Skip to main content

Cam nesaf gwaith adnewyddu pont droed Stryd y Nant

Brook Street footbridge at Ystrad Rhondda Railway Station

Bydd y gwaith i dynnu'r brif bont droed rhwng Clos Nant Gwyddon a Stryd y Nant oddi yno yn dechrau o 8 Medi. Bydd trefniadau dros dro yn eu lle ar gyfer cerddwyr sy'n defnyddio gorsaf reilffordd Ystrad Rhondda.

Mae'r gwaith yn rhan o gynllun sylweddol i adnewyddu pont droed Stryd y Nant, sydd bellach wedi cyrraedd diwedd ei hoes. Mae'r Cyngor a Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r cynllun, ac mae cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn bwrw ymlaen â gwaith ar y safle. Mae'r gwaith yn gymhleth oherwydd bod yr orsaf reilffordd yn gweithredu yn ôl yr arfer bob dydd ac mae'r afon gerllaw.

Mae cynnydd dros yr haf wedi golygu bod nifer o’r sylfeini pont droed newydd wedi'u hadeiladu, yn ogystal â gwaith draenio'r oedd modd ei gynnal pan roedd y bont yn dal ar agor. Ym mis Gorffennaf 2022, rhannodd y Cyngor y newyddion diweddaraf am y cynllun, gan amlinellu'r camau nesaf. Cafodd maes parcio’r orsaf ei gau ar 1 Awst a chafodd ramp y bont i’r platfform tua’r gogledd ei dynnu oddi yno ar 8 Awst. Roedd hyn er mwyn paratoi at dynnu'r brif bont droed oddi yno ym mis Medi.

Mae cam nesaf y gwaith bellach wedi’i gadarnhau, sy'n golygu bod rhaid cau'r brif bont o ddydd Iau 8 Medi er mwyn dechrau ar y broses o’i thynnu oddi yno.

Y cam gwaith cyntaf yw tynnu'r hen strwythur sy'n cynnal y bont oddi yno. Oherwydd hyn, rhaid cau'r bont i gerddwyr. Bydd modd i gerddwyr gael mynediad i’r platfform tua’r gogledd gan ddefnyddio pont droed risiog yr orsaf o Stryd y Nant, neu o’r llwybr drwy’r ganolfan hamdden a’r caeau pêl-droed.

Pan fydd trenau'n mynd bydd y contractwr yn darparu bws gwennol am ddim i unrhyw un sydd angen teithio rhwng Ystad Ddiwydiannol y Gelli, gorsaf reilffordd Ton Pentre a gorsaf reilffordd Ystrad Rhondda i’r ddau gyfeiriad. Mae’r gwasanaeth yma ar gael i bawb – p’un a ydyn nhw'n bwriadu defnyddio’r trên ai peidio. Bydd manylion, gan gynnwys amserlenni bysiau gwennol, ar gael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Bydd arwyddion yn cynghori cerddwyr ar lwybr amgen, ond mae'n bosibl y bydd y llwybr yn anaddas i rai trigolion – er enghraifft, y rheiny sy'n defnyddio cadair olwyn. Dyma gynghori trigolion sydd ddim yn gallu defnyddio pont droed risiog yr orsaf i aros ar y trên i Don Pentre, a defnyddio’r bws gwennol am ddim i ddychwelyd i Ystrad Rhondda.

Bydd y contractwr yn parhau i adeiladu sylfeini ramp y bont newydd yn rhan o'r gwaith. Hefyd, bydd maes parcio’r orsaf reilffordd yn parhau i fod ar gau er mwyn gosod craen yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau dros dro yma, ffoniwch linell gymorth i gwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru ar 0333 3211 202neu ar WhatsApp: 07790 952507. Fel arall, mae modd ffonio swyddog cyswllt cyhoeddus cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd ar gyfer cynllun Stryd y Nant ar 0330 0412 183, neu anfon e-bost: georgie.davies@alungriffiths.co.uk.

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael ar wefan y contractwr (Saesneg yn unig).

Mae'r cynllun i adnewyddu pont droed Stryd y Nant yng ngorsaf reilffordd Ystrad Rhondda yn un o nifer o gynlluniau sy'n rhan o Raglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor ar gyfer 2022/23, lle mae buddsoddiad gwerth £5.65 miliwn ar gyfer strwythurau. Mae gwaith atgyweirio Pont Imperial yn y Porth, disodli Cantilifer Nant Cwm-parc a chryfhau Pont y Stiwt yn Nhreorci, a disodli pont droed gorsaf reilffordd Llanharan i gyd yn gynlluniau â blaenoriaeth sydd ar y gweill.

Wedi ei bostio ar 01/09/22