Skip to main content

Byddwch yn barod i gael eich dychryn!

Untitled design (35)

Mae’r Rhialtwch Calan Gaeaf yn dychwelyd i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda – 29 a 30 Hydref!

Ym mis Hydref eleni, bydd Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn trawsnewid yn lle llawn hwyl i deuluoedd wrth i'r Rhialtwch Calan Gaeaf poblogaidd ddychwelyd unwaith eto! Wedi'i leoli yng nghanol Trehafod, mae'r atyniad twristiaid poblogaidd yn paratoi ar gyfer dau ddiwrnod o gyffro brawychus a chwerthin arswydus.

Atyniadau newydd yn 2025! Mae'r cyffro hyd yn oed yn fwy eleni, gyda sesiynau cyfnos newydd sbon yn dod â pherfformwyr tân a pherfformwyr eraill wrth i'r syrcas arswydus gyrraedd!

Mae tocyn pob plentyn yn cynnwys 7 profiad arswydus:

Pigo Pwmpen o'r Bwmpenfa: Crwydrwch drwy ein pwmpenfa berffaith i ddewis eich pwmpen eich hun i fynd â hi adref a'i cherfio.

Helfa Calan Gaeaf: Chwiliwch am ysbrydion cudd o amgylch yr amgueddfa, casglwch stampiau, ac enillwch losin...neu lanast!

Sioe Calan Gaeaf: Mwynhewch berfformiad newydd sbon yn llawn hwyl arswydus.

Crefftau Codi Ofn: Creu celf ryfeddol mewn gweithdai Calan Gaeaf ymarferol.

Mannau Lluniau Arswydus: Tynnwch hunluniau bwganllydyn ein gorsafoedd tynnu lluniau brawychus.

Adfail y Pwll Glo: Mentrwch o dan y ddaear i gwrdd â sgerbydau sy'n canu a mwy! Bydd Patch y Bwmpen yn aros i ddweud helo!

Ffair Hwyl Fang-tastig: Neidiwch ar ddwy reid glasurol i blant - gwych ar gyfer eich angenfilod bach.

Sesiynau cyfnos: Mae ein sesiynau cyfnos newydd sbon yn cynnwys yr holl bethau uchod YN OGYSTAL ag adloniant o'r syrcas arswydus… bydd perfformwyr tân a mwy yno!

Amseroedd

  • 10am – 12pm
  • 12.30pm – 2.30pm
  • 3pm – 5pm
  • Sesiwn gyfnos 6pm – 8pm

Prisiau'r Tocynnau

  • £10 fesul plentyn sy'n cymryd rhan (mae babanod dan 12 mis oed am ddim)
  • £3.50 yr oedolyn

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:  

"Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnig profiad cofiadwy drwy gydol y flwyddyn, diolch i'w theithiau tanddaearol, arddangosfeydd diddorol, ac achlysuron amrywiol. Ond pan fydd Rhialtwch Calan Gaeaf yn cychwyn, mae'r lleoliad â haen ychwanegol o hud a dirgelwch.

Denodd atyniad lliwgar Adfail y Pwll Glo y llynedd, cartref i'w bwmpen ei hun o'r enw Patch, lawer o deuluoedd gyda'i syrpreisys arswydus ym mhob twll a chornel. Fis Hydref eleni, mae hyd yn oed mwy o gyffro ar y gweill, gyda dyfodiad criw o'r syrcas arswydus ar gyfer y sesiynau cyfnos newydd sbon rhwng 6pm ac 8pm. Disgwyliwch berfformwyr tân, diddanwyr dychrynllyd, a pherfformiadau cyffrous sy'n dod â'r awyrgylch bwganllyd yn fyw ar ôl iddi dywyllu.”

P'un a ydych chi'n ymweld yn ystod y dydd neu gyda'r nos, mae tocyn i Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda bob amser yn addo rhaglen lawn o weithgareddau a hwyl i'r teulu.

Mae tocynnau ar gyfer Rhialtwch Calan Gaeaf ar werth yma.

Wedi ei bostio ar 19/08/2025