen i ni edrych ar gwtogi ar wasanaethau gwerthfawr y Cyngor mewn modd sy'n debyg i'r cyni rydyn ni wedi'i wynebu yn y degawd diwethaf - dyma'r peth olaf mae'r bobl eisiau ei weld yn ystod yr argyfwng economaidd presennol.
“Mae gan y Cyngor brofiad sylweddol o reoli'i gyllid mewn modd effeithiol ac effeithlon. Rydyn ni wedi llwyddo i ddiogelu gwasanaethau allweddol gan sicrhau bod adnoddau ‘untro’ gwerth £144miliwn ar gael ar gyfer blaenoriaethau buddsoddi ers 2015. Rydyn ni hefyd wedi cyflawni arbedion effeithlonrwydd gwerth £100miliwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan gynnwys arbedion gwerth £4.9miliwn yn y Gyllideb bresennol. Bydd y Cyngor yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi ein cymunedau drwy'r cyfnod ariannol anodd sydd o'n blaenau.
“Cadarnhaodd yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun fod swyddogion y Cyngor yn cynnal adolygiad manwl o bob un o'r gwasanaethau i archwilio sut y gallai leihau’r bwlch rhagamcanol yn y gyllideb os na fydd Llywodraeth y DU yn darparu rhagor o gymorth. Bydd rhagor o sicrwydd ynglŷn â'r arbedion sydd eu hangen ar gyfer 2023/24 ar gael ar ôl i Setliad Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi nes ymlaen yn y flwyddyn. Yn y cyfamser, bydd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ac yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, a bydd diweddariadau pellach yn cael eu rhannu yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro.”
Wedi ei bostio ar 27/09/2022