Mae Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion Addysg wedi ymweld â'r safle adeiladu yng Nghwm Clydach lle mae ysgol 3-19 oed newydd yn cael ei hadeiladu ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd yr ysgol yn agor yn 2026 gyda chyfleusterau o'r safon uchaf, a bydd yn cynyddu nifer y lleoedd ysgol ADY yn y Fwrdeistref Sirol.
Cafodd y Cynghorydd Rhys Lewis ei groesawu i'r safle gan gontractwr y prosiect, Morgan Sindall Construction, ddydd Mercher, 20 Awst. Gwelodd y cynnydd sydd wedi'i wneud ers i'r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle ddiwedd mis Mawrth 2025 – roedd y gwaith wedi dechrau ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei gymeradwyo yn gynharach yn y mis.
Hefyd yn rhan o'r ymweliad roedd Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Mark Norris; Aelod o’r Senedd dros Gwm Rhondda, Buffy Williams; Pennaeth Gweithredol yr ysgol newydd, Aron Bradley, a gafodd ei benodi’n ddiweddar; a Chyfarwyddwr Addysg y Cyngor.
Yn 2024, cytunodd y Cabinet i sefydlu pumed ysgol ADY Rhondda Cynon Taf, gan ymrwymo i fuddsoddiad mawr sy'n ymateb i'r nifer cynyddol o ddisgyblion, cymhlethdod cynyddol anghenion disgyblion, a phwysau o ran capasiti yn y pedair ysgol ADY bresennol. Cytunwyd mai'r Pafiliynau, hen bencadlys y Cyngor, oedd yr opsiwn gorau ar gyfer lleoliad yr ysgol newydd. Mae rhagor o fanylion am gyfleusterau'r ysgol newydd i'w gweld ar waelod y diweddariad yma.
Aeth y grŵp ar daith o amgylch y safle adeiladu ddydd Mercher a chawson nhw yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith. Diolch i'r tywydd da, mae'r gwaith adeiladu'n mynd rhagddo'n dda. Mae'r gwaith i osod sylfeini'r adeilad, y systemau draenio a'r gwaith yn y maes parcio yn symud ymlaen yn gyflym. Roedd y cynllun wedi cyrraedd carreg filltir bwysig ar ddechrau mis Awst 2025 gyda gwaith i osod y ffrâm ddur ar gyfer yr adeilad newydd yn dechrau. Roedd ymwelwyr dydd Mercher wedi llofnodi'r ffrâm i ddathlu cam pwysig y gwaith adeiladu.
Mae'r contractwr hefyd wedi cwblhau'r gwaith o osod sylfeini'r pwll hydrotherapi a'r trampolîn. Bydd y rhain yn rhannau annatod o'r ddarpariaeth arbenigol y mae'r ysgol ADY newydd yn ei chynnig. Mae'r maes parcio newydd wedi'i gwblhau, tra bod y gwaith o adeiladu'r ffordd fynediad i safle'r ysgol yn mynd rhagddo. Bydd y gwaith sydd ar y gweill yn mynd rhagddo dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys gosod deciau cyfansawdd metel ar y ddau lawr.
Yn ogystal â'r prif waith adeiladu, mae Morgan Sindall hefyd yn cyflawni prosiectau lleol allweddol sydd â gwerth cymdeithasol, sy'n canolbwyntio ar fuddion parhaol yn y gymuned. Bydd y contractwr yn darparu amrywiaeth o weithgareddau addysgol i ymgysylltu â phobl ifanc leol, gan gynnwys gweithgareddau yn Ysgol Hen Felin – drwy ddarparu sesiynau yn ymdrin â'r thema o waith adeiladu, rhoi cipolwg ar yrfaoedd, a chynnig profiadau ymarferol.
Mae'r contractwr hefyd yn gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Pentref Cambrian ar sawl menter gymunedol sy'n cefnogi iechyd, lles a chynhwysiant. Mae pobl ifainc o Grŵp Ieuenctid Pen-rhys hefyd yn derbyn cefnogaeth o ran sgiliau gwaith allweddol trwy hyfforddiant, datblygu sgiliau a llwybrau cyflogaeth. Mae'r gweithgareddau yma'n cael eu cefnogi gan Bluewater Recruitment a Trivallis.
