Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw am gynllun gwella sydd ar y gweill ym Maes Parcio Stryd y Dug yng Nghanol Tref Aberdâr, a fydd yn cynnwys gosod wyneb newydd yn y maes parcio cyfan. Er mwyn hwyluso'r gwaith, bydd angen lleihau capasiti'r maes parcio dros dro o 8 Medi.
O ddydd Llun, 8 Medi, bydd gwaith y cynllun yn dechrau i wella maes parcio Stryd y Dug – sydd wedi'i leoli yng nghanol y dref wrth ymyl Gorsaf Fysiau Aberdâr. Bydd yn cynnwys gwaith draenio a gwaith i wella mynediad i gerddwyr, yn ogystal â'r prif waith o osod wyneb newydd yn y maes parcio. Bydd y gwaith yn cynnwys cael gwared ar y gwaith bloc presennol a gosod wyneb tarmac newydd.
Mae'r cynllun yma'n hanfodol i newid y blociau palmant presennol, a gafodd eu gosod bron i 30 mlynedd yn ôl – mae nifer o'r blociau bellach yn dod yn rhydd ac yn suddo. Dyma'r rheswm dros gyflawni'r gwaith yn gynharach na'r disgwyl.
Er y bydd modd i'r maes parcio barhau i fod ar agor drwy gydol y cynllun tri mis, fydd dim modd osgoi'r gostyngiad i gapasiti'r maes parcio oherwydd natur y gwaith. Bydd llai o gapasiti am gyfnod dros dro yn unig.
Mae meysydd parcio eraill y Cyngor yn Adeiladau'r Goron, Nant Row, Rock Grounds a'r Ynys yn cynnig cyfleuster parcio arhosiad hir yng Nghanol Tref Aberdâr a'r cyffiniau. Mae Maes Parcio Glofa'r Gadlys hefyd yn cynnig cyfleuster parcio arhosiad hir ar gyfer deiliaid trwydded berthnasol. Mae meysydd parcio arhosiad byr (hyd at 4 awr) ar gael ym meysydd parcio Llyfrgell Aberdâr, Y Stryd Las a'r Stryd Fawr.
Bydd trefniadau aros amgen ar waith yn lle’r lôn dacsis ym Maes Parcio Stryd y Dug, a hynny am gyfnod y gwaith.
Nodwch, bydd angen cau'r maes parcio cyfan ar ddiwedd y cynllun er mwyn cyflawni'r gwaith o osod wyneb newydd a gosod llinellau gwyn. Bydd y Cyngor yn rhannu'r manylion yma'n agosach at yr amser, unwaith y byddan nhw wedi'u cadarnhau.
Bydd y cynllun yma'n cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid o raglen gyfalaf barhaus y Cyngor. Hoffai'r Cyngor ddiolch ymlaen llaw i bawb sy'n ymweld â Chanol Tref Aberdâr am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith. Mae'r trefniadau uchod yn hanfodol er mwyn diogelu Maes Parcio Stryd y Dug ar gyfer y dyfodol er budd y rhai sy'n parcio eu cerbydau yno.
Wedi ei bostio ar 26/08/2025