Skip to main content

Uwchraddiad sylweddol i orsaf bwmpio Glenbói bellach ar waith

Glenboi pumping station test - Copy

Mae'r orsaf bwmpio dŵr arwyneb gwerth £1.4 miliwn yng Nglenbói bellach yn gwbl weithredol, gan helpu i amddiffyn y gymuned wedi glaw trwm. Cafodd y system ei rhoi ar waith yn llwyddiannus mewn prawf diweddar wrth i'r orsaf ymdopi ag amodau oedd yn efelychu storm fawr.

Mae gwaith drwy gydol 2023 wedi canolbwyntio ar uwchraddio’r orsaf bwmpio bresennol yng Nglenbói yn sylweddol, gyda’r bwriad o ddarparu modd o amddiffyn yr ardal yn erbyn llifogydd dros yr hirdymor gan roi tawelwch meddwl i'r gymuned. Dechreuodd gwaith paratoi'r safle ym mis Ionawr a Chwefror, gyda'r prif gynllun yn dilyn ym mis Mawrth. Llwyddon ni i gwblhau’r prosiect yn unol â’r amserlen wreiddiol, gyda’r system newydd ar waith o fis Medi 2023. 

Mae'r cynllun wedi targedu man isel adnabyddus ar y ffordd yng Nglenbói sydd wedi wynebu llifogydd sawl gwaith yn y gorffennol. Mae'r buddsoddiad wedi cael ei ddylunio i gynyddu capasiti'r system er mwyn ymdopi â glaw trwm yn ystod stormydd - a lleihau llif dŵr i gwlfer ymhellach i lawr yr afon.

Ddydd Mercher, 13 Medi, cafodd yr orsaf bwmpio newydd ei phrofi'n rhan o baratoadau'r Cyngor ar gyfer misoedd y gaeaf sydd i ddod. Cafodd mwy na 50,000 litr o ddŵr ei ychwanegu'n bwrpasol i'r system ddraenio leol er mwyn efelychu storm fawr yn bwrw'r ardal. Cliriodd yr orsaf bwmpio newydd y dŵr mewn ychydig funudau, gan olygu bod y prawf wedi bod yn un llwyddiannus iawn.

Er bod yr orsaf bwmpio ar waith ar gyfer y gaeaf, bydd contractwr y Cyngor, Envolve Infrastructure Ltd, yn parhau i weithio ar y safle dros yr wythnosau nesaf er mwyn cwblhau tasgau megis tirlunio.

Mae'r cynllun wedi elwa o gyfraniad o 85% (dros £1.2 miliwn) gan Raglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Mae'r cyllid sy'n weddill yn dod gan Raglen Gyfalaf y Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Cafodd yr uwchraddiad i orsaf bwmpio Glenbói ei brofi'n ddiweddar, gan efelychu cyfaint y dŵr a fyddai'n gallu wynebu'r system ddraenio leol yn ystod storm. Cliriodd yr orsaf bwmpio'r dŵr yn llwyddiannus, sy'n arwydd cadarnhaol cyn y gaeaf sydd i ddod.

"Dros dair blynedd a hanner ers Storm Dennis, mae'r Cyngor yn parhau i flaenoriaethu buddsoddi mewn mesurau lliniaru llifogydd er mwyn gwella'r amddiffynfa rhag llifogydd a rhoi tawelwch meddwl i gymunedau. Mae ein rhaglen liniaru llifogydd parhaus yn cynnwys mwy na 100 o gynlluniau, gyda dros hanner ohonyn nhw wedi'u cwblhau. Mae Swyddogion hefyd wedi cwblhau'r 19 Adroddiad Archwilio Llifogydd Adran 19 i werthuso’r hyn a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis, a sut bydd modd lliniaru llifogydd yn y dyfodol.

"Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i dderbyn cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru yn 2023/24, ac wedi sicrhau dros £4.8 miliwn ar draws y rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith Graddfa Fach. Ynghyd â hyn, rydyn ni’n dal i fwrw ymlaen â rhaglen gwerth £20 miliwn i atgyweirio difrod Storm Dennis - gan gynnwys y Bont Wen ym Mhontypridd. Pont Droed Tyn-y-bryn yn Nhonyrefail, Pont y Bibell Gludo yn Abercynon a Phont Droed Castle Inn yn Nhrefforest.

"Mae uwchraddiad gorsaf bwmpio Glenbói yn gynllun sylweddol gwerth £1.4 miliwn sydd wedi cael ei dargedu i drwsio problem llifogydd hir sefydlog yn y lleoliad yma - oedd hefyd yn cyfrannu ar broblemau mewn cwlfer ymhellach i lawr yr afon. Mae'r safle mawr yn drawiadol iawn, ac yn unol â'r hynny a gafodd ei arsylwi yn ystod prawf diweddar, mae modd iddo ymdopi â chyfaint mawr o ddŵr mewn cyfnod byr o amser er mwyn amddiffyn y gymuned leol.

"Er bydd y contractwyr yn parhau i fod ar y safle er mwyn cwblhau camau olaf y gwaith dros yr wythnosau nesaf, dylai'r gymuned fod yn dawel ei meddwl am fod yr orsaf bwmpio bellach ar waith. Hoffwn i ddiolch i drigolion lleol Glenbói am eu hamynedd a'u cydweithrediad, yn enwedig yn ystod cyfnod y prif waith dros fisoedd yr haf."

Wedi ei bostio ar 18/09/23