Mae gwaith adeiladu'r ysgol newydd yn elwa ar gyfraniad gwerth 75% gan Lywodraeth Cymru drwy'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: “Roedd gweld y cynnydd o ran adeiladu ysgol Anghenion Dysgu Ychwanegol o’r radd flaenaf yng Nghwm Clydach yn wych, a hoffwn ddiolch i Morgan Sindall am y croeso cynnes, ac i’r holl westeion a oedd yn bresennol am gefnogi’r prosiect. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Cyngor wedi dymchwel y safle, wedi sicrhau caniatâd cynllunio a chaniatâd Corff Cymeradwyo Systemau Draenio (SAB), ac wedi dechrau gwaith adeiladu – gan dynnu sylw at ein hymrwymiad i'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd erbyn hydref 2026.
“Mewn ymateb i’r pwysau sylweddol o ran capasiti yn ein hysgolion presennol, fe gefnogodd Aelodau’r Cabinet yr ysgol ADY yma, sef y bumed un yn y Fwrdeistref Sirol. Mae disgwyl i’r galw barhau i dyfu yn y dyfodol. Mae'r holl opsiynau i ehangu'r pedair ysgol ADY bresennol wedi'u hystyried, a daethpwyd i'r casgliad mai'r unig ddewis ymarferol arall yw adeiladu ysgol newydd i ddarparu capasiti ychwanegol. Bydd yr ysgol newydd yn diwallu ystod eang o anghenion. Bydd gan y disgyblion ysgol fodern, arloesol a diddorol.
“Bydd buddsoddiad ychwanegol gan y Cyngor mewn darpariaeth ADY yn golygu y bydd Safle Lloeren y Blynyddoedd Cynnar newydd yn cael ei sefydlu yn hen adeilad Canolfan Cymuned Tonyrefail, ynghyd â llety newydd i ddisgyblion ym Muarth-y-capel, Ynys-y-bwl, gyda'r ddau brosiect yn derbyn cymeradwyaeth derfynol gan y Cabinet ym mis Medi 2024.
“Bydd yr ysgol ADY newydd yng Nghwm Clydach yn derbyn buddsoddiad ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn hanfodol wrth barhau i’n helpu i ddod â chyfleoedd newydd i bobl ifanc. Yn ystod blwyddyn academaidd 2024/25, fe wnaethon ni gyflawni adeiladau newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, ac YGG Llyn y Forwyn - ochr yn ochr â buddsoddiad gwerth £79.9 miliwn ledled Pontypridd. Mae gwaith yn parhau i fynd rhagddo ar hyn o bryd i adeiladu ysgol gynradd newydd yng Nglyn-coch yn rhan o'r gyfran nesaf o fuddsoddiad, a fydd yn cynrychioli ymrwymiad ariannu gwerth £414 miliwn ar draws naw prosiect dros y chwe blynedd nesaf.
“Bydd y Cyngor yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar adeiladu’r ysgol ADY newydd ar gyfer Cwm Clydach, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion ar adegau allweddol yn ystod y misoedd nesaf. Rydw i’n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach i drawsnewid y safle’n gyfleuster o’r radd flaenaf y gall ein cymunedau deimlo'n falch iawn ohono.”
Bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau ADY cyfrwng Saesneg i 176 o ddisgyblion mewn adeilad deulawr sy'n bodloni safonau Carbon 'Sero Net' o ran gweithredu. Bydd paneli solar ffotofoltäig ar y to i ddarparu ynni i'r ysgol.
Bydd gan yr adeilad 23 o ystafelloedd dosbarth, pwll hydrotherapi, canolfan les, a mannau eraill. Bydd hefyd ardal awyr agored ddiogel ar y to, mannau dysgu a chwarae yn yr awyr agored, maes parcio â 79 o leoedd (gyda mannau gwefru cerbydau trydan), ardal 'gollwng/casglu', a storfa beiciau dan do. Bydd yr holl goetir o amgylch y safle yn cael ei gadw, a bydd System Ddraenio Gynaliadwy yn cael ei gosod.
Wedi ei bostio ar 22/08/2025