Skip to main content

Llwyddiant TGAU: Disgyblion yn dathlu eu canlyniadau ledled Rhondda Cynon Taf!

GCSE-2025-WELSH

Mae disgyblion Blwyddyn 11 ledled Rhondda Cynon Taf yn dathlu heddiw (dydd Iau, 21 Awst) wedi iddyn nhw dderbyn eu canlyniadau TGAU. Mae heddiw yn nodi carreg filltir sylweddol ar eu taith addysgol, gan ddangos canlyniadau gwaith caled ac ymroddiad y disgyblion a staff yr ysgolion.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Rhondda Cynon Taf sydd wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae heddiw yn nodi dathliad arbennig o'n cymuned yn dod at ei gilydd i helpu ein disgyblion i ffynnu.

“Mae'n bwysig cydnabod na fyddai ein disgyblion wedi llwyddo heb gymorth ac anogaeth wych staff ein hysgolion a chymuned ehangach yr ysgolion - sy'n cynnwys rhieni a gwarcheidwaid. Diolch am eich ymroddiad i'n pobl ifainc bob dydd.” 

Meddai Gaynor Davies – Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, Cyngor Rhondda Cynon Taf:  "Mae diwrnod canlyniadau TGAU bob tro'n ein hatgoffa ni mewn ffordd bŵerus o’r hyn mae modd i'n pobl ifainc ei gyflawni drwy ymroddiad, dyfalbarhad a'r gefnogaeth gywir. Hoffwn i longyfarch pob disgybl sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw, dylen nhw fod yn falch iawn o'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni. 

“Mae'n hyfryd gweld disgyblion a staff yn gwenu yn ein hysgolion y bore yma. Hoffwn i ddymuno pob lwc i bob disgybl Blwyddyn 11 wrth i chi gychwyn ar ran nesaf eich taith – boed hynny’n dychwelyd i’r chweched dosbarth, mynychu’r coleg, dechrau hyfforddiant, neu gamu i fyd gwaith.

"Rwyf hefyd eisiau diolch i staff ein hysgolion, y mae eu hymrwymiad a'u gwaith caled wedi bod yn allweddol wrth gefnogi ac arwain ein disgyblion drwy'r blynyddoedd pwysig yma yn eu bywydau. Ac i'r teuluoedd a gwarcheidwaid, am eu cymorth ac anogaeth y tu ôl i'r llenni.

"Mae gyda ni gymorth ychwanegol ar gael yn ein hysgolion ar gyfer y rheiny nad ydyn nhw wedi cyflawni'r hyn yr oedden nhw'n ei ddisgwyl, ac ar gyfer y rheiny sy'n ansicr o'u camau nesaf."

Nodwch fod cymorth a chyngor parhaus ar gael i ddisgyblion nad ydyn nhw'n siŵr am eu camau nesaf – a hynny gan staff ysgolion a Gyrfa Cymru.  Rydyn ni wedi cynnwys dolenni defnyddiol isod.

Gyrfa Cymru | Gyrfa Cymru

Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant - Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid

Llwybrau Ôl-16 | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Dewch o hyd i ragor o gymorth yma: Cefnogaeth i Fyfyrwyr CBAC

Wedi ei bostio ar 21/08/2025