Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o ddarparu diweddariad ar y prosiect Cofebion Rhyfel, sy'n fenter arwyddocaol gyda'r nod o gadw a rhannu straeon y dynion a menywod dewr o'n Bwrdeistref Sirol a frwydrodd ac a gollodd eu bywydau mewn achosion o wrthdaro neu ryfeloedd.
Fel rhan o raglen fuddsoddi gwerth £200,000 rhwng 2022 a 2027, mae Swyddog Treftadaeth a Henebion Hynafol y Cyngor wedi bod yn arwain rhaglen tair blynedd i wella cofebion rhyfel trwy ddigideiddio pob un. Nod y fenter arloesol yma, sef y gyntaf o'i math ar y raddfa yma yn y DU, yw digideiddio'r cofebion ledled Rhondda Cynon Taf, gan sicrhau bod gwybodaeth fanwl am y dynion a'r menywod dewr a gollodd eu bywydau mewn achosion o wrthdaro neu ryfeloedd ar gael trwy'r codau QR sydd ar bob cofeb. Bydd y codau yma yn cysylltu â gwefan Treftadaeth newydd, lle gall ymwelwyr ddysgu am y straeon personol y tu ôl i'r enwau.
Mae gwaith gwirfoddolwyr o'r gymuned leol ac ysgolion wedi bod yn amhrisiadwy wrth arwain at lwyddiant presennol y prosiect yma, gan helpu gyda'r ymchwil i fywydau miloedd o unigolion sydd wedi'u rhestru ar draws cofebion RhCT, a gweithio'n galed i rannu'r straeon y tu ôl i'r enwau. Maen nhw wedi casglu gwybodaeth berthnasol ar gyfer pob unigolyn, gan gynnwys dyddiadau geni a marwolaeth, enw'r rhyfel, rheng, rhif gwasanaeth, lleoliad bedd rhyfel, cyfeiriad hysbys diwethaf, ac unrhyw fanylion personol ychwanegol fel aelodau'r teulu. Mae nodyn penodol wedi'i wneud lle mae perthnasau benywaidd yr unigolyn wedi llofnodi Deiseb Heddwch y Menywod, ac unrhyw adnoddau ychwanegol fel lluniau, dogfennau, neu erthyglau papur newydd.
Hyd yma, mae dros 200 o wirfoddolwyr ymroddedig wedi cymryd rhan yn y prosiect, ac mae 4 cofeb ac ymchwil i dros 1,200 o enwau wedi'u cwblhau.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rwy'n hynod falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y prosiect yma.
"Mae ymroddiad a gwaith caled ein gwirfoddolwyr wedi bod yn allweddol wrth ddod â straeon ein harwyr a fu farw yn fyw. Mae'r fenter yma nid yn unig yn anrhydeddu unigolion, ond hefyd yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol am yr aberth a wnaed dros ein rhyddid.
Drwy ddigideiddio'r cofebion rhyfel, rydyn ni'n sicrhau bod yr unigolion dewr yma'n cael eu cofio a bod modd i bawb gael gwybod amdanyn nhw. Mae'n dyst i ymrwymiad ein cymuned i gofio ac anrhydeddu'r rhai a roddodd eu bywydau i wasanaethu'n gwlad."
Mae'n anrhydedd i'r Cyngor barhau i ddatblygu'r prosiect yma er mwyn sicrhau bod straeon y rhai a fu farw'n cael eu deall a'u cofio.
Mae ein gwirfoddolwyr wedi rhannu rhywfaint o'u cynnydd a'u profiadau hyd yn hyn:
Rhannodd Debra Williams: "Mae gwneud y gwaith ymchwil yma wedi bod yn fraint. Mae'n dechrau'n syml gydag enw ar gofeb. Rydyn ni i gyd wedi cerdded heibio'r cofebion yma ers yn ifanc, ond mae'r enw yna'n ehangu i ddatgelu'r ddrama wirioneddol; bywyd yr unigolyn a'i deulu.
"Rydw i wedi dod o hyd i gefndir teuluol diddorol unigolyn sydd wedi'i enwi ar gofeb Abercynon - Sarsiant y Llu Awyr Brenhinol a fu farw ym 1944. Cafodd ei eni yn Abercynon yn 1921 ond mudodd y teulu i Ganada yn 1926. Roedd gan y tad siop fara yn Abercynon ond symudodd y busnes yma i Alberta, Canada. Edrychais ar gyfrifiad Canada ar gyfer 1931 a sylwais ar y teulu, gan gynnwys y mab a fyddai'n ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol wedi hynny ac yn cael ei ladd yn ymladd dros ei wlad enedigol.
