Skip to main content

Prosiect gofal plant 'The Hollies' yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn yn agor yn swyddogol

Medium

Aeth Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Julie Morgan AS i agor prosiect gofal plant 'The Hollies' yn swyddogol heddiw yn Nhonteg. Mae'r prosiect wedi symud i gyfleuster pwrpasol yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dyma un o naw prosiect gofal plant ledled Rhondda Cynon Taf sydd wedi elwa o geisiadau llwyddiannus gan y Cyngor am arian cyfalaf.

Ers agor ei drysau yn 2015, mae ystafell 'The Hollies' wedi’i lleoli ym mhrif adeilad yr ysgol.  Ond oherwydd y nifer cynyddol o blant sy’n mynd i'r ysgol, doedd yr ysgol ddim yn gallu rhoi ystafell ddosbarth i 'The Hollies', ac roedd dyfodol y prosiect yn ansicr.

Y datrysiad i'r sefyllfa oedd symud y prosiect i leoliad newydd, diolch i gyllid trwy Gynllun Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid wedi galluogi'r prosiect i gynnig rhagor o sesiynau gofal plant. Erbyn hyn mae ‘The Hollies’ yn cynnig dwy sesiwn y dydd, gyda gofal yn ystod y gwyliau hefyd. Mae 'The Hollies' hefyd yn gyfrifol dros y clwb ar ôl ysgol sy'n gweithredu o neuadd yr ysgol. Felly mae'r adeilad newydd nid yn unig wedi caniatáu iddo gynyddu ei ddarpariaeth o'r Cynnig Gofal Plant, ond hefyd mae e wedi caniatáu iddo wella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i blant y clwb ar ôl ysgol. Mae'r prosiect bellach wedi cofrestru i ofalu am 50 o blant, sydd wedi cynnyddu o 32 o lefydd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis – Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg

Braf oedd cael gweld yr adeilad newydd am y tro cyntaf heddiw. Mae'r adeilad ar safle'r ysgol, ac mae ganddo fynediad ei hun ac ardaloedd chwarae yn yr awyr agored. Mae’n amlwg bod y plant a’r staff wrth eu boddau â’r adeilad newydd.

Hoffwn ddiolch i staff y Cyngor sydd wedi gweithio’n ddi-baid er mwyn sicrhau cyllid ar gyfer y prosiectau yma. Hoffwn ddiolch hefyd i’r staff a gwirfoddolwyr mewn lleoliadau gofal plant megis ‘The Hollies’ sy’n sicrhau’r dechreuad gorau i fywyd ar gyfer plant ifainc wrth i nifer o rieni wynebu trafferthion wrth i gostau byw gynyddu.

Mae Rhondda Cynon Taf wedi llwyddo mewn nifer o geisiadau am arian cyfalaf. Mae’r arian wedi’i ddefnyddio i ariannu cynlluniau gofal plant ledled y Fwrdeistref Sirol, sydd bellach wedi'u cwblhau, neu bron wedi’u cwblhau.

Dyma restr o brosiectau eraill sydd wedi gweld budd y cyllid gan Lywodraeth Cymru: 

  • Gofal Flourish Dolau, yn Ysgol Gynradd Dolau
  • First Steps,  ar safle Ysgol Llanhari
  • Dragon Tots, ar safle Ysgol Gynradd Treorci
  • Cylch Meithrin Abercynon, yn Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
  • Cylch Meithrin Evan James, yn Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James
  • Cylch Meithrin Nant Dyrys, drws nesaf i Ysgol Gynradd Gymraeg Ynys-wen
  • Little Inspirations Tonyrefail, ar safle Ysgol Gymuned Tonyrefail
  • Cylch Meithrin Cwmlai, yn Ysgol Gynradd Cwmlai (bydd yn agor ym mis Medi 2022)
  • Cylch Meithrin Cwmdâr, yn Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr (bydd yn agor ym mis Medi 2022)

 

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Swyddfa'r Wasg ar 01443 424007 neu anfonwch neges e-bost i Thomas.j.godwin@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 23/09/22