Skip to main content

Cydweithio ar Brosiect Treftadaeth Rhyngwladol Cyffrous

Spain Excavation Project

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar brosiect treftadaeth rhyngwladol sy'n nodi'r cysylltiadau hanesyddol sydd newydd gael eu darganfod rhwng ardal Rhondda Cynon Taf a Rhyfel Cartref Sbaen.

Ar 16 Medi, 2025, teithiodd swyddog treftadaeth o Gyngor Rhondda Cynon Taf – gyda chefndir proffesiynol mewn archaeoleg – i Sbaen er mwyn cymryd rhan mewn menter ymchwil gydweithredol gyda Porta de la Historia Co-operative, sef cymdeithas hanesyddol wedi'i lleoli yn Sbaen. Arweiniodd hyn at ddatgelu gwybodaeth ddiddorol am Ryfel Cartref Sbaen yn rhan o brosiect cloddio, gan amlygu cysylltiadau uniongyrchol â Chymru ac â Rhondda Cynon Taf yn benodol.

Yn ogystal â bod yn gyfle i gydweithio, roedd yr ymweliad yn arbennig o arwyddocaol am ei fod yn gyfle i olrhain camau olaf Harry Dobson, glöwr a aned yn Nhonypandy ac a fu farw yn ymladd yn erbyn ffasgiaeth yn Sbaen ym 1938. Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau â'r safle lle cafodd Dobson ei anafu, yr ysbyty yn La Bisbal de Falset (a elwir heddiw yn La Bisbal de Montsant) lle cafodd e ei drin, a'i fedd. Yn yr un modd â gosod torch, roedd hyn yn gyfle i ni gofio ac anrhydeddu aberth Dobson yn ogystal â'r cysylltiadau rhwng Cymru a Sbaen.

Cafodd Harry Dobson ei eni ar 9 Awst 1907, ac roedd yn un o tua 200 o wirfoddolwyr o Gymru a ymunodd â'r Brigadau Rhyngwladol i amddiffyn Gweriniaeth Sbaen ar ôl iddi hi gael ei hethol yn ddemocrataidd. Cyrhaeddodd Sbaen ym mis Mehefin 1937 a chafodd ei anafu ar Fryn 481 ger Gandesa. Bu e farw o'i anafiadau ar 3 Awst, 1938, yn 30 oed. Mae ei enw wedi'i nodi ar Blac Coffa Rhyfel Cartref Sbaen ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, sydd wedi'i ddigideiddio  yn ddiweddar. Mae'r Plac hefyd yn coffáu'r 31 o bobl o Gwm Rhondda a ymladdodd yn y frigâd ryngwladol i amddiffyn democratiaeth. Bu farw saith o'r dynion hynny, gan gynnwys Harry, wrth ymladd ffasgiaeth yn Sbaen,

Roedd dyn lleol arall, Huw Alun Menai Williams o Gilfach-goch, hefyd wedi gwirfoddoli i nyrsio a rhoi cymorth cyntaf i'r milwyr yn Sbaen, ac roedd e yno pan fu farw Dobson – arhosodd y foment honno yn ei gof am weddill ei oes. Goroesodd Williams y rhyfel ac aeth ymlaen i wasanaethu yn y llu awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu e farw yng Nghaerdydd yn 2006, yn 93 oed. Cofnododd Williams ei brofiadau yn ei hunangofiant, From the Rhondda to the Ebro: The Story of a Young Life and its Survival in the First Hald of the 20th Century - gan helpu i roi stori aberth Dobson a chyfraniad ehangach Cymru i’r rhyfel ar gof a chadw.

Mae'r straeon personol yma'n rhan o archif ehangach y Cyngor, sy'n cofnodi cyfraniadau gwirfoddolwyr o Gymru a safodd yn erbyn ffasgiaeth yn ystod un o gyfnodau mwyaf cythryblus yr 20fed ganrif. Rydyn ni'n parhau i dalu teyrnged iddyn nhw hyd heddiw.

Er does dim modd i ni rannu holl fanylion y gwaith cloddio yn Sbaen ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn falch o gyfrannu at y gwaith ymchwil rhyngwladol pwysig yma. Mae'r prosiect yn tynnu sylw at berthnasedd byd-eang ein treftadaeth leol, yn ogystal â bod yn gyfle i arddangos arbenigedd ac ymroddiad ein Gwasanaeth Treftadaeth. 

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Mae’r prosiect yn ein hatgoffa ni bod y frwydr dros ddemocratiaeth a rhyddid wedi croesi ffiniau erioed, a bod ein cymunedau yn Rhondda Cynon Taf wedi chwarae rhan ddewr yn y stori fyd-eang yma.

“Rydw i'n hynod falch o’n Gwasanaeth Treftadaeth ni am anrhydeddu Harry Dobson ac eraill tebyg iddo, ac am helpu i ddatgelu a gwarchod y cysylltiadau hanesyddol hanfodol yma.

“A minnau'n Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, rydw i’n gwybod pa mor bwysig yw cofio’r rhai a wasanaethodd – nid yn unig yn ein rhyfeloedd ein hunain, ond mewn brwydrau eraill dros gyfiawnder a heddwch hefyd. Mae'r gwaith yma ar y cyd yn nodi pwysigrwydd cofio ac undod, ac rydw i'n edrych ymlaen at weld y datblygiadau nesaf.”

Byddwn ni'n rhannu manylion pellach wrth i'r gwaith fynd rhagddo.

I gael rhagor o wybodaeth am ein harddangosfeydd a'n casgliadau treftadaeth, ewch i: Ein Treftadaeth Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 22/12/2025