Er mwyn lleihau'r perygl o lifogydd yn effeithio ar eiddo lleol yn ystod glaw trwm, mae'r Cyngor wedi dechrau gwaith gwella pwysig i systemau draenio priffyrdd yn Stryd Abertonllwyd a Stryd Dunraven yn Nhreherbert.
Dechreuodd y cynllun Ffyrdd Cydnerth ddydd Llun, 12 Medi, a bydd yn cael ei gynnal dros gyfnod o chwe wythnos tan ddiwedd mis Hydref 2022, yn amodol ar amodau tywydd da. Mae'r cynllun yn cael ei gwblhau gan garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor. Mae wedi’i rannu’n ddau brif leoliad, gyda gwaith yn mynd rhagddo ar yr A4061 ar Stryd Abertonllwyd a’r B4522, sef Stryd Dunraven.
Ar Stryd Abertonllwyd, bydd tri gyli draenio ffyrdd yn cael eu huwchraddio, a bydd gyli ychwanegol yn cael ei osod. Bydd angen defnyddio goleuadau traffig dros dro ar yr A4061 fel bod modd i rai elfennau o'r gwaith fynd rhagddyn nhw'n ddiogel. Mae’r cynllun yma'n dilyn gwaith blaenorol yn 2021/22 i archwilio a glanhau’r cwrs dŵr a’r cwlfer, sydd wedi’u lleoli o dan y ffordd yn y lleoliad yma.
Bydd peth o'r gwaith ar Stryd Dunraven yn effeithio ar lôn gefn gyfagos. Bydd pibellau a siambrau draenio newydd yn cael eu gosod, tra bydd gylïau draenio presennol yn cael eu huwchraddio a phibellau presennol yn cael eu leinio. Bydd angen cau'r lôn gefn i gerbydau am wythnos, a gosod goleuadau traffig ar Stryd Dunraven er mwyn i rai elfennau o’r gwaith fynd rhagddyn nhw'n ddiogel.
Bydd y Cyngor yn gwneud pob ymdrech i leihau'r aflonyddwch ar drigolion, a bydd modd i drigolion gysylltu â fforman y safle gydag unrhyw ymholiadau. Cafodd llythyron eu hanfon at drigolion lleol cyn i'r gwaith ddechrau er mwyn rhoi rhybudd.
Bydd y cynllun yn cael ei ariannu gyda chyfraniadau gan Raglen Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 y Cyngor. Mae cyllid Ffyrdd Cydnerth ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cyflawni gwelliannau draenio ar ardaloedd o’u rhwydwaith ffyrdd sy wedi dioddef o lifogydd.
Cafodd cyllid gwerth £4.9 miliwn ei sicrhau gan y Cyngor i wella 16 lleoliad yn 2020/21, gwerth £2.75 miliwn, i gynnal gwaith mewn 19 lleoliad yn 2021/22, a £400,000 ychwanegol ar gyfer 10 cynllun pellach yn 2022/23. Ymhlith y gwelliannau pwysig sy'n cael eu cyflawni eleni mae uwchraddio cwlferi ar yr A4061, Ffordd y Rhigos a gafodd ei gwblhau ym mis Awst, ac uwchraddio draeniau ar yr A4059 yn y Drenewydd, Aberpennar, lle mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
Wedi ei bostio ar 21/09/22