Skip to main content

Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw!

Untitled design - 2025-08-24T145656.774

Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed heddiw! 

Hoffai holl staff yr atyniad poblogaidd ddiolch i'r 850,000 o ymwelwyr – o bob oed a phob rhan o'r byd – sydd wedi ymweld ers ei ailagor yn swyddogol.

O'r nofwyr ben bore sy'n dod bob dydd hyd yn oed pan fo'r awyr yn dywyll a'r glaw yn drwm, i'r teuluoedd a'r grwpiau cymunedol sy'n cael hwyl yn sblasio yn yr haul ar y penwythnos ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae'r nofwyr dŵr oer, y nofwyr lôn yn ystod y dydd, dathlwyr Gŵyl San Steffan a Dydd Calan a'r rhai sy'n plymio i'r pwll wrth i'r haul fachlud, i gyd wedi helpu Lido Ponty i ddod yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd i dreulio amser yn Ne Cymru.

Ailagorwyd Lido Ponty yn swyddogol i'r cyhoedd ar 24 Awst 2015, gan nodi diwedd prosiect adfer enfawr, dwy flynedd o hyd, a gostiodd £6.3 miliwn ac a ariannwyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Chronfa Datblygu Ewrop Llywodraeth Cymru ar y pryd.

Cafodd y pyllau, a oedd wedi bod yn wag ac yn adfeiliedig ers 1991, eu hailadeiladu a'u hailagor. Cafodd nodweddion gwreiddiol y Lido pan agorodd am y tro cyntaf ym 1927, eu hadfer yn ofalus, gyda theils arbennig wedi'u mewnforio o Ewrop i atgyweirio'r to.

Cafodd yr adeilad Art Deco gwreiddiol, gan gynnwys yr ardaloedd newid a'r cawodydd awyr agored, ei adfer i'w ogoniant blaenorol yn barod i'w ailagor.

Ychwanegwyd caffi, ardal arddangos i ddathlu hanes yr adeilad a dangos ei waith adfer, ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod/parti, at y cyfleuster i gyfrannu at ei apêl newydd. Cwblhawyd y ddarpariaeth trwy ychwanegu'r pwll sblasio newydd gyda ffynnon i blant a'r maes chwarae antur gwych drws nesaf!

Yn dilyn yr agoriad swyddogol gan y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, dadorchuddiwyd Plac Glas i ddathlu'r nofwraig Jenny James, a hyfforddodd yn y Lido gwreiddiol.

Hi oedd y Gymraes gyntaf i nofio'r Sianel y ddwy ffordd – mae modd mwynhau ei stori, a rhai atgofion o'i gyrfa nofio, yn yr arddangosfa am ddim ar lawr uchaf yr adeilad.

Yn fuan wedyn, daeth y Brenin Charles a'r Frenhines Camilla i ymweld, ac mae'r hwyl wedi parhau ers i'r drysau agor!

Mae sesiynau nofio ben bore wedi cael eu cynnal, yn ogystal â sesiynau nofio yn ystod y dydd, sesiynau hwyl ar y penwythnos, partïon pwll a hyd yn oed dangosiad arbennig wrth ymyl y pwll o'r ffilm, Jaws!

Mae naw sesiwn nofio Gŵyl San Steffan boblogaidd wedi cael eu cynnal ac o ganlyniad, cafodd sesiwn nofio Dydd Calan ei hychwanegu yn 2022 – mae'r ddwy bob amser yn gwerthu allan.

Mae dau gant o bartïon pen-blwydd wedi cael eu cynnal, gan gynnig hwyl yn y pwll a bwyd yn yr ystafell barti. Mae grwpiau di-ri, o ysgolion i grwpiau cymorth i blant anabl neu blant dan anfantais, wedi treulio amser yn Lido Ponty.

Mae timau chwaraeon wedi defnyddio'r pyllau ar gyfer eu hadferiad a'u hyfforddiant, ac mae sawl person wedi dysgu nofio, neu wedi parhau â'u sesiynau nofio dŵr oer/nofio gwyllt yn y pyllau hefyd!

Mae Lido Ponty wedi bod yn lleoliad ffilmio ar gyfer rhaglenni teledu, ffilmiau a rhaglenni dogfen, yn ogystal â darllediadau radio, ac mae wedi croesawu ambell i berson enwog!

Yn 2024, cynigiodd Lido Ponty nofio ar y Maes yn rhan o'r Eisteddfod. Dyma oedd y tro cyntaf yn hanes yr ŵyl ddiwylliannol enfawr i gynnig o'r fath gael ei wneud. Mae Lido Ponty yn cynnal Parti Pwll Ponty ar gyfer Menter Iaith bob blwyddyn.

Wrth gwrs, er bod cymaint i'w ddathlu, allwn ni ddim anghofio dinistr Storm Dennis yn 2020, a adawodd Lido Ponty o dan ddŵr yr afon. Roedd rhaid symud dros 1,000 tunnell o falurion o'r safle ac roedd y lleoliad ar gau am bron i flwyddyn tra bod gwaith atgyweirio'n cael ei gynnal. Unwaith eto, diolch i ymroddiad y staff a chefnogaeth cwsmeriaid, ailagorwyd Lido Ponty (fel pe na bai dim wedi digwydd!) a dechreuodd yr hwyl eto!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Pa mor falch ydyn ni o fod yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty?

“Mae'n un o'r atyniadau mwyaf unigryw a hardd yng Nghymru, wedi'i leoli yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad yn nhref hanesyddol Pontypridd. Mae'n gymysgedd hyfryd o nodweddion gwreiddiol, hanesyddol ac awyrgylch modern i bawb ei fwynhau.

“Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers i Lido Ponty ailagor ac, yn 2027, byddwn ni'n nodi canmlwyddiant ers agor yr adeilad yn wreiddiol. Diolch i angerdd staff Lido Ponty, a chefnogaeth gyson cwsmeriaid, mae'n anhygoel gweld yr atyniad canmlwydd oed yma'n parhau i fynd o nerth i nerth.

“Rydyn ni wedi ymestyn y cynnig i gynnwys sesiynau nofio mewn dŵr oer a sesiynau dathlu tymhorol AC wedi llwyddo i gadw sesiynau nofio'n rhad ac am ddim i blant dan 16 oed am y 10 mlynedd diwethaf.

“Mae Pontypridd yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, gydag ardaloedd agored hardd a chyfleusterau yn y parc, hanes a diwylliant y dref, siopau hyfryd, y farchnad a lleoedd i fwyta, yfed ac ymlacio a theithiau cerdded cyfagos.

“Mae Lido Ponty yn falch o fod yn rhan o hynny. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi dros y 10 mlynedd diwethaf ac rydyn ni'n annog y rhai sydd heb fwynhau Lido Ponty, nac ardal ehangach Pontypridd, i ymweld yn fuan!”

Wedi ei bostio ar 24/08/2025