"Yn fwy diweddar wrth ymchwilio i gofeb Pontypridd, rydw i wedi cael cipolwg ar rôl menywod mewn rhyfel. Menyw a fu farw yn 1942 ac sydd wedi'i chladdu ym mynwent Aberpennar. Roedd hi'n gweithio yn y ffatri awyrennau yn Filton, Bryste, yn gweithio ar rannau awyrennau ar gyfer ymdrech y rhyfel. Cefais i wybod am ymosodiad bomio ar y ffatri ym mis Medi 1940. Cafodd ei hanafu yno ar 25 Medi 1940 a bu farw yn ei chartref yn Abercynon ym mis Chwefror 1942. Roedd hi'n 45 oed pan fu farw. Fe ddes i o hyd i gyfeiriad at ei thad yn unig, felly dydw i ddim yn gwybod a oedd hi'n briod neu a oedd ganddi ei theulu ei hun, ond gweithiodd hi'n annibynnol ar gyfer ymdrech y rhyfel a rhoddodd ei bywyd yr un mor gyfartal â'r rhai a fu farw dramor."
Mae gwirfoddolwr arall, Karen Olds, hefyd wedi dysgu llawer o'r ymchwil: "Rydw i wedi cael gwybod drwy ymchwilio i'r enwau ar Gofeb Pontypridd nad oedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc a Gwlad Belg yn unig. Cafwyd brwydrau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn yr hyn a gafodd ei alw'n 'The Asiatic Theatres' a oedd yn cynnwys Mesopotamia, ac Irac. Mae James Robotham a John Wallace Romery yn cael eu cofio ar Gofeb Basra. Rydw i wedi darganfod bod dynion o'r ardal yma wedi marw mewn brwydr yn y 'Balkan Arena', gan gynnwys Salonika ac ymgyrch Gallipoli.
Rydw i hefyd wedi dysgu am arwyddocâd oedrannau'r rhai a fu farw. Roedd rhai yn 16 neu’n 17 oed ac roedd rhaid iddyn nhw gael caniatâd ar gyfer ymrestriad tymor byr. Byddai eu rhieni yn llofnodi ffurflen er mwyn rhoi caniatâd iddyn nhw ymrestru. Roedd eraill yn eu 30au, gan adael eu swyddi fel glowyr a'u teuluoedd i ymuno â'r fyddin, dim ond i farw ar faes y gad yn Ewrop neu ymhellach i ffwrdd yn y byd.
Mae Lynne Davies wedi darganfod stori deimladwy yn ymwneud â Chofeb Glynrhedynog: "Y brodyr Hardwidge - Corporal Thomas, yr Is-gorporal Henry a'r Preifat Morgan David. Bu farw'r tri yn y rhyfel yn 1916. Roedd Thomas a Henry yn rhan o 15fed Bataliwn y Gatrawd Gymreig a buon nhw farw yn yr un frwydr ar yr un diwrnod - 11/07/1916.
"Ar Ddydd Nadolig 1916, bu farw eu brawd hŷn Morgan (hefyd yn y Gatrawd Gymreig). Gadawon nhw dair gwraig yn weddw, a phedwar o blant yn ddi-dad. Mae Thomas a Henry wedi'u claddu mewn beddau cyfagos yn Ffrainc ond does dim bedd hysbys gan Morgan.
Yn ychwanegol at hyn, mae Peter Dineen yn cael ei goffáu yn Rhestr y Gwroniaid, Pontypridd. Gwasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a bu farw ym mis Medi 1919 gan adael ei weddw a'i fab ifanc o'r enw Peter ar ei ôl. Bu farw ei fab hefyd yn Arras yn 1940 ac mae ef hefyd wedi'i goffáu yn Rhestr y Gwroniaid, Pontypridd.”
Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau ymchwil a dysgu am y rheiny sydd wedi'u coffáu ar ein cofebion rhyfel? Rydyn ni'n gobeithio recriwtio rhagor o wirfoddolwyr ymchwil i helpu i ymchwilio i'r cofebion canlynol:
- Cilfynydd
- Hirwaun
- Llanharan
- Meisgyn
- Tŵr Cloc Penrhiwceiber
- Pen-y-graig
- Tonyrefail
- Ynys-y-bwl
Am ragor o wybodaeth neu i fynegi diddordeb, cysylltwch â: Rhian Hall trwy e-bostio Rhian.hall@rctcbc.gov.uk neu garfan y Lluoedd Arfog lluoeddarfog@rctcbc.gov.uk
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog RhCT
Wedi ei bostio ar 18/12/